Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

GISDA

Mae GISDA yn elusen sy’n arddangos arferion ardderchog ym maes gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n darparu cefnogaeth gydag anghenion llety; sgiliau byw'n annibynnol; addysg, cyflogaeth a chyfleoedd; a lles a iechyd meddwl.

Wrth galon gwasanaethau GISDA mae'r gred bod gwerth eithriadol i allu darparu gwasanaethau yn newis iaith person ifanc.  Cynigir cymorth a hyfforddiant i staff sydd angen help i dyfu mewn hyder neu i wella'u sgiliau Cymraeg, er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa i ddarparu'r cymorth priodol i bobl ifanc fregus yn eu mamiaith.

Cydnabu’r panel beirniaid fod y gwasanaeth y mae GISDA yn ei ddarparu yn arbennig ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl ifanc. Tynnwyd sylw at sylwadau gan bobl ifanc a oedd yn dweud y byddent mae’n debyg "ar soffa ffrindiau", yn "mynd o dŷ i dŷ", neu "wedi marw mae’n siwr” oni bai am GISDA. Heb os nac onibai, mae gallu cyfathrebu ym mamiaith person ifanc wrth drafod materion sensitif yn gwella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir yn aruthrol.