Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Stuart Parkinson, Deaf Hub Wales

Mae Stuart wedi bod yn weithiwr ieuenctid ers dros 20 mlynedd. Ef yw prif weithiwr ieuenctid Hwb Byddar Cymru, sydd wedi bod yn 'ofod diogel' i bobl fyddar yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ers dros bedwar degawd. Mae Stuart wedi sicrhau mai ethos Clwb Ieuenctid Byddar Cŵl Caerdydd yw ei fod yn agored i bawb, ac yn arbennig i’r rhai a allai fod wedi profi ynysu, eu gwthio i’r cyrion, camfanteisio neu wahaniaethu, neu i’r rheini sy’n cymryd eu hamser i ymgyfarwyddo â’u hunaniaeth fel unigolion byddar.

Mae Stuart yn helpu datblygiad pobl ifanc fyddar yn emosiynol ac yn seicolegol drwy roi cyfleoedd iddynt gwrdd â rôl-fodelau byddar cryf ac i fwynhau profiadau sy'n gwella ansawdd eu bywydau. Mae'n cydweithio â'i dîm i greu gweithgareddau, gwybodaeth ac adnoddau cynhwysol - gan hwyluso bywyd i bobl ifanc fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae Stuart yn sicrhau bod darpariaeth ieuenctid a chymorth ieuenctid o safon yn cael eu cynnig i bawb. Mae'n aml yn meddwl am ei brofiadau ei hun fel person ifanc byddar ac yn rhannu’r dylanwad gafodd sefydliadau ieuenctid fel Friends of Young Deaf (FYD) ar ei fywyd ef. Mae hefyd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr sy'n rhan o brosiectau a grwpiau cymunedol, gan gynnwys Cardiff Deaf Creative Hands, Sunday Sign School, Gŵyl Gelfyddydau Pobl Fyddar, Prosiect Treftadaeth Pobl Fyddar, Prosiect Ynni Pobl Fyddar, Pride Byddar a Pride Cymru, Theatr y Sherman a Theatr Taking Flight. 

Tynnodd y panel beirniaid sylw at ehangder profiad Stuart, effaith amlwg ei waith a'i ymrwymiad hirdymor, gan ddweud bod yr ymroddiad hwn i wella bywydau pobl ifanc fyddar heb ei ail.