Kate-Marie Mitchell, Canolfan Ieuenctid POINT, Ymddiriedolaeth Pobl Ifanc Abergwaun ac Wdig
Teilyngwr
Wrth wraidd gwaith ieuenctid POINT yn Abergwaun mae Kate-Marie Mitchell, y mae ei hymroddiad eithriadol wedi trawsnewid bywyd pobl ifanc ar draws gogledd Sir Benfro ers dros 17 mlynedd.
Trwy wasanaeth galw heibio croesawgar POINT, mae Kate yn creu amgylchedd diogel, difeirniadaeth lle mae pobl ifanc 10-25 oed yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u grymuso i ffynnu. Mae ymagwedd empathetig ac ystyriol o drawma Kate yn galluogi pobl ifanc i lywio heriau cymhleth, gan droi profiadau anodd yn gyfleoedd twf. Mae hi’n datblygu perthnasoedd dibynadwy sy’n magu hyder, gwydnwch ac ymdeimlad gwirioneddol o berthyn, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi i lunio eu dyfodol eu hunain. Mae’r dull pwerus hwn sy’n seiliedig ar berthynas yn sicrhau bod pobl ifanc nid yn unig yn cael eu cefnogi ond yn cael eu clywed a’u hysbrydoli.
Roedd y beirniaid o’r farn bod Kate, y tu hwnt i’w gwaith uniongyrchol gyda phobl ifanc, hefyd yn ysbrydoli ac yn grymuso ei thîm, gan ddangos gwerthoedd gwaith ieuenctid ar eu gorau a meithrin diwylliant o dosturi, cynhwysiant a chydweithio.
Dywedodd Zoe Davies, Rheolwr Strategol a Llywodraethu, POINT, Ymddiriedolaeth Pobl Ifanc Abergwaun ac Wdig:
“Mae gan Kate allu naturiol i gysylltu â phobl ifanc, gan greu mannau diogel lle maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi, ac yn gallu mynegi eu hunain yn llwyr.”
