Gwasanaeth LHDTC+, YMCA Abertawe
Teilyngwr
Mae Gwasanaeth LHDTC+ YMCA Abertawe wedi tyfu o fod yn glwb ieuenctid LHDTC+ wythnosol i fod yn wasanaeth sy’n cyrraedd miloedd o bobl ifanc LHDTC+ ledled Cymru.
Mae’r gwasanaeth yn darparu mannau diogel, cadarnhaol lle gall pobl ifanc LHDTC+ archwilio hunaniaeth, cael mynediad at gymorth arbenigol, magu hyder a datblygu sgiliau bywyd hanfodol. Trwy fforymau dan arweiniad ieuenctid, rhaglenni addysg, gwaith yn yr ysgol a hyfforddiant proffesiynol, mae’r gwasanaeth yn herio gwahaniaethu, yn codi ymwybyddiaeth ac yn gwella mynediad at gymorth ledled Cymru. Nid cymryd rhan yn unig y mae pobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth – maent yn arwain, yn cyd-ddylunio gwasanaethau, yn llywio sgyrsiau polisi ac yn gyrru newid yn eu cymunedau.
Roedd y beirniaid o’r farn bod Gwasanaeth LHDTC+ Abertawe yn gosod meincnod cryf ar gyfer gwaith ieuenctid cynhwysol yng Nghymru. Trwy’r dull dwys hwn, sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc, mae’r gwasanaeth yn newid agweddau, yn herio stigma ac yn grymuso pobl ifanc i arwain newid yn eu cymunedau.
Mae’r effaith yn cael ei mynegi orau gan bobl ifanc eu hunain. Rhannodd un cyfranogwr y canlynol:
“Dyma’r unig le y gallaf fod yn fi fy hun – does dim rhaid i mi guddio pwy ydw i.”
