Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

David Williams, Torfaen Youth Service

David yw Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen, rôl sy'n cynnwys cyfrifoldeb dros glybiau ieuenctid cymunedol lleol, gwaith ieuenctid 'allan ar y strydoedd' drwy dîm arall, gwaith ieuenctid o fewn ysgolion lleol, ac amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni ieuenctid cyffrous ac arloesol.

Yn ogystal â'r rôl brysur hon, mae David yn frwd dros godi proffil gwaith ieuenctid drwy gymryd rhan mewn ystod o grwpiau trawslywodraethol, a gan gadeirio’r Grŵp Prif Swyddogion Gwaith Ieuenctid yn ddiweddar. Mae hefyd yn parhau i wasanaethu fel arweinydd gwirfoddol mewn clwb ieuenctid lleol, gan gynnal y cysylltiad hwnnw â sefydliad llawr gwlad.

Tynnodd y panel beirniaid sylw at y ffaith bod arweinyddiaeth David yn gynhwysol, yn gydweithredol ac yn gynnes. Yn ogystal â bod yn rheolwr hynod alluog, mae’n ysbrydoli ei dîm drwy'r hyn y mae cydweithwyr yn ei ddisgrifio fel "brwdfrydedd heintus" a pharodrwydd i "symud nefoedd a daear i gefnogi pobl ifanc”. Mae’n rôl-fodel ardderchog ym mhob ffordd, yn barod iawn i gydnabod cyfraniad eraill a rhannu gwybodaeth, gan annog ei dîm i ddatblygu a symud ymlaen.

Cyfrannodd David at greu Rhaglen Brentisiaethau Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen, gan helpu i recriwtio gweithwyr ieuenctid drwy ddull organig. Bu’n llwyddiannus iawn, ac mae nifer o brentisiaid ifanc wedi ennill cymwysterau a chael gwaith amser llawn.

Cyflwynodd hefyd drefniant secondiad i seicolegydd addysg weithio o fewn Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen i gefnogi gweithwyr ieuenctid drwy helpu i ddatblygu strategaethau a deunyddiau dysgu effeithiol pwrpasol.

I gydnabod yr arferion rhagorol o ran gwaith ieuenctid a gyflawnwyd dan arweinyddiaeth David, enillodd Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen wobrau Marc Ansawdd arian ac aur yn ddiweddar, a chafodd ei gydnabod hefyd gan Estyn yn ei adroddiad ar Wasanaethau Addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen 2022 am ansawdd y gwasanaeth gwaith ieuenctid. Daeth y beirniaid i'r casgliad bod David yn dangos arweinyddiaeth eithriadol. Mae'n ysbrydoli, yn arwain staff, yn datblygu talent, ac yn cydweithio'n dda - gan barhau ar yr un pryd i fod yn ymroddedig dros ben i wella cyfleoedd i bobl ifanc.