Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Gwyl Llesiant / Wellbeing Festival, Ieuenctid Gwynedd Youth

Mae’r Ŵyl Llesiant yn canolbwyntio ar hybu iechyd meddwl a lles, gan ddarparu mynediad hawdd i bobl ifanc at wybodaeth a chefnogaeth gan ystod o wasanaethau. 

Y bwriad cychwynnol oedd y byddai ymarferwyr gwaith ieuenctid a grŵp o 15 o bobl ifanc yn cydgynllunio cynhadledd dwy awr. Fodd bynnag, yn sgil dymuniad i ddod â newid cadarnhaol i'w cymunedau, bu’r bobl ifanc yn arwain ar y cynllun hwn ac yn ei ddatblygu ymhellach i fod yn ŵyl wythnos o hyd ledled sir Gwynedd. Gweithiodd ymarferwyr yn ddiflino i gefnogi'r grŵp o bobl ifanc drwy gydol y cyfnod hwn, gan hwyluso’r ffordd i gydweithio â 31 o sefydliadau o'r sectorau gwirfoddol a statudol i gynnal yr ŵyl.

Roedd yr ŵyl yn llwyddiant ysgubol – yn hwyl, llawn gwybodaeth, yn ddwyieithog a chynhwysol. Ledled Gwynedd, cynhaliwyd 49 sesiwn amrywiol yn ystod yr wythnos a dosbarthwyd dros 700 o flychau lles. Cafodd hyn effaith hynod gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc.

Tynnodd y beirniaid sylw at y modd y mae'r ŵyl wedi helpu i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau ar gyfer y dyfodol. Mae'r berthynas newydd rhwng y rhai sy'n cefnogi’r gwaith o gynnal yr ŵyl yn rhychwantu ffiniau sefydliadol, sy’n dangos sut y gall asiantaethau a gwasanaethau wella profiadau i bobl ifanc wrth weithio mewn partneriaeth.