Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Urdd Gobaith Cymru: Prosiect Rhyngwladol Cymru

Mae Prosiect Rhyngwladol Cymru gan Urdd Gobaith Cymru yn defnyddio iaith fel pont i gysylltu pobl ifanc yn fyd-eang, gan rymuso siaradwyr Cymraeg newydd i ddefnyddio’u hiaith yn hyderus ar deithiau trochi i Seland Newydd, Kenya, Qatar a Ffrainc.A’r rheini wedi’u hariannu gan Taith a Llywodraeth Cymru, mae’r teithiau hyn yn hyrwyddo cyfnewid a dealltwriaeth ddiwylliannol, gan amlygu pwysigrwydd gwarchod ieithoedd lleiafrifol ar yr un pryd.

Dyna i chi daith tîm rygbi’r menywod i Seland Newydd. Nid yn unig y gwnaethon nhw gystadlu yn nhwrnamaint 7  bob ochr Ysgolion y Byd, ond fe wnaethon nhw hefyd arwain sesiynau cymunedol, rhannu gwybodaeth am ddiwylliant Cymru, a dysgu am draddodiadau Māori. Roedd yn ffordd rymus o ddangos sut y gall pobl ifanc bontio rhaniadau ieithyddol a hyrwyddo’u treftadaeth ar lwyfan byd-eang.

Mae’r cyfranogwyr yn teimlo effaith y prosiect yn fawr iawn. Soniodd un o chwaraewyr Cymru am ei chyffro wrth “gynnal sesiynau yn y gymuned... a’u haddysgu nhw am ddiwylliant Cymru a’n hiaith.”Mae’r geirdaon yn sôn am fagu hyder newydd i ddefnyddio’r Gymraeg, gwerthfawrogiad dyfnach pobl o’u diwylliant eu hunain, a dealltwriaeth ehangach o dapestri ieithyddol y byd.Fe wnaethon nhw ddysgu “bod gan bawb yr hawl i rannu a siarad yr iaith y maen nhw’n dymuno’i siarad”, a bod angen “credu ynof fi fy hun a chofleidio diwylliant Cymru.” 

Galwodd y panel y prosiect yn un a oedd yn gweddnewid menywod ifanc, gyda’r budd i’w deimlo am gyfnod hir.