Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Prosiect Animeiddio Iechyd Meddwl: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

O ddyhead pobl ifanc i allu siarad am iechyd meddwl heb rwystrau, heb stigma, a heb i neb eu barnu y deilliodd y prosiect Animeiddio Iechyd Meddwl, a hynny dan arweiniad Fforwm Iechyd Meddwl Gwasanaeth Ieuenctid Rhondda Cynon Taf. Sut wnaethon nhw fwrw ati? Creu ffilm ddifyr wedi’i hanimeiddio, a’r sgript, y bwrdd stori a’r lleisio i gyd yng ngofal aelodau’r fforwm ieuenctid. Nod y cynhyrchiad yw addysgu a rhoi gwybodaeth i gyfoedion am faterion iechyd meddwl hollbwysig. O ddelio â hunaniaeth rhywedd a delwedd y corff i ddygymod â bwlio a gorbryder, mae’r prosiect yn rhoi sylw i bynciau sy’n aml yn cael eu hystyried yn rhai anodd, neu’n rhai sy’n anghyfforddus i’w trafod. 

Ond mae’r effaith i’w theimlo y tu hwnt i adloniant yn unig. Gan gydnabod bod angen adnoddau hygyrch, datblygodd y prosiect hefyd gynlluniau gwersi i Weithwyr Ieuenctid a staff ysgolion, gan sicrhau bod modd defnyddio’r animeiddiad yn rhwydd mewn lleoliadau addysg.

Mae’r canlyniadau’n dweud y cyfan. Yn nigwyddiad dathlu blynyddol y Gwasanaeth Ieuenctid, cafodd pobl ifanc eu cyfareddu gan yr animeiddiad, a hwnnw’n codi ymwybyddiaeth ac yn cychwyn sgyrsiau hollbwysig. Mae’r adborth gan y rheini a oedd yn bresennol yn cadarnhau’r effaith hon. Ymhlith y datganiadau roedd: “Doeddwn i ddim yn gwybod yn iawn at bwy y gallwn i droi, ond rydw i’n gwybod erbyn hyn.” Meddai cyfranogwr arall: “Mae’r prosiect hwn wedi rhoi llwyth o hyder i mi allu mynegi’r hyn rwy’n ei gredu.”

Gwnaeth dull arloesol y prosiect o fynd i’r afael â materion iechyd meddwl argraff ar y beirniaid, ac felly hefyd y ffaith mai pobl ifanc oedd yn arwain y gwaith datblygu. Roedd yr ymrwymiad i bob un o Bum Colofn Gwaith Ieuenctid i’w ganmol hefyd.