Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Fframwaith Cymru heb Drais: Uned Atal Trais / Media Academy Cymru

Mae ‘Fframwaith Cymru heb Drais’ yn gynllun arloesol sydd wedi’i greu gan Peer Action Collective Cymru (PAC Cymru) ar y cyd â dros 1,000 o bobl ifanc ledled y wlad. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae PAC Cymru, ochr yn ochr â phartneriaid a phobl ifanc eu hunain, wedi gweithio i gyd-greu naw o strategaethau hollbwysig er mwyn cael gwared ar drais yn erbyn plant a phobl ifanc. Mae’r fframwaith yn dychmygu Cymru lle bydd pobl ifanc yn cael eu clywed ac yn gallu byw heb ofn. Bydd pobl yn ymddiried ynddyn nhw, a byddan nhw’n gallu bod yn nhw’u hunain heb i rywedd, hil nac unrhyw label arall gyfyngu arnyn nhw.

Roedd y dull hwn yn taro tant â phobl ifanc, a lwyddodd i fagu hyder a meithrin sgiliau newydd drwy raglenni PAC Cymru. “Fe wnes i ddysgu sut i gadeirio cyfarfodydd, trefnu trafnidiaeth, a chreu ffilmiau hyd yn oed,” meddai un. “Ond yn bwysicach na dim, fe wnes i fagu’r gred y gallwn ni greu Cymru fwy diogel gyda’n gilydd, a bod gan bobl ifanc fel fi gyfraniad i’w wneud at hynny.” Mae cyfranogwr arall yn cytuno. “Mae PAC Cymru wedi fy helpu i ddod o hyd i fy llais a chodi llais dros bobl eraill,” meddai hi. “Drwy gyflwyno o flaen miloedd o bobl ac ennill fy nghymhwyster Gwaith Ieuenctid, rydw i wedi meithrin yr hyder a’r sgiliau i wneud gwir wahaniaeth.”

Gwnaeth y prosiect ac amrywiaeth ei wasanaethau argraff ar y beirniaid, a roddodd glod i’w ymrwymiad i Bum Colofn Gwaith Ieuenctid a’i effaith amlwg ar dros 1,000 o bobl ifanc. Roedden nhw’n gallu gweld grym cyd-greu a dylanwad arweinwyr ifanc wrth greu gwell dyfodol i bobl ifanc Cymru.