Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Rhieni Ifanc Torfaen: Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen

Mae Rhieni Ifanc Torfaen, sy’n ffrwyth gweledigaeth Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen, yn hafan i deuluoedd ifanc sy’n wynebu heriau. Gan gydnabod y talcen caled unigryw sy’n wynebu rhieni ifanc – o bryderon iechyd meddwl i ynysu cymdeithasol – nod y prosiect oedd creu hafan gyfeillgar lle gallen nhw ffynnu.

Gan weithio ar lawr gwlad, creodd Rhieni Ifanc Torfaen gymuned a oedd yn meithrin pobl, a hynny o fewn muriau croesawgar neuadd eglwys. Roedd y gofod diogel hwn, lle na fyddai neb yn cael ei farnu, yn fodd o greu cysylltiadau ac yn rhoi cymorth unigol yn benodol ar gyfer anghenion pob rhiant. O roi arweiniad i ddatblygu’n bersonol, i gael gwaith a chyfleoedd mentora, roedd y prosiect yn rhoi’r adnodau i rieni ifanc i ddilyn eu llwybrau’n hyderus.

Rhoddodd y panel beirniadu ganmoliaeth i ddylanwad eang y prosiect yn y gymuned, ac i’w ddull arloesol o rymuso pobl ifanc. Roedd straeon fel rhai Unigolyn Ifanc A, mam ifanc bryderus ar un adeg a flodeuodd i fod yn fentor ar gymheiriaid ac yn Weithiwr Ieuenctid cymwys, yn dangos gallu’r prosiect i weddnewid amgylchiadau pobl. Roedd y panel yn edmygu’n enwedig y pwyslais ar ddatblygu sgiliau ac arweinyddiaeth, sy’n amlwg yn y cynllun mentora gan gyfoedion a’r cyfleoedd a gynigir i rieni ifanc ennill cymwysterau.

Mae Rhieni Ifanc Torfaen yn cael effaith sy’n para ar unigolion ac ar y gymuned yn ei chyfanrwydd, gan ein hatgoffa y gall rhieni ifanc, hyd yn oed wrth wynebu heriau, ffynnu pan fyddan nhw’n cael y cymorth a’r cyfleoedd iawn.