Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Molly Fenton: Ymgyrch Love Your Period

Dwy ar hugain oed yw Molly Fenton o Gaerdydd, ac mae’n ei galw’i hun yn “chwaer fawr Cymru”. A hithau heb gael llawer o arweiniad wrth dyfu, mae Molly wedi defnyddio’i hangerdd i rymuso merched ledled y wlad drwy ei mudiad ‘Love Your Period’, sydd wedi cyrraedd pobl yn rhyngwladol. 

Mae ‘Love Your Period’ yn lloches i ferched, lle byddan nhw’n gallu cael addysg, adnoddau, ac yn bwysicach na dim, gofod i gael eu clywed a’u deall. Gan sylweddoli bod angen sgyrsiau agored am iechyd menywod ifanc, mae hi’n rhannu ei siwrnai ei hun ar ei blog, ar ôl cael tiwmor anfalaen ar yr ymennydd, ond un nad oedd modd iddi gael llawdriniaeth arno. Mae Molly’n chwarae rhan y chwaer fawr sy’n absennol ym mywydau rhai merched, efallai, gan gychwyn sgyrsiau am y mislif, rhywioldeb, a phynciau iechyd sy’n aml yn llawn stigma. 

Mae Molly yn cyfrannu’n weithgar at gyrff cenedlaethol sy’n gwneud penderfyniadau, fel y Ford Gron Urddas Mislif, gan sicrhau bod lleisiau ifanc o Gymru’n cael eu clywed pan drafodir materion sy’n effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw. Mae geirdaon gan hyrwyddwyr ifanc yn dangos sut y mae gwaith Molly wedi gweddnewid eu sefyllfa: “Molly yw’r unigolyn gorau i mi’i chyfarfod erioed. Fe hoffwn i fod fel hi. Mae Molly wedi dysgu mwy i mi nag y gallai addysg fod wedi’i wneud erioed.” “Rydw i eisiau cael gyrfa mewn gwaith tebyg pan fydda’ i’n hŷn, ac rwy’n gwybod hynny diolch i Molly”. 

Gwnaeth ymrwymiad heintus Molly argraff ar y beirniaid, ynghyd â’i hymroddiad i rymuso pobl ifanc a’i gwaith i fynd i’r afael â’r diffyg sgyrsiau agored a chymorth gyda’r misglwyf. Teimlai’r panel fod yr holl ymgyrch yn un i’w hedmygu, a chanmolwyd ei heffaith anferthol ar y gymuned, yn enwedig â Molly’n ddim ond gwirfoddolwr!