Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Inspire, Youth Work in Hospital

Mae Inspire yn brosiect yn Ysbyty Maelor, Wrecsam. Cychwynnodd fel partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac ers hynny, mae wedi ehangu’r ddarpariaeth i Sir y Fflint.

Mae Inspire yn rhoi cymorth i bobl ifanc sy’n dod i’r ysbyty oherwydd hunan-niwed, a’r prif fwriad yw lleihau’r cyfraddau sy’n dychwelyd i’r ysbyty. Mae'r prosiect yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol o weithwyr ieuenctid a seicolegwyr cynorthwyol sy'n gweithio'n holistaidd i gefnogi pob person ifanc.

Wrth gefnogi person ifanc ar sail un-i-un, mae gweithwyr ieuenctid Inspire yn cysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill y mae'r person ifanc yn ymwneud â nhw. Mae hyn yn helpu’r llif cyfathrebu a phontio rhwng gwasanaethau, gan sicrhau bod anghenion a dymuniadau person ifanc yn cael eu diwallu. Mae'n cynnwys gweithio ar y cyd â gweithwyr cymdeithasol, ysgolion a cholegau, cwnselwyr, CAMHS, gwasanaethau arbenigol ac eraill. Mae'r gweithwyr ieuenctid yn gweithio dros fuddiannau pobl ifanc ac yn hyblyg yn eu dull gweithredu yn ôl anghenion yr unigolyn, ei sefyllfa a’i anawsterau, a'r hyn y mae am ei gyflawni.

Amlygodd y panel beirniaid sut mae dull gweithredu hynod lwyddiannus Inspire yn galluogi i werth gwaith ieuenctid mewn lleoliadau iechyd gael ei gydnabod yn ehangach. Mae'r prosiect yn parhau i dyfu, ac mae timau meddygol eraill bellach yn dewis buddsoddi mewn gweithwyr ieuenctid Inspire a’u harbenigedd.