Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

GISDA

Elusen yw GISDA sy’n helpu pobl ifanc ddigartref ac agored i niwed yng Ngwynedd. Mae dull holistig y sefydliad o weithio yn rhoi sylw i bob elfen yn siwrnai unigolyn ifanc – o lety diogel a chymorth lles i weithgareddau creadigol, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith. Mae GISDA yn rhoi’r adnoddau i bobl fagu hyder a datblygu gwydnwch ac annibyniaeth. Maen nhw’n delio â chymhlethdodau’r system fudd-daliadau ochr yn ochr â phobl ifanc, gan sicrhau eu bod nhw’n cael yr adnoddau y maen nhw’n eu haeddu.

Mae’r niferoedd yn dweud y cyfan: yn 2022-2023, rhoddodd GISDA gymorth i 266 o bobl ifanc a oedd yn ddigartref neu’n wynebu risg, aeth ati i feithrin cysylltiadau ystyrlon i 76 o unigolion LHDTC+, a rhoddodd gymorth ym maes iechyd meddwl i 265 o bobl ifanc – a’r cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gan edrych y tu hwnt i’r gwasanaethau y mae’n eu darparu, mae thema strategol ‘Llais’ GISDA yn rhoi blaenoriaeth i wrando ar bobl ifanc, gan sicrhau bod eu profiadau bywyd yn llywio gweithgareddau a dyfodol y sefydliad. Ond mae’r gwir effaith i’w gweld yn y bywydau sydd wedi’u gweddnewid: “Heb GISDA, fyddwn i ddim yn annibynnol, fyddwn i ddim wedi dechrau yn y coleg, fyddai gen i ddim fflat, a fyddwn i ddim yn gallu gwella fy iechyd meddwl,” meddai un unigolyn ifanc. Meddai un arall: “Dydw i ddim yn gwybod ble fyddwn i heb GISDA. Fe wnaethon nhw fy helpu i gael tŷ a dangos i mi sut i ddelio gyda biliau a phethau felly.”

Gallai’r panel beirniadu weld bod gan GISDA ddull arloesol o weithio, bod ei waith yn cael effaith sy’n para ar bobl ifanc, a’i fod yn glynu wrth Bum Colofn Gwaith Ieuenctid.