Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Ruth Letten, Manager of the CONNECT service, Adoption UK

Ruth Letten yw Rheolwr CONNECT, fframwaith cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu. Datblygwyd CONNECT drwy drefniant cydweithredu rhwng Adoption UK Cymru a’r pum gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol sydd, gyda’i gilydd, yn creu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Mae’n sicrhau cymorth i blant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu ledled Cymru.

Mae Ruth yn gweithio mewn partneriaeth â’r pum gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol drwy Gymru gyfan. Mae Ruth a’i thîm, sy’n arwain ar y gwaith o ddatblygu CONNECT, wedi cyflwyno egwyddorion gwaith ieuenctid i dimau gofal cymdeithasol sy’n darparu gwasanaethau mabwysiadu.

Cydnabu’r panel beirniaid fod Ruth wedi goresgyn her sylweddol wrth weithio â phob rhanbarth i’w helpu i ddeall sut beth yw’r model gwaith ieuenctid a pham mai hwn yw’r dull gweithredu gorau ar gyfer cydweithio â phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu mewn ffordd sy’n sicrhau ymgysylltiad go iawn. Mae tîm Ruth bellach yn cynnal sesiynau misol, sef  ‘Connected’, ar gyfer pobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu, sef rhai o’r unigolion mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Mae’r dull gweithredu a gafodd ei hybu gan Ruth yn cael ei dderbyn yn eang erbyn hyn ac mae CONNECT yn cael ei ddatblygu ar gyfer ei weithredu ledled y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, sy’n llwyddiant rhyfeddol.