Positive Masculinity Initiative, Media Academy Cymru
Teilyngwr
Mae’r Positive Masculinity Initiative, dan arweiniad Media Academy Cymru, yn rhaglen waith ieuenctid sydd â’r nod o newid y ffordd y mae bechgyn a dynion ifanc 10–17 oed yn ystyried gwrywdod, hunaniaeth a pherthnasoedd. Mae’r fenter – sy’n cael ei darparu drwy gydweithrediad helaeth ar draws partneriaeth eang o wyth awdurdod lleol ledled de Cymru, Uned Atal a Lleihau Trais De Cymru (VPRU) a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent – yn mynd i’r afael â dylanwad niweidiol gwrywdod gwenwynig a misogynedd ar-lein trwy waith ieuenctid gwirfoddol sy’n ystyriol o drawma.
Mae’r rhaglen yn creu mannau diogel a chefnogol lle gall pobl ifanc archwilio emosiynau, herio normau niweidiol a datblygu empathi, sgiliau meddwl yn feirniadol a pharch at eraill. Mae’n mynd i’r afael â delfrydau sy’n aml yn cael eu hatgyfnerthu ar-lein – megis ffrwyno emosiynol, uchafiaeth a misogynedd – trwy roi cyfle i fechgyn archwilio hunaniaeth, bregusrwydd a lles emosiynol mewn gwaith un‑i‑un a gwaith grŵp dan arweiniad gweithwyr ieuenctid y maen nhw’n ymddiried ynddynt. Gyda chefnogaeth y gweithwyr ieuenctid hyn, mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon ynghylch perthnasoedd, cydsyniad, ymddygiad ar-lein a lles – gan gefnogi twf personol a gwaith atal trais ehangach.
Roedd y beirniaid o’r farn bod hwn yn enghraifft ardderchog o brosiect sy’n cyflawni newid parhaol – gan gefnogi cymunedau mwy diogel a chynnig model cenedlaethol pwerus ar gyfer gwaith ieuenctid cydweithredol yng Nghymru.
Dywedodd un person ifanc sy’n ymwneud â’r prosiect:
“Mae’r prosiect wedi gwella fy ngwybodaeth am beth yw gwrywdod a sut y gallwn ni fod yn fwy cadarnhaol ag e. Fe ddysgais sut y gall sylwadau ar-lein newid barn pobl.”
