Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

E-fentora Mullany

Dychmygwch geisio bod yn rhan o fyd gyrfaoedd STEM a chithau’n dod o gefndir difreintiedig, heb y cysylltiadau personol yn y maes. Dyna lle daw e-Fentora Mullany i’r adwy, gan bontio’r bwlch i bobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed ledled y de.

Mae prif brosiect y Mullany Fund yn grymuso unigolion uchelgeisiol drwy ei blatfform digidol arloesol, Mentora. Mae Mentora’n paru meddyliau ifanc â gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr yn eu meysydd STEM penodol, gan feithrin cysylltiadau gwerthfawr a chyfleoedd addysg. Bydd y mentoriaid yn gallu defnyddio’u profiad i dywys pobl ifanc na fyddai fel arall efallai’n gallu elwa ar gyfle o’r fath. Mae hyn yn dymchwel rhwystrau ac yn ehangu gorwelion, gan ysgogi uchelgais a chyflwyno cyfranogwyr i bosibiliadau gyrfa newydd.

Mae’r rhaglen yn mynd i’r afael benben â’r prinder amrywiaeth cymdeithasol mewn proffesiynau STEM. Drwy sicrhau bod modd cyrraedd pobl sy’n rhan o’r diwydiant, waeth beth yw cefndir rhywun, mae e-Fentora Mullany yn hyrwyddo dyfodol mwy cynhwysol. Mae geirdaon y myfyrwyr yn siarad cyfrolau:“Mae fy mentor yn anhygoel. Mae hi’n argymell y pethau y mae angen eu gwneud, ac yn helpu i fy nhywys i’r cyfeiriad iawn,” meddai un cyfranogwr. Meddai un arall: “Mae’r prosiect hwn wedi gwneud i mi sylweddoli y bydd gwaith caled yn talu ar ei ganfed.”

Gallai’r beirniaid weld rhinweddau’r prosiect, gan ganmol nid yn unig y cyngor gyrfa a’r profiad da y mae’n ei gynnig, ond hefyd y gefnogaeth barhaus sydd ar gael i bobl ifanc a’u teuluoedd.