Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Shoruk Nekeb: Pafiliwn Grange

Mae Shoruk Nekeb, sy’n fyfyrwraig gradd meistr mewn pensaernïaeth, ac hefyd yn Gyfarwyddwr Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange, yn cyfuno’i hastudiaethau â’i gwaith ieuenctid gwirfoddol yng nghymuned Glan-yr-afon a Grangetown. Shoruk a gydsefydlodd y Fforwm Ieuenctid, sy’n rhoi llwyfan i leisiau ifanc ddylanwadu ar eu hamgylchedd, a hynny ar ôl iddi weld bod angen fforwm o’r fath yn ei chymuned. Mae hi wedi cyfrannu’n weithgar at greu cynllun adfer sy’n ystyriol o blant yn Grangetown, ac wedi cydweithio â’r Quality-of-Life Foundation, gan ddangos ei dealltwriaeth o anghenion y gymuned a’i hymrwymiad i ymgysylltu moesegol.

Ar ôl goresgyn heriau personol o ganlyniad i amgylchiadau teuluol ac effaith heriol COVID-19 ar ei hastudiaethau yn y brifysgol, mae Shoruk yn batrwm o wydnwch ac empathi. Yn ei hymwneud â phobl ifanc, mae hi’n eu hannog i wneud y pethau y maen nhw’n angerddol yn eu cylch. Mae un o aelodau ifanc y fforwm yn disgrifio Shoruk fel “mentor cefnogol sy’n fy annog”, gan ychwanegu bod “positifrwydd a charedigrwydd Shoruk wedi ymestyn i gefnogi fy lles, gan wneud i mi deimlo bod rhywun yn fy ngharu ac yn gofalu amdana’ i.” 

Yn marn y panel beirniadu, roedd Shoruk yn wir arweinydd, ac yn ymgorfforiad o Bum Colofn Gwaith Ieuenctid. Canmolwyd ei hawch i weithio a’r ffaith ei bod hi’n mynd y filltir ychwanegol yn gyson i sicrhau bod y prosiect hollbwysig hwn yn llwyddo.Mae Shoruk Nekeb yn esiampl i bobl ifanc ei hefelychu, ac mae ei hymroddiad i’w chymuned yn creu gwaddol a fydd yn para yn ardal Grangetown.