Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Hannah Lewis, The Hwb, Torfaen

Mae Hannah yn weithiwr ieuenctid cymwysedig yn Yr Hwb, Blaenafon, lle mae'n cael effaith enfawr ar yr holl staff, y bobl ifanc a'r asiantaethau partner y mae'n ymwneud â nhw.

Mae prif rôl Hannah yn cyfuno cydlynu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau i bobl ifanc ym Mlaenafon drwy bartneriaeth a hefyd darparu’r gwasanaethau yn uniongyrchol i’r bobl ifanc. Partneriaeth arloesol yw Yr Hwb rhwng gwasanaeth ieuenctid yr awdurdod lleol a'r sefydliad trydydd sector, Hwb Torfaen – mae'n achubiaeth i bobl ifanc Blaenafon. Mae'n cynnig cyfleoedd gwych i bobl ifanc yn un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn Nhorfaen, gan dynnu ar yr adnoddau gorau sydd gan y sector statudol a’r trydydd sector i'w cynnig.

Mae Hannah hefyd yn cefnogi pobl ifanc sydd â Diabetes Math 1 drwy brosiect partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, lle mae'n darparu cyswllt rhwng y person ifanc a'r gwasanaeth iechyd, gan wella’r cyfathrebu a chryfhau cydberthnasau.

Tynnodd y panel beirniaid sylw at lwyddiant Hannah o ran hyrwyddo gwaith ieuenctid ymhlith partneriaid yn lleol. Fel unigolyn mae'n ddeinamig, yn frwdfrydig ac ymroddedig. Mae Hannah yn enghraifft wych o'r ffordd y gall cydweithio a defnyddio gwaith ieuenctid fel sail i ymgysylltu â phobl ifanc wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chynaliadwy ym mywydau pobl ifanc.