Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Creuwyr Cynnwys Caerdydd

Mae rhaglen Creuwyr Cynnwys Caerdydd yn cael ei harwain dîm digidol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, ac mae’n cynnig hyfforddiant sgiliau digidol i bobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed sy’n frwd dros greu cynnwys. Arweiniodd y prosiect at sefydlu ‘Creuwyr Ifanc’ – platfform ar gyfer mynegiant personol a chydweithio. O lunio adroddiadau am ddigwyddiadau i greu cynnwys difyr ar y cyfryngau cymdeithasol, aeth cyfranogwyr ifanc ati i roi trefn ar eu presenoldeb digidol. Dilynodd y siwrnai hon drywydd cyffrous pan ddaeth Doug Green, athro wedi ymddeol o California, yn rhan ohoni, gan ymweld dair gwaith â Chaerdydd ac arwain gweithdai mewn creu ffilmiau, golygu, newyddiaduraeth a ffotograffiaeth.

Wedi’u hysbrydoli gan eu cymheiriaid yn America, roedd Creuwyr Ifanc eisiau cysylltu ymhellach.Gwireddwyd y freuddwyd hon drwy ymddangosiad byw ar CHSTV, rhaglen sy’n cael ei chynhyrchu mewn ysgol ac sy’n cyrraedd 3,000 o wylwyr bob dydd. Arweiniodd y cydweithio hwn at daith gyfnewid i bobl ifanc dros yr haf, a honno wedi’i threfnu gan Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd. Cafodd pobl ifanc ar ddwy ochr Môr Iwerydd gyfle i feithrin cyfeillgarwch gydol oes ac i hogi eu sgiliau creadigol.

“Roedd y daith gyfnewid yn gwbl fythgofiadwy. Fe ddysgais i sgiliau gwerthfawr, meithrin hyder, a chreu ffrindiau am byth” meddai un cyfranogwr. Dywedodd un arall, a ddaeth i Gymru o Wcráin: “Fe wnaeth y gwersyll hwn fy helpu i oresgyn fy swildod a chysylltu â phobl.” Yn ôl un rhiant: “Fe ges i fy synnu gan hyder a brwdfrydedd newydd fy merch – rhywbeth nad oeddwn i wedi’i weld ers tro byd.”

Roedd y ffaith bod y prosiect yn rhoi sylw i bob un o Bum Colofn Gwaith Ieuenctid, ynghyd â’r arloesi, y cydweithio a’r effaith a’r bobl ifanc, i gyd wedi creu argraff ar y beirniaid. Roedden nhw’n hoffi’n arw’r ffaith mai’r bobl ifanc eu hunain a oedd wedi gyrru’r gwaith ymchwil yn ei flaen.