Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Kelly Powell: YMCA Abertawe

Kelly Powell yw’r Cydlynydd LHDTC+ yn YMCA Abertawe, ac mae hi’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Drwy’r ffordd y mae’n arwain y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid LHDTC+, mae hi wedi gweddnewid hwnnw o fod yn glwb syml i fod yn hafan gwbl gynhwysol.

Gan ddeall yr heriau unigryw sy’n wynebu pobl ifanc LHDTC+ – gwahaniaethu, rhagfarn, bwlio ac anawsterau iechyd meddwl – mae Kelly’n meithrin gofod diogel lle gallan nhw ffynnu. Mae ei dull o gydweithio yn ennyn diddordeb pobl ifanc, ac yn gymorth i ganfod anghenion a llywio cyfeiriad y gwasanaeth. Y canlyniad yw amrywiaeth o gynlluniau sy’n mynd i’r afael benben â’r heriau hyn, o weithdai am hunaniaeth a pherthnasau i gymorth iechyd meddwl a digwyddiadau cymdeithasol. “Mae Kelly wedi gwneud i mi’n bersonol deimlo’n ddiogel ac yn hyderus,” meddai un unigolyn ifanc, “gan roi sicrwydd i mi, rhoi cyngor i mi gyda fy mhroblemau, ac yn syml, gwrando.” Mae unigolyn arall yn ei disgrifio fel “aelod hynod o bwysig o dîm GoodVibes,” gan ganmol ei gallu i gynnal cysylltiadau rhwng pawb a chefnogi pawb.

Mae ymrwymiad Kelly i gynhwysiant yn cael dylanwad ehangach, ac yn hyrwyddo dealltwriaeth ac agweddau croesawgar yn y gymuned YMCA ehangach. Mae ei hymroddiad i ddatblygu’r gwasanaeth ar sail data yn sicrhau bod twf y gwasanaeth hwnnw’n cyd-fynd ag anghenion pobl ifanc LHDTC+ o hyd.

Gallai’r panel beirniadu weld bod Kelly yn arweinydd rhagorol, gan ei chanmol am ei hawydd i gydweithio, ei hymroddiad i greu hafan ddiogel, a’r effaith y mae’n ei chael ar bobl ifanc, sy’n llwyddo i newid eu bywydau. Roedden nhw’n credu ei bod hi’n seren yn ffurfafen y dyfodol, yn arweinydd sydd wedi ymrwymo i gynhwysiant a grymuso.