Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Peer Action Collective Cymru: Media Academy Cymru

Dan arweiniad Media Academy Cymru, prin fod PACC yn brosiect ieuenctid nodweddiadol. Mae’n rhoi cyfle i’r bobl ifanc fwyaf amrywiol a llafar eu barn (15-24 oed) gamu ar eu pennau i ganol byd polisi a llywodraeth. Gwnaeth y dull beiddgar hwn o weithio argraff ar y beirniaid, a ganmolodd lwyddiant PACC wrth fynd i’r afael â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ynghyd â’i arloesi, ei effaith a’i ymrwymiad i Bum Colofn Gwaith Ieuenctid. Gwnaeth cyrhaeddiad y prosiect hefyd argraff ar y beirniaid, a hwnnw wedi cyrraedd grwpiau amrywiol ac anodd i’w cyrraedd.  

Gwir gamp PACC yw gweddnewid bywydau pobl ifanc. Meddai unigolyn ifanc a oedd wedi dod o hyd i’w lais a’i ddiben:“Ers PAC, rwy’n gallu gweld bod gen i gryfder a gallu i newid cymdeithas”. I rai, roedd PACC yn rhoi llwyfan i godi llais.Ac yntau’n wryw hoyw a oedd yn cael ei fwlio, daeth un cyfranogwr o hyd i gysur a ffordd o gael effaith.“Mae fy ngwaith yn PAC wedi fy helpu i ddeall pobl ifanc eraill,” meddai. Llwyddodd eu ffilm am drais LHDTCRhA+, a gafodd ei sgrinio ledled Cymru, i fwrw goleuni ar wirionedd plaen gwahaniaethu. Meddai’r cyfranogwr wrth gnoi cil: “Roedd nifer yn y gynulleidfa’n wylo, a hwythau o’r diwedd yn deall y niwed sydd wedi’i greu.”

Nid codi ymwybyddiaeth yn unig yw gwaith PACC. Gofalodd y cyfranogwyr a’u cyfoedion fod eu lleisiau “yn golygu rhywbeth; yn golygu bod newid yn bosib.”Gyda channoedd o bobl ifanc, fe wnaethon nhw ddatblygu fframwaith i fynnu bod y rheini mewn grym yn gweithredu i fynd i’r afael â gwahaniaethu a’i ganlyniadau niweidiol.Mae PACC yn grymuso lleisiau pobl ifanc ac yn dymchwel rhwystrau. Mae’n lle i bobl ifanc ddatgan yn falch: “Rwy’n falch o fod yn hoyw,”, gan wybod y bydd eu lleisiau’n sbarduno newid cadarnhaol.