Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Urdd Gobaith Cymru

Mae Urdd Gobaith Cymru yn gweithio ym mhob cwr o Gymru, gan gydweithio â phartneriaid dirifedi, o awdurdodau lleol a phrifysgolion i sefydliadau cenedlaethol a’r cyfryngau. Gyda rhwydwaith mor eang, mae modd rhoi profiadau amrywiol sy’n cael cryn effaith ar bobl ifanc.

Mae ymrwymiad yr Urdd i arloesi yn amlwg mewn cynlluniau fel y gwaith i fapio darpariaeth Gymraeg, cynnal gŵyl gelfyddydol deithiol fwyaf Ewrop i 77,000 o bobl ifanc, cynhyrchu 70 awr o deledu a chreu 198 o ffrydiau byw i ddathlu cyflawniadau pobl ifanc. Maen nhw’n cynnig cyrsiau preswyl mewn llu o feysydd, o actio a cherddoriaeth i’r ysgrythur a DJio, gan feithrin creadigrwydd a hyder.

Ond mae effaith yr Urdd i’w theimlo y tu hwnt i adloniant yn unig. Mae’n trefnu teithiau tramor, yn hyrwyddo heddwch ac ewyllys da, ac yn sicrhau presenoldeb ym mhob sir yng Nghymru er mwyn rhoi sylw i anghenion lleol. Mae gan y mudiad hyd yn oed raglen brentisiaethau genedlaethol a chynllun Gemau Stryd, sy’n agor y drysau i gyfleoedd ac yn datblygu cymunedau iach.

“O ran fy natblygiad personol a chymdeithasol, rwy’n credu bod fy ngallu i siarad Cymraeg wedi gwella’n fawr,” medai un cyfranogwr ifanc o Gaerdydd, gan bwysleisio’r effaith amlwg ar ei sgiliau iaith.

Roedd y beirniaid yn hoff o bartneriaethau gwych y mudiad, ei egwyddorion sy’n ceisio grymuso pobl ifanc, ac effaith ehangach y mudiad ar ddyfodol yr iaith. Fel y dywedodd un unigolyn ifanc o Went: “Diolch i chi am fy narbwyllo i ddod ar y cwrs.Dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi aros heboch chi.”