Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

David Stallard, Mixtup

Mae David wedi bod yn wirfoddolwr hynod ymroddedig gyda Mixtup ers ei sefydlu yn 2011. O’r cychwyn cyntaf, mae wedi helpu i'w lywio o fod yn brosiect, i fod yn ddarpariaeth annibynnol, i fod yn elusen sefydledig. Yn ogystal â gweithio’n llawn amser, mae David yn rhoi ei amser ar benwythnosau a nosweithiau yn rheolaidd i wirfoddoli. Mae'n gweithio'n ddiflino i helpu i gynnig darpariaeth ieuenctid sefydledig sy'n cynnwys pob person ifanc, beth bynnag eu heriau personol mewn bywyd. Mae'n gwirfoddoli'n rheolaidd mewn sesiynau, yn ymddiriedolwr ymroddedig, yn oruchwyliwr amhrisiadwy, ac ef hefyd yw Swyddog Amddiffyn a Diogelu Plant y sefydliad.

Mae David yn garedig a gofalgar, mae’n gefnogol ac mae ganddo galon fawr. Mae'n sylwi’n syth ar bobl ifanc sy'n ei chael yn anoddach cymryd rhan mewn gweithgareddau, ac mae’n siarad â nhw i wneud yn siŵr eu bod yn gallu gwneud yr hyn y maent eisiau ei wneud. Tynnodd y panel beirniaid sylw at yr effaith enfawr y mae'n ei chael ar y bobl ifanc yn Mixtup, ei ymroddiad hirdymor a'i allu amlwg i ysbrydoli'r rhai o'i gwmpas

Yng ngeiriau Jo Stephens, Rheolwr Prosiect yn Mixtup, "Mae'r oriau o wirfoddoli y mae David wedi'u rhoi i Mixtup y tu hwnt i'w cyfrif. Does dim modd mesur yr effaith gadarnhaol y mae ei gyfraniad e wedi'i chael dros y blynyddoedd. Ac mae'n gwneud y cyfan am ychydig o fisgedi. Mae angen rhywun fel Dave ar bob sefydliad - ond dydyn ni ddim am ei rannu!”.