Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mixtup

Clwb ieuenctid i bobl ifanc gallu cymysg rhwng 11 a 25 oed yw Mixtup. Mae'r sefydliad yn darparu ystod helaeth ac amrywiol o sesiynau clybiau ieuenctid hygyrch, teithiau ac ymweliadau, a gweithgareddau eraill. Mae hyn yn caniatáu i aelodau sy'n aml yn wynebu heriau corfforol ac emosiynol sylweddol gael hwyl a rhoi cynnig ar weithgareddau newydd o bob math mewn amgylchedd diogel, lle gallant fagu hyder a hunan-werth, a lleihau ymdeimlad o ynysu cymdeithasol. 

Mae Mixtup wedi ei gwneud yn bosibl trefnu nifer anhygoel o brofiadau cadarnhaol i'w aelodau eleni, er gwaethaf yr heriau yn dilyn y pandemig a'r rhwystrau ychwanegol niferus y mae llawer o'i aelodau yn eu hwynebu yn ddyddiol. Cynrychiolodd yr aelodau Mixtup fel Llysgenhadon Cymunedol ar gyfer y Comisiynydd Plant, a gwnaeth Mixtup ei ffilm ei hun hyd yn oed, sef 'The Mixtup Museum’.

Roedd yn amlwg i'r panel beirniaid bod pobl ifanc sy'n mynychu Mixtup yn ystyried mai dyma eu lle diogel, eu teulu oddi cartref, a bod llawer o bobl ifanc yn dibynnu ar y grŵp i gymdeithasu. Dywedwyd ei fod yn cynnig cyfleoedd gwych sy'n cael effaith enfawr ar bobl ifanc a'u teuluoedd.