Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd (Tîm Gwaith Ieuenctid Trelái a Chaerau)

Mae Rhwydwaith Gweithredu Ieuenctid Trelái a Chaerau, dan arweiniad Tîm Gwaith Ieuenctid Trelái a Chaerau yng Ngwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ynghyd â rhwydwaith amrywiol o bartneriaid, wedi dod at ei gilydd i rymuso pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed drwy’r Grŵp Gweithredu Ieuenctid. Mae ganddyn nhw nod cyffredin, sef hybu lleisiau pobl ifanc, cael gwared ar ddyblygu ymhlith gwasanaethau, a meithrin gofodau diogel, ac mae’r cydweithio hwn yn dangos ysbryd cymunedol ar waith mewn ffordd hyfryd. Gan greu partneriaethau â sefydliadau fel Canolfan Hamdden y Gorllewin, Heddlu De Cymru a sefydliadau ôl-16, maen nhw’n creu amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc, o weithdai a digwyddiadau sydd wedi’u cyd-greu i gyfnewidfeydd rhyngwladol i bobl ifanc. 

Drwy gydweithio, llwyddodd y rhwydwaith i ymdopi â chyfnodau anodd, fel ‘terfysgoedd Trelái’, gan sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael sylw hyd yn oed mewn amgylchiadau anodd. Cafwyd cymorth grant drwy’r rhwydwaith hefyd, gan alluogi partneriaid fel Canolfan Hamdden y Gorllewin i gynnig gweithgareddau am brisiau rhatach, a denu niferoedd brwd. Yn yr un modd, ehangodd grwpiau cymunedol eu cyrhaeddiad drwy gysylltiadau rhwydwaith cryf, gan ennyn diddordeb mwy o bobl ifanc mewn gweithgareddau llesol.

“Ers i mi ddod i Ganolfan Ieuenctid Gogledd Trelái, rydw i wedi troi’n fersiwn well ohonof fy hun. Y ganolfan hon ddechreuodd fy ngyrfa gerddorol, a byddai Jess wastad yn fy nhywys i’r cyfeiriad iawn. Fe wnaeth Jess a’r Ganolfan Ieuenctid newid fy mywyd i.” Mae’r teimlad hwn i’w ganfod drwy’r holl rwydwaith, wrth i bobl ifanc fynd ati’n weithredol i greu eu teithiau eu hunain a darganfod eu doniau cudd.