Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Caroline Miles: Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd

Mae siwrnai Gwaith Ieuenctid Caroline Miles yn ymestyn ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, ers iddi gymhwyso yn 1999. Heddiw, hi sy’n rheoli Tîm Ôl-16 Canol y Ddinas Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, gan oruchwylio 10 o weithwyr cymorth ieuenctid amser llawn.Mae arweinyddiaeth Caroline yn ymestyn ymhell y tu hwnt i achosion unigol. Eto i gyd, wrth i fywydau pobl ifanc gael eu gweddnewid, dyna lle mae gwir effaith ei gwaith i’w gweld. Mae ei hymroddiad i ragoriaeth ac i rymuso yn golygu ei bod hi’n ysbrydoliaeth i bawb.

Yn fwy na’i chyfnod hir yn y maes, ymroddiad diflino Caroline i Bum Colofn Gwaith Ieuenctid sy’n ei gosod ar wahân. Cafodd yr ymroddiad hwn ei gydnabod gan y panel beirniadu, a ganmolodd ei harweinyddiaeth eithriadol a’r effaith barhaus y mae hi wedi’i chael ar bobl ifanc ddirifedi. Roedden nhw’n credu ei bod hi’n batrwm o ragoriaeth yn y maes.

Mae dylanwad cadarnhaol Caroline ar bobl ifanc i’w weld yn glir yn eu geirdaon. Mae eu geiriau’n creu darlun byw o’i gwaith mentora, gan amlygu sut y mae’n annog creu astudiaethau achos rheolaidd sy’n dogfennu ac yn dathlu eu siwrneiau llwyddiannus. Mae’r straeon hyn yn dyst i’w gallu i rymuso pobl ifanc ac ysbrydoli pobl eraill.