Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: Ebrill i Mehefin 2025 (dros dro)
Data am ddifrifoldeb yr anafiadau a'r math o ddefnyddiwr ffordd ar gyfer Ebrill i Mehefin 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r data dros dro a gyflwynir yma yn adlewyrchu'r anafiadau personol a ddioddefwyd yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd y rhoddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Mehefin (Ch2) 2025. Er mai'r data hyn yw'r ffynhonnell wybodaeth fwyaf manwl a dibynadwy am wrthdrawiadau ffyrdd a marwolaethau ac anafiadau, nid ydynt yn cynnwys gwrthdrawiadau ffyrdd:
- na roddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu
- a ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau
- lle na chofnodwyd unrhyw anafiadau personol
- lle y cafwyd cadarnhad yn ddiweddarach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner mai hunanladdiad neu ddigwyddiad meddygol oedd achos y gwrthdrawiad
O ystyried y cynnydd mewn diddordeb yn y data ar wrthdrawiadau ers cyflwyno'r terfyn cyflymder safonol o 20mya ar 17 Medi 2023, gwnaethom gyhoeddi Diweddariad y Prif Ystadegydd ar ‘ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd’ ar 24 Mai 2024.
Caiff yr holl ddata sylfaenol eu cyhoeddi ar StatsCymru, a'n dangosfwrdd gwrthdrawiadau ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys manylion ychwanegol am wrthdrawiadau a marwolaethau ac anafiadau yn ôl ardal ddaearyddol, terfyn cyflymder, difrifoldeb a'r math o gerbyd.
Mae'r data ar gyfer Ch2 2025 yn rhai dros dro a gellir eu hadolygu yn y dyfodol. Cyhoeddir gwybodaeth fanwl ac o ansawdd yn yr adroddiad ansawdd ategol.
Mae'r data ar wrthdrawiadau yn dymhorol ac mae ffactorau fel swm y traffig a'r tywydd yn effeithio arnynt. Mae'n ddoeth ac yn ystyrlon cymharu data chwarterol â data o'r un chwarter mewn blynyddoedd blaenorol yn hytrach na'u cymharu â'r chwarter blaenorol. Fodd bynnag, mae tueddiadau tymor hwy yn rhoi gwell syniad o batrymau a newidiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd sydd wedi'u cofnodi gan yr heddlu.
Gwrthdrawiadau
Cyflwynir data cyfres amser dros y tymor hir yn ein datganiad ystadegau blynyddol. Mae’n dangos gostyngiad tymor hir yn y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru.
Sylwer, fel yr esboniwyd yn ein datganiad ar gyfer 2024, mewn blynyddoedd blaenorol, mae data ar wrthdrawiadau yn ystod chwarter 4 wedi cael eu cyhoeddi fel rhan o gyhoeddiad manwl ar wrthdrawiadau blynyddol. Fodd bynnag, mae oedi o ran cyflwyno data gan un heddlu yn golygu bod ein datganiad 2024 yn ddatganiad dros dro. Rydym yn bwriadu cyhoeddi ein bwletinau ystadegol mwy manwl ar wrthdrawiadau ac anafiadau yn 2024 ar 19 a 27 Tachwedd, yn y drefn honno.
Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn raddol dros y degawd ddiwethaf a gall ffigurau chwarterol fod yn anwadal. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr o amser.
Yn ystod Ch2 2025, roedd 789 o wrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru. O'r gwrthdrawiadau hyn:
- roedd 26 (3%) o'r gwrthdrawiadau yn angheuol
- roedd 276 (35%) ohonynt yn ddifrifol
- roedd 487 (62%) ohonynt yn fân wrthdrawiadau
Mae nifer y gwrthdrawiadau ychydig yn uwch (llai nag 1%) nag yn yr un chwarter yn 2024 (783) a 9% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (869), sef y cyfnod chwarter 2 olaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.
Ffigur 1: gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu bob chwarter yng Nghymru, Ch2 2011 hyd at Ch2 2025
Disgrifiad o ffigur 1: mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru bob chwarter, o Ch2 2011 hyd at Ch2 2025. Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffordd
Cafodd y rhan fwyaf o'r ffyrdd 30mya eu newid i fod yn 20mya ar 17 Medi 2023. Felly, mae llawer mwy o ffyrdd bellach yn ffyrdd 20mya (cynnydd o tua 870km i 13,000km), ac mae llawer llai o ffyrdd yn rhai 30mya (gostyngiad o tua 13,100km i 980km).
Mae'r adran hon yn ystyried gwrthdrawiadau a ddigwyddodd ar bob ffordd 20mya a phob ffordd 30mya (wedi'u cyfuno) er mwyn sicrhau y gellir eu cymharu â'r un set o ffyrdd cyn ac ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder safonol ar ffyrdd cyfyngedig.
Mae data ar wrthdrawiadau ffyrdd ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder safonol o 20mya yn gyfyngedig i gyfnod eithaf byr o amser ar hyn o bryd (17 Medi 2023 i 31 Rhagfyr 2024) a gallant fod yn anwadal yn y byrdymor. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr o amser. Byddwn yn parhau i fonitro'r data hyn dros amser wrth i fwy o ddata ddod ar gael. Mae diweddariad ein Prif Ystadegydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Yn ystod Ch2 2025, roedd 384 o wrthdrawiadau ar ffyrdd lle roedd terfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno). O'r gwrthdrawiadau hyn, roedd 6 ohonynt yn angheuol, 113 ohonynt yn ddifrifol a 265 ohonynt yn fân wrthdrawiadau.
Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20 a 30mya (wedi’u cyfuno) ychydig yn is (llai nag 1%) nag yn yr un chwarter yn 2024 (387). Mae’n 19% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (477), sef y cyfnod chwarter 2 diwethaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.
Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.
Ffigur 2: gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, Ch2 2011 hyd at Ch2 2025
Disgrifiad o ffigur 2: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, o Ch2 2011 hyd at Ch2 2025. Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter ar ffyrdd 20mya neu 30mya wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Anafiadau
Gall gwrthdrawiadau unigol arwain at nifer o farwolaethau ac anafiadau gyda lefelau gwahanol o ddifrifoldeb o ran anafiadau.
Yn ystod Ch2 2025, cofnodwyd 1,073 o farwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd yng Nghymru. O'r marwolaethau a'r anafiadau hyn:
- cafodd 29 (3%) o bobl eu lladd
- cafodd 317 (30%) o bobl eu hanafu'n ddifrifol
- cafodd 727 (68%) o bobl fân anafiadau
Mae nifer yr anafiadau 1% yn is nag yn yr un chwarter yn 2024 (1,087) a 6% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (1,138), sef y cyfnod chwarter 2 diwethaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.
Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.
Ffigur 3: marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd bob chwarter yng Nghymru, Ch2 2011 hyd at Ch2 2025
Disgrifiad o ffigur 3: mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y marwolaethau a'r anafiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru bob chwarter, o Ch2 2011 hyd at Ch2 2025. Mae nifer y marwolaethau a'r anafiadau bob chwarter wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffordd
Yn ystod Ch2 2025, cafodd 476 o unigolion eu lladd neu eu hanafu yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd lle roedd terfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno). Ymhlith y rhain, cafodd 6 person eu lladd, cafodd 124 o unigolion eu hanafu'n ddifrifol a chafodd 346 fân anafiadau.
Mae nifer yr anafiadau lle mae terfyn cyflymder o 20 a 30mya yn gyfartal i'r un chwarter yn 2024 (476) ac 18% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (584), sef y cyfnod chwarter 2 diwethaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.
Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.
Ffigur 4: marwolaethau ac anafiadau wedi'u cofnodi bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya yng Nghymru, Ch2 2011 hyd at Ch2 2025
Disgrifiad o ffigur 4: mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y marwolaethau ac anafiadau yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, o Ch2 2011 hyd at Ch2 2025. Mae'r nifer wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Nodiadau
Nodwyd rhywfaint o faterion yn ymwneud ag ansawdd data mewn perthynas â therfyn cyflymder cofnodedig y ffordd lle y digwyddodd gwrthdrawiadau. Caiff hyn ei esbonio'n fanylach ar ddechrau Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: bwletin ystadegol 2023 ac yn yr adroddiad ar ansawdd data.

