Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Heulwen O’Callaghan, Prosiect Arweinyddiaeth Iau

Mae Heulwen yn weithiwr ieuenctid cymwysedig o fewn Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gâr, ac mae ei chylch gwaith yn cwmpasu’r sir gyfan. Mae'n angerddol dros greu cyfleoedd cynhwysol a sicrhau cyfle cyfartal i bobl ifanc lleol Cymraeg gael manteisio arnynt.

Yn ei rôl fel Gweithiwr Cyfranogi, mae Heulwen wedi datblygu, ysgrifennu a chreu Cymhwyster Arweinyddiaeth Iau sy'n galluogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau drwy wirfoddoli, datblygu dealltwriaeth o waith ieuenctid, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig (Agored Cymru).  Canolbwyntiodd Heulwen ar ddatblygu cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg, gan weithio gyda sefydliadau partner yn y sector gwirfoddol i alluogi pobl ifanc lleol i ymgymryd â chyfleoedd nad oeddent ar gael iddynt yn y Gymraeg o’r blaen.

Mae'r Prosiect Arweinyddiaeth Iau wedi creu cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu â'u cyfoedion mewn gofod diogel, yn eu dewis iaith, gydag oedolion dibynadwy. Mae’r partneriaethau a ddatblygwyd o fewn y gymuned leol a chyda'r sector gwirfoddol yn hybu'r Gymraeg mewn ffordd bendant drwyr gwaith ymyrraeth ieuecntid cefnogol hefyd. Yn ogystal â'r arfer ardderchog a ddilynwyd a'r effaith gadarnhaol ar bobl ifanc yn lleol, cydnabu'r panel beirniaid botensial enfawr y prosiect o ran cyfleoedd yn y dyfodol i ehangu darpariaeth gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg.