Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Robert Keetch: Media Academy Cymru

Cefnodd Robert Keetch (50) ar yrfa lwyddiannus yn y byd manwerthu er mwyn troi at ei wir alwad – cefnogi pobl ifanc sy’n wynebu trais rhwng cyfoedion. Wedi’i ysbrydoli gan y gred nad yw neb fyth yn rhy hen, mae Rob yn un o ymddiriedolwyr Cymru Ddiogelach a Pride Cymru. Mae hefyd yn arwain ‘Cerridwen’, cynllun ymgysylltu gwirfoddol sy’n gweithio i geisio atal arestiadau posibl drwy ddechrau sgyrsiau am bynciau sensitif fel trais a gwrthdaro. 

Mae’r bobl ifanc y mae Rob yn gweithio gyda nhw yn rhoi darlun byw o’i ddylanwad. Mae un unigolyn ifanc yn gwerthfawrogi gallu Rob i gysylltu ar lefel bersonol: “Fe wnaeth fy nghwrdd ar fy nhelerau i, cadw at ei air, a hyd yn oed ennyn ymddiriedaeth fy mam. Fe wnaeth fy helpu i wneud dewisiadau gwell, heb farnu”. Meddai un: “Fe wnes i argymell Rob i fy ffrind oedd yn ei chael hi’n anodd gartref. Mae’n gwrando heb farnu, ac fe wnaeth fy helpu i fod yn llai dibynnol ar ganabis, a gwneud i mi feddwl mewn ffordd wahanol.” Mae unigolyn arall yn cydnabod dulliau Rob, sy’n heriol ond eto’n effeithiol: “Mae Rob yn fy herio. Gall hynny fod yn dân ar groen weithiau, ond mae’n gwneud i mi feddwl ac osgoi gwneud pethau gwirion. Fe lwyddodd i gael lle yn y coleg i mi, hyd yn oed!” 

Gwnaeth ymroddiad Rob argraff ar y panel beirniadu, ynghyd â’i frwdfrydedd a’i ymrwymiad i ddysgu’n barhaus. Mae angerdd Rob at MAC yn gwbl amlwg drwy’i ymroddiad i gynrychioli’r sefydliad. Trwy’i waith eirioli dros brif egwyddorion gwaith ieuenctid a’i waith i ymwneud â phartneriaid, mae’n sicr yn un o sêr y dyfodol!