Ali Abdi, Pafiliwn Grange
Teilyngwr
Mae Ali Abdi yn Drefnydd Cymunedol a Rheolwr Partneriaethau ym Mhafiliwn Grange ond mae hefyd yn cyfrannu at waith Prifysgol Caerdydd, Citizens Cymru Wales, a’r Fforwm Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig Cenedlaethol.
Roedd y beirniaid yn teimlo bod Ali wedi dangos gallu i ysbrydoli, arwain a grymuso pobl ifanc i lunio eu dyfodol eu hunain gan hefyd ddylanwadu ar bartneriaid sefydliadol i gyflawni newid ystyrlon.
Mae Ali yn cael ei ystyried gan lawer o randdeiliaid fel un sy’n sbardun ym maes gwaith ieuenctid, datblygu cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol. Mae ei arweinyddiaeth yn dangos pum piler gwaith ieuenctid yng Nghymru: addysgu trwy ddysgu anffurfiol, grymuso pobl ifanc, hyrwyddo cyfranogiad, meithrin cynhwysiant, a darparu llwyfannau mynegiannol ar gyfer lleisiau ieuenctid. Mae arweinyddiaeth Ali yn meithrin hyder, sgiliau a newid parhaol, yn enwedig ar gyfer cymunedau a ymyleiddiwyd, gan sicrhau bod pob person ifanc yn teimlo ei fod yn cael ei glywed a’i werthfawrogi.
Dywedodd un o’r bobl ifanc ym Mhafiliwn Grange:
“Fe wnaeth Ali fy annog i gymryd rhan yn y Fforwm Ieuenctid Lleiafrifoedd Cenedlaethol a’m helpu i ddeall y gall fy llais wneud gwahaniaeth. Drwy gymryd rhan yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru, gwelais fod pobl ifanc fel fi yn gallu bod yn arweinwyr ar lefel genedlaethol.”
