Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Tsion Teferi: Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig

Gwirfoddolwr yn EYST yw Tsion Teferi, ac mae’n rhoi cymorth i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol mewn ffordd gynnes tu hwnt. Mae ei diwrnod arferol yn golygu creu gofod croesawgar iddyn nhw fynegi’u hunain drwy gelf, gemau a sgyrsiau. Y tu hwnt i’r gornel gelf, mae Tsion yn gwneud gwaith hollbwysig wrth gadw’r clwb yn drefnus ac yn lân, gan sicrhau bod y gofod yn gyfforddus i bawb. Mae ei gallu amlieithog yn amhrisiadwy mewn cymuned sy’n llawn amrywiaeth ddiwylliannol, a hithau’n cyfieithu o’i mamiaith i Saesneg, gan hwyluso dealltwriaeth a chysylltiadau drwy wneud hynny. 

Mae effaith gwaith Tsion yn amlwg o eirdaon didwyll y bobl ifanc y mae hi’n eu helpu.Maen nhw’n ei disgrifio fel rhywun sy’n "rhan o dîm EYST," ac sy’n ffynhonnell "hapusrwydd, caredigrwydd a mwy o gefnogaeth." Mae Gabi, sy’n ifanc, yn adleisio’r farn hon: “Rwy’ wrth fy modd yn mynd i’r clwb ac yn treulio amser gyda Tsion, hi yw fy ffefryn i. Byddwn ni’n creu celf gyda’n gilydd ac rwy’n ei hoffi hi’n fawr.”“Roeddwn i’n hapusach diolch iddi hi, ac fe ddechreuais i ddod i EYST drwy’r adeg,” meddai un arall. “Mae hi mor ddoniol a pheniog.”“Mae’n wych ymladd balŵns gyda Tsion. Hi yw’r person gorau erioed, yn fy marn i”, meddai rhywun arall.

Gallai’r panel beirniadu weld bod gan Tsion ymrwymiad eithriadol, a chanmolwyd sut roedd hi’n ymwneud â phobl ifanc, y ffaith ei bod hi’n ymgorffori Pum Colofn Gwaith Ieuenctid, a’i hymroddiad i feithrin amgylchedd amlddiwylliannol a chefnogol.