Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Egija Cinovska: YMCA Abertawe

Mae Egija Cinovska, Cydlynydd Gofalwyr Ifanc YMCA Abertawe, yn eiriolwr ac yn hyrwyddwr brwd dros y bobl ifanc y mae hi’n ei gwasanaethu. Ers saith mlynedd, mae’i hymroddiad wedi gyrru’r gwasanaeth yn ei flaen, gan roi cymorth amhrisiadwy i ofalwyr ifanc rhwng 8 a 18 oed.

Mae Egija yn deall yr heriau unigryw sy’n wynebu’r bobl ifanc hyn. Efallai eu bod nhw’n rheoli anableddau a salwch, neu’n ymdopi â chamddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl ymhlith eu hanwyliaid. Beth bynnag maen nhw’n ei wneud, mae’r baich sydd ar y bobl ifanc yn aml yn anweledig. Mae Egija a’i thîm yn creu gofod llesol lle gall gofalwyr ifanc gael seibiant, cysylltu â’u cyfoedion, a chael cymorth hollbwysig.

Mae’r ymrwymiad hwn i eirioli sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc yn ymestyn y tu hwnt i waliau YMCA Abertawe. Bydd Egija yn codi llais yn ddiflino dros achos gofalwyr ifanc ar lwyfannau lleol, cenedlaethol, a byd-eang hyd yn oed. Boed hi’n lobïo llunwyr polisi neu’n dylanwadu ar sgyrsiau ehangach, mae hi’n sicrhau bod profiadau ac anghenion gofalwyr ifanc yn cael eu clywed yn glir.

Bydd gofalwyr ifanc yn sôn am gefnogaeth ddiwyro Egija, ei gallu i greu cyfleoedd, a’i charedigrwydd didwyll. Bydd cydweithwyr yn canmol ei harweinyddiaeth eithriadol, ei gallu i fentora, a’i hymrwymiad i’w lles. Mae hi’n cael ei disgrifio fel ffrind, rhywun sy’n gefn i chi, ac ysbrydoliaeth.

Rhoddodd y panel beirniadu glod i ddull Egija o weithio yn y maes gwaith ieuenctid, ac i’w hymrwymiad i’r Pum Colofn, gan ddweud bod y geirdaon niferus a gafwyd yn yr enwebiad yn dystiolaeth o’i harweinyddiaeth ragorol.