Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Yarn Trail, Blaenau Gwent Youth Service

Dyfeisiwyd y prosiect 'Llwybr Gwlân' mewn ymateb i'r bobl ifanc a oedd yn teimlo wedi’u hynysu yn sgil y pandemig a'u hawydd i feithrin cysylltiadau â'u cymuned. Y bwriad oedd dod â phobl ifanc at ei gilydd i fynegi eu hunain drwy'r celfyddydau, gan ehangu grwpiau cyfeillgarwch a datblygu sgiliau cymdeithasol ar yr un pryd.

Sefydlwyd partneriaeth gydweithredol hynod effeithiol rhwng Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent a Tai Calon i fwrw ymlaen â'r prosiect. Cefnogodd y bartneriaeth y gwaith o ddarparu pecynnau gwlân yn rhad ac am ddim, a sefydlwyd grwpiau lles a oedd yn annog pobl ifanc i ymuno ag aelodau eraill o'r gymuned i ddylunio a chreu eitemau lliwgar.

Roedd y beirniaid yn canmol y dull gweithredu cynhwysol. O ganlyniad, sefydlwyd deugain o grwpiau gwahanol a chymerodd dros 400 o bobl ran mewn sesiynau creadigol. Penllanw'r prosiect oedd arddangosfa yn Nhŷ Bedwellty yn Nhredegar. Bu cannoedd yn ymweld â’r arddangosfa. Mae’r sesiynau lles sy’n dal i gael eu cynnal yn sicrhau bod y prosiect yn parhau i gael effaith enfawr yn y gymuned. Ysbrydolodd y prosiect greadigrwydd, gan gynnig llawer o gyfleoedd i feithrin cydberthnasau pwysig a oedd yn pontio'r cenedlaethau.