Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r data dros dro a gyflwynir yma yn adlewyrchu'r anafiadau personol a ddioddefwyd yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd y rhoddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu yng Nghymru rhwng mis Gorffennaf l a mis Medi (Ch3) 2025. Er mai'r data hyn yw'r ffynhonnell wybodaeth fwyaf manwl a dibynadwy am wrthdrawiadau ffyrdd a marwolaethau ac anafiadau, nid ydynt yn cynnwys gwrthdrawiadau ffyrdd:

  • na roddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu
  • a ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau
  • lle na chofnodwyd unrhyw anafiadau personol
  • lle y cafwyd cadarnhad yn ddiweddarach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner mai hunanladdiad neu ddigwyddiad meddygol oedd achos y gwrthdrawiad

O ystyried y cynnydd mewn diddordeb yn y data ar wrthdrawiadau ers cyflwyno'r terfyn cyflymder safonol o 20mya ar 17 Medi 2023, gwnaethom gyhoeddi Diweddariad y Prif Ystadegydd ar ‘ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd’ ar 24 Mai 2024.

Caiff yr holl ddata sylfaenol eu cyhoeddi ar StatsCymru, a'n dangosfwrdd gwrthdrawiadau ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys manylion ychwanegol am wrthdrawiadau a marwolaethau ac anafiadau yn:

  • ôl ardal ddaearyddol
  • terfyn cyflymder
  • difrifoldeb
  • math o gerbyd

Mae'r data ar gyfer Ch3 2025 yn rhai dros dro a gellir eu hadolygu yn y dyfodol. Cyhoeddir gwybodaeth fanwl ac o ansawdd yn yr adroddiad ansawdd ategol.

Mae'r data ar wrthdrawiadau yn dymhorol ac mae ffactorau fel swm y traffig a'r tywydd yn effeithio arnynt. Mae'n ddoeth ac yn ystyrlon cymharu data chwarterol â data o'r un chwarter mewn blynyddoedd blaenorol yn hytrach na'u cymharu â'r chwarter blaenorol. Fodd bynnag, mae tueddiadau tymor hwy yn rhoi gwell syniad o batrymau a newidiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd sydd wedi'u cofnodi gan yr heddlu.

Gwrthdrawiadau

Cyflwynir data cyfres amser dros y tymor hir yn ein datganiad ystadegau blynyddol. Mae’n dangos gostyngiad tymor hir yn y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru.

Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn raddol dros y degawd ddiwethaf a gall ffigurau chwarterol fod yn anwadal. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr o amser.

Yn ystod Ch3 2025, roedd 747 o wrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru. O'r gwrthdrawiadau hyn:

  • roedd 18 (2%) o'r gwrthdrawiadau yn angheuol
  • roedd 269 (36%) ohonynt yn ddifrifol
  • roedd 460 (62%) ohonynt yn fân wrthdrawiadau

Mae nifer y gwrthdrawiadau 6% yn is nag yn yr un chwarter yn 2024 (795) a 19% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (923), sef y cyfnod  chwarter 3 olaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.

Ffigur 1: gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu bob chwarter yng Nghymru, Ch1 2011 hyd at Ch3 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 1: mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru bob chwarter, o Ch1 2011 hyd at Ch3 2025. Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru

Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffordd

Cafodd y rhan fwyaf o'r ffyrdd 30mya eu newid i fod yn 20mya ar 17 Medi 2023. Felly, mae llawer mwy o ffyrdd bellach yn ffyrdd 20mya (cynnydd o tua 870km i 13,000km), ac mae llawer llai o ffyrdd yn rhai 30mya (gostyngiad o tua 13,100km i 980km).

Mae'r adran hon yn ystyried gwrthdrawiadau a ddigwyddodd ar bob ffordd 20mya a phob ffordd 30mya (wedi'u cyfuno) er mwyn sicrhau y gellir eu cymharu â'r un set o ffyrdd cyn ac ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder safonol ar ffyrdd cyfyngedig. 

Mae data ar wrthdrawiadau ffyrdd ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder safonol o 20mya yn gyfyngedig i gyfnod eithaf byr o amser ar hyn o bryd (17 Medi 2023 i 31 Rhagfyr 2024) a gallant fod yn anwadal yn y byrdymor. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr o amser. Byddwn yn parhau i fonitro'r data hyn dros amser wrth i fwy o ddata ddod ar gael. Mae diweddariad ein Prif Ystadegydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Yn ystod Ch3 2025, roedd 337 o wrthdrawiadau ar ffyrdd lle roedd terfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno). O'r gwrthdrawiadau hyn:

  • roedd 9 ohonynt yn angheuol
  • 101 ohonynt yn ddifrifol
  • 227 ohonynt yn fân wrthdrawiadau

Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20 a 30mya (wedi’u cyfuno) 6% yn is nag yn yr un chwarter yn 2024 (358). Mae’n 33% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (502), sef y cyfnod chwarter 3 diwethaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.

Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.

Ffigur 2: gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, Ch1 2011 hyd at Ch3 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 2: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, o Ch1 2011 hyd at Ch3 2025. Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter ar ffyrdd 20mya neu 30mya wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru

Anafiadau

Gall gwrthdrawiadau unigol arwain at nifer o farwolaethau ac anafiadau gyda lefelau gwahanol o ddifrifoldeb o ran anafiadau.

Yn ystod Ch3 2025, cofnodwyd 1,047 o farwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd yng Nghymru. O'r marwolaethau a'r anafiadau hyn:

  • cafodd 19 (2%) o bobl eu lladd
  • cafodd 307 (29%) o bobl eu hanafu'n ddifrifol
  • cafodd 721 (69%) o bobl fân anafiadau

Mae nifer yr anafiadau 6% yn is nag yn yr un chwarter yn 2024 (1,116) a 17% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (1,260), sef y cyfnod chwarter 3 diwethaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn. 

Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.

Ffigur 3: marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd bob chwarter yng Nghymru, Ch1 2011 hyd at Ch3 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 3: mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y marwolaethau a'r anafiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru bob chwarter, o Ch1 2011 hyd at Ch3 2025. Mae nifer y marwolaethau a'r anafiadau bob chwarter wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru

Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffordd

Yn ystod Ch3 2025, cafodd 420 o unigolion eu lladd neu eu hanafu yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd lle roedd terfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno). Ymhlith y rhain:

  • cafodd 9 person eu lladd
  • cafodd 106 o unigolion eu hanafu'n ddifrifol
  • 305 fân anafiadau

Mae nifer yr anafiadau lle mae terfyn cyflymder o 20 a 30mya 3% yn is nag yn yr un chwarter yn 2024 (431) ac 33% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (627), sef y cyfnod chwarter 3 diwethaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn. 

Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.

Ffigur 4: marwolaethau ac anafiadau wedi'u cofnodi bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya yng Nghymru, Ch1 2011 hyd at Ch3 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 4: mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y marwolaethau ac anafiadau yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, o Ch1 2011 hyd at Ch3 2025. Mae'r nifer wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru

Nodiadau

Ym mis Mai 2023, heddlu Dyfed Powys oedd y llu gyntaf yng Nghymru i symud i system gofnodi ar sail anafiadau ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd. Mae hyn yn effeithio’r ffordd y mae difrifoldeb y gwrthdrawiad yn cael eu cofnodi, ond nid yw’n cael effaith ar gyfanswm nifer y gwrthdrawiadau. Mae’r Adran Trafnidiaeth wedi canfod bod heddluoedd sy’n defnyddio cofnodi ar sail anafiadau yn debygol o adrodd mwy o wrthdrawiadau difrifol a llai o wrthdrawiadau llai difrifol nag â'r system flaenorol. Rydym wrthi’n ystyried sut i adrodd ar y data hwn pan fydd heddluoedd eraill Cymru yn symud i gofnodi ar sail anafiadau. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyfleu yn y cyhoeddiad chwarterol nesaf.

Nodwyd rhywfaint o faterion yn ymwneud ag ansawdd data mewn perthynas â therfyn cyflymder cofnodedig y ffordd lle y digwyddodd gwrthdrawiadau. Caiff hyn ei esbonio'n fanylach ar ddechrau Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: bwletin ystadegol 2023 ac yn yr adroddiad ar ansawdd data.

Manylion cyswllt

Ystadegau Trafnidiaeth
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099