Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Lin Brackenbury, Boys’ and Girls’ Clubs of Wales

Mae Lin yn weithiwr ieuenctid profiadol, cymwysedig ac yn uwch aelod o staff Clwb Ieuenctid Lleferydd ac Iaith y Dreigiau Newydd, yn Sir y Fflint.

Mae'r clwb yn darparu gofod ar gyfer pobl ifanc sy'n wynebu anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu sylweddol, gan gynnwys pobl ifanc ag awtistiaeth, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, syndrom Down a pharlys yr ymennydd. Mae'n achubiaeth i lawer o'i aelodau, gan mai dyma'r unig gyfle yn aml sydd ganddynt i gymdeithasu â ffrindiau y tu allan i'r ysgol. Mae ymuno â sesiynau wythnosol wedi bod yn gam pwysig i'r rhai sy'n mynychu, ac wedi eu grymuso i fagu hyder a rhyngweithio â phobl ifanc eraill.  

Roedd y panel beirniaid yn teimlo bod Lin yn gwneud gwaith o safon eithriadol, a hynny’n gyson, ei bod yn arweinydd tîm sy’n ysbrydoli ac sydd â chydberthynas gwych gyda'r bobl ifanc y mae'n eu cefnogi. Mae'n sicrhau bod y bobl ifanc yn teimlo'n ddiogel ac wedi'u cynnwys, a’u bod yn gallu datblygu eu sgiliau cymdeithasol a gwneud ffrindiau mewn amgylchedd lle nad ydynt bellach yn cael eu gwthio i’r cyrion am eu bod yn anabl. Yng ngeiriau un rhiant, "Mae Lin yn berson anhygoel sydd wedi trawsnewid bywyd fy mhlentyn drwy ei rôl yng Nghlwb Ieuenctid Lleferydd ac Iaith y Dreigiau Newydd.”