Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Nick Corrigan, Media Academy Cymru

Ers dros 30 mlynedd mae Nick wedi arwain gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Mae wedi treulio dros 20 mlynedd yn canolbwyntio ar wasanaethau yng Nghymru, a sefydlodd Media Academy Cymru (MAC) 13 mlynedd yn ôl.

Yn angerddol dros werth gwaith ieuenctid, mae Nick wedi herio partneriaid statudol yn aml i ystyried pŵer methodoleg gwaith ieuenctid mewn gwahanol gyd-destunau. Gwelwyd yr enghraifft orau o hyn pan grëwyd rhaglenni dargyfeirio ar gyfer y system cyfiawnder troseddol ar gyfer plant ac oedolion ifanc. Yn eu sgil mae tua 17,000 o blant a phobl ifanc wedi osgoi cael record droseddol. Nick a'i dîm fu'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith hwn, sydd wedi cael ei roi ar waith ledled Cymru bellach.

Gan arwain y ffordd ar weithgarwch ymhlith ieuenctid sy’n mynd i’r afael â chwestiwn trais, mae gan Nick berthynas weithio gref â heddluoedd, swyddfeydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, y Swyddfa Gartref, a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’n hyrwyddo gwaith ieuenctid yn ei rolau eraill hefyd, gan gynnwys fel Cadeirydd Cerdd Gymunedol Cymru; Cadeirydd Green Willow; ac aelod o banel arbenigol y Gronfa Gwaddol Ieuenctid. Yn ogystal, mae Nick yn cael ei wahodd i ddarlithio yn nhri o brifysgolion Cymru.

Mae effaith Nick ar unigolion hefyd yn eithriadol. Fel y mae un person ifanc yn ei ddweud, 'Roedd yn gwrando. Mi ges i ‘nghlywed, roedd yn rhoi gwerth arna’ i, roeddwn i'n teimlo ei fod eisiau imi lwyddo’. Cymeradwyodd y panel beirniadu ymroddiad a gallu Nick i gysylltu â phobl ifanc, gan dynnu sylw at ehangder ei brofiad a'i ymrwymiad i hyrwyddo'r gwaith ieuenctid ymhell y tu hwnt i'r sector.