Olivia Williams: Prosiect Ieuenctid Pont-y-pŵl
Teilyngwr
Nid Gweithiwr Ieuenctid yn unig yw Olivia Williams; mae hi’n codi pontydd, ac yn cysylltu pobl ifanc yn Nhorfaen â chyfleoedd a chynhwysiant. Mae ei hymroddiad i gynhwysiant yn golygu ei bod yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau gwahanol, gan gynnwys pobl ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref ac a allai deimlo’n ynysig fel arall. “Mae hi’n rhoi llais i mi pan fydda’ i’n teimlo bod pethau’n fy llethu. Mae hi fel hyn gyda phawb, ac mae pawb yn cyd-dynnu yn y clybiau y bydda’ i’n mynd iddyn nhw. Mae pawb yn wahanol, ond yn cael eu derbyn.” Dyna un geirda a gafwyd.
Mae Olivia yn deall y rhwystrau sy’n gallu dal pobl ifanc yn eu holau, o orbryder cymdeithasol i ddiffyg arian a phroblemau iechyd meddwl. Ond yn hytrach na gadael i’r rhwystrau hyn eu diffinio, mae hi’n creu llwybrau i’w goresgyn. Drwy weithgareddau difyr, mae hi’n datgloi’r drysau i brofiadau na fyddai nifer o bobl ifanc yn gallu’u cael fel arall. Gyda chymorth Olivia, mae Lucy-Marie, sy’n byw gyda Tourette's, wedi magu hunanhyder, wedi creu cysylltiadau, ac wedi goresgyn y pethau sy’n cyfyngu arni. “Fi mae hi’n ei weld, a dim ond fi,” meddai Lucy-Marie, gan amlygu gallu Olivia i gysylltu â phob unigolyn ifanc ar lefel unigol.
Gallai’r panel beirniadu weld bod dull Olivia o weithio yn un eithriadol, a chanmolwyd ei hymrwymiad i bob un o Bum Colofn Gwaith Ieuenctid. Gwnaeth ei hymroddiad i gynhwysiant argraff benodol arnyn nhw, ynghyd â’i gallu i rymuso pobl ifanc i ddod o hyd i’w lleisiau a’i ffydd yn eu potensial.