Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

CFTi: Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd

Cynllun yw CFTi a ffurfiwyd yn 2022 drwy gydweithio brwd rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, Urdd Gobaith Cymru a Menter Caerdydd. Mae cod post y ddinas a’r gair Cymraeg ‘Ti’ yn dod ynghyd i greu enw arwyddocaol. Ers ei sefydlu, mae CFTi wedi darparu dros 200 o sesiynau, gan ymwneud â dros 5,333 o bobl ifanc, sy’n gwbl ryfeddol. Mae’r pwyslais ar y grŵp oedran 11-13, ac i’r rheini y darparwyd dros ddau draean y sesiynau. Ceir rhaglenni ychwanegol i blant 14-16 oed, ac i rai hŷn, gan sicrhau bod modd bod yn gynhwysol a darparu gweithgareddau ar gyfer anghenion amrywiol. 

Dywedodd 76% o’r bobl ifanc a fu’n rhan o’r prosiect eu bod yn “fodlon iawn” â gwaith CFTi. Mae’r ffigur uchel hwn yn dyst i ymroddiad y grŵp i ddarparu rhaglenni difyr ac effeithiol.Ond mae cyrhaeddiad CFTi yn ymestyn y tu hwnt i’r ymwneud uniongyrchol hwn. Mae presenoldeb y cynllun ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn enwedig drwy sesiynau pan fydd pobl ifanc yn gafael yn yr awenau, wedi arwain at gyrhaeddiad trawiadol ar ei sianeli ar-lein.

Gallai’r panel beirniadu weld bod gan CFTi ddull arloesol o weithio a system integredig, a’i fod yn glynu wrth Bum Colofn Gwaith Ieuenctid. Canmolwyd yn benodol y model partneriaeth llwyddiannus ac ymroddiad y grŵp i ddarparu opsiynau Cymraeg.