Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

STAND North Wales Youth Zone

Clwb ar-lein i bobl ifanc rhwng 12 ac 18 oed yw Parth Ieuenctid STAND Gogledd Cymru. Mae’r bobl ifanc ag ystod o heriau dysgu neu gymdeithasol megis awtistiaeth, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, gorbryder difrifol, mudandod detholus a phroblemau clyw. Gall pob un o'r rhain effeithio ar allu'r person ifanc i gyfathrebu ag eraill a datblygu cydberthnasau ystyrlon.

Cefnogir y grŵp i gynllunio pob sesiwn, gydag amser i sgwrsio a chael hwyl drwy gemau, cwisiau a gweithgareddau fel gwrando ar gerddoriaeth a chanu. Cynhelir sesiynau meddwlgarwch i helpu'r bobl ifanc ymlacio hefyd. Mae'r Parth Ieuenctid wedi'i strwythuro i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu sgwrsio wyneb yn wyneb a hefyd defnyddio'r 'ystafell sgwrsio' rithiol os ydynt yn ei chael yn anodd siarad ar ddiwedd diwrnod heriol. Mae'n cynnig lle diogel a chefnogol i rannu pethau hapus ac anodd, ac i dderbyn cymorth gan gyfoedion a gweithwyr ieuenctid.

Mae'r Parth Ieuenctid yn fwrlwm wythnosol o sgyrsiau wyneb yn wyneb a sgyrsiau teipio, ac mae pob person ifanc bellach yn cadw eu camerâu ymlaen, sy'n destun boddhad mawr yn dilyn y pryderon cymdeithasol gwreiddiol a fynegwyd gan rieni a gweithwyr proffesiynol y bobl ifanc. Cydnabu’r beirniaid fod cynyddu lefelau’r cyfranogiad a’r grymuso yn gyflawniadau enfawr i'r grŵp hwn, sy'n dangos potensial mawr ar gyfer y dyfodol.