Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Grŵp Ieuenctid i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches: Gwasanaeth Ieuenctid a Chwarae Casnewydd

Lansiodd y tîm ymroddedig yng Ngwasanaeth Ieuenctid a Chwarae Casnewydd brosiect unigryw i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n cyrraedd Casnewydd. Gan ddeall cyfraniad hollbwysig gofodau diogel a chysylltiadau cymunedol, mae’r grŵp yn grymuso’r unigolion, sy’n aml wedi eu hynysu, wrth iddyn nhw ddod i arfer â’u hamgylchedd newydd.

Prosiect ar y cyd oedd hwn, yn cynnwys y bobl ifanc yn uniongyrchol; a roedd cyfle iddyn nhw gyd-greu sesiynau a oedd yn cyfuno gweithgareddau difyr â gwybodaeth hollbwysig. Sicrhaodd hyn fod y prosiect yn mynd i’r afael â’u hanghenion a’u pryderon penodol, gan roi cymorth iddyn nhw integreiddio, gwella sgiliau byw’n annibynnol, a chael cyfleoedd ym maes addysg, hyfforddiant a gwaith. Gan gydnabod pwysigrwydd partneriaethau, gweithiodd y grŵp gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Casnewydd i feithrin perthnasau cadarnhaol rhwng y bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol, a hynny drwy gynnal sesiynau difyr.

Teimlwyd effaith y prosiect hwn yn eang iawn. Fe wnaeth y bobl ifanc elwa o’r cymorth holistig, a phrofodd eu teuluoedd a’r gymuned ehangach effeithiau cadarnhaol hefyd. Roedd cymorth gan gyfoedion i’w gilydd, mentora gan bobl ifanc hŷn, a pherthnasau cymunedol cryf ymhlith y prif rinweddau a ganmolwyd gan y panel o feirniaid. Yn nodedig, enillodd yr ymrwymiad hwn i gydweithio wobr ‘Sicrhau Chwarae Teg’ i’r grŵp, gan roi sylfaen gadarn i’w harferion eithriadol ym maes Gwaith Ieuenctid. Mae’r prosiect hwn yn dyst i rym cymuned, grymuso, a chydweithio wrth gefnogi pobl ifanc sy’n agored i niwed ac sy’n wynebu dechrau newydd i’w bywydau.