Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Dominique Drummond: NYAS Cymru

Dechreuodd Dominique Drummond, neu Dom fel mae pawb yn ei galw, ar ei siwrnai gyda NYAS Cymru ym mis Mawrth 2022, a hynny fel Mentor Cyfoedion gwirfoddol. Ymunodd yn ddiweddarach â Phrosiect Newid, gan roi cymorth ym maes iechyd meddwl i bobl ifanc. Roedd ei phrofiad bywyd fel rhywun a oedd wedi gadael gofal yn amhrisiadwy, a thrwy hynny, daeth y llinell gymorth yn adnodd hollbwysig i bobl ifanc a oedd yn chwilio am gymorth. A hithau bellach yn Weithiwr Prosiect cyflogedig i Project Unity, mae Dom yn enghraifft o sut y gellir troi profiadau personol mewn gofal yn rym cadarnhaol, gan roi cymorth dwys i rieni ifanc a’u helpu i ymwneud â gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau, a chadw teuluoedd gyda’i gilydd. 

Mae pobl ifanc yn rhoi darlun grymus o effaith Dom, gan ei disgrifio fel presenoldeb diogel sy’n tawelu meddyliau, a rhywun sy’n gwrando heb farnu ac yn cyflawni pethau, gan ysgafnhau pryderon. Mae Dom yn helpu pobl i ddod o hyd i’w lleisiau ac i deimlo’u bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi. Mae hynny’n amlwg ym mhrofiad un menyw ifanc a oedd yn teimlo’n ynysig, ond a ddaeth o hyd i gymuned drwy gaffis Project Unity. Yn bwysicach na dim, mae Dom yn creu hunanhyder. Meddai un unigolyn ifanc, sydd bellach yn mentora cyfoedion ei hun: “Gwnaeth Dom i mi sylweddoli, pe bawn i’n credu ynof fi fy hun, y gallwn i wneud unrhyw beth.” 

Gallai’r panel beirniadu weld bod Dom yn effeithiol o dan bob un o Bum Colofn Gwaith Ieuenctid, sy’n pwysleisio effaith ei gwaith a’r ysbrydoliaeth y mae hi’n ei ganfod yn ei phrofiad ei hun fel rhywun sydd wedi gadael gofal.Canmolwyd ei hymdrechion i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a’i huchelgais i fod yn Gomisiynydd Plant nesaf Cymru.