Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Fforwm Ieuenctid Cynon

Yng Nghwm Cynon, bydd grŵp bywiog o bobl ifanc yn dod at ei gilydd yn rheolaidd, nid yn unig i gymdeithasu, ond i fynd i’r afael â materion go iawn sy’n effeithio ar eu cymuned ac sy’n cael effaith sy’n para. Mae Fforwm Ieuenctid Cynon yn dyst i rym gweithredu sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc. O drefnu digwyddiad Pride a chodi llais dros hawliau LHDTC+, i godi ymwybyddiaeth am drais domestig drwy gyfrwng barddoniaeth yn ystod Diwrnod Rhuban Gwyn 2022 a chreu arddangosfeydd celf ar thema LHDTC+, mae’r fforwm yn gwneud gwir wahaniaeth.

Y tu hwnt i bortffolio trawiadol y prosiect, mae’r fforwm hefyd yn cael effaith drwy ei amgylchedd cynhwysol a chefnogol. Meddai aelod o YEPO: “Fe wnaethon nhw ysbrydoli’r gymuned LHDTC+ i ddod ynghyd a dathlu amrywiaeth drwy ddigwyddiad gwych... Roeddwn i’n teimlo bod cymaint o groeso i mi, ac roedd yn brofiad mor gadarnhaol.”

Gwnaeth effaith y prosiect argraff ar y beirniaid, a ganmolodd ddull arloesol y fforwm o weithio, ei ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, a’i bwyslais amlwg ar Bum Colofn Gwaith Ieuenctid. Dywedodd y panel fod y geirdaon a’r cyflwyniadau fideo wedi dod â gwaith y fforwm yn fyw, gan ddangos grym cynlluniau sy’n cael eu harwain gan bobl ifanc i weddnewid pethau.

Mae Fforwm Ieuenctid Cynon yn enghraifft ddisglair o waith sy’n creu gobaith ac sy’n gweithredu yn y gymuned. Drwy fynd i’r afael yn benodol â heriau lleol a meithrin cynhwysiant, mae’r arweinwyr ifanc hyn yn ysbrydoliaeth.