Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Carmen Soraya Kelly: The Gloves Are On

Mae Carmen Soraya Kelly wedi troi heriau personol, gan gynnwys bod o hil gymysg, byw gydag anabledd, a brwydro yn erbyn canser, yn rym llesol, gan greu ‘The Gloves Are On’. Mae Soraya yn helpu plant, oedolion ifanc a’u teuluoedd sy’n wynebu problemau sensitif, gan rhoi hwb i’w hyder, codi ymwybyddiaeth o amrywiaeth, a’u helpu i ddygymod â sefyllfaoedd anodd. Mae hi’n rhoi gofod diogel i glywed a meithrin lleisiau pobl ifanc.

Mae dull Soraya o weithio yn cyd-fynd â’r Pum Colofn, wrth iddi feithrin datblygiad personol a chymdeithasol, hyrwyddo cynhwysiant a chyfranogi, a chodi llais dros hawliau pobl ifanc. Mae ei hymroddiad i weithio mewn partneriaeth yn sicrhau bod modd cydweithio mewn ffordd holistig, gan gysylltu pobl ifanc â’r cymorth a’r adnoddau y mae eu hangen arnyn nhw.

Mae angerdd Soraya i’w deimlo ymhlith y bobl ifanc y mae hi’n eu gwasanaethu. Mae eu geirdaon yn darlunio arweinydd sy’n rhoi hwb i hyder pobl, yn hybu eu lleisiau, yn eu hannog i deimlo’n gadarnhaol amdanyn nhw’u hunain a pharchu pobl eraill, ac yn rhoi anian hyderus iddyn nhw. Mae eu straeon yn dyst i allu ‘The Gloves Are On’ i weddnewid sefyllfaoedd pobl.

Gallai’r panel beirniadu weld bod gwaith Soraya yn eithriadol, gan ei chanmol am ei stori bersonol, ei hymrwymiad i rymuso pobl ifanc, a’i hymroddiad i greu dyfodol mwy disglair i bobl ifanc.