Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw cyflym

Beth yw'r Adolygiad o Gynefinoedd

Mae'r Adolygiad o Gynefinoedd yn perthyn i gategori Opsiynol yr SFS sydd ar gael i ffermwyr sydd wedi hawlio Haen Gyffredinol yr SFS.

Mae'n rhoi help arbenigol i chi i weld cyfleoedd i wella, adfer neu greu cynefinoedd ar eich fferm yr un pryd â chynhyrchu bwyd. Bydd yr adolygiad yn eich helpu i ddatblygu cynllun ymarferol fydd yn dod â manteision i'ch busnes ac i'r amgylchedd.

Gallwch wneud cais os

  • ydych chi wedi cyflwyno hawliad o dan Haen Gyffredinol yr SFS ar SAF 2026
  • ydy'r tir o dan eich rheolaeth lwyr chi
  • ydy'r tir yn gymwys o dan Haen Gyffredinol yr SFS

Chewch chi ddim cynnwys tir ar safleoedd dynodedig, tir comin (ac eithrio tir comin sydd wedi'i gofrestru gyda'r RPW gyda dim ond un porwr) a thir cydbori yn yr Adolygiad o Gynefinoedd.

Sut galla i wneud cais

Gwneir ceisiadau trwy ddangosfwrdd Haen Opsiynol yr SFS yn eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Mae ceisiadau'n cael eu sgorio ac yna eu dewis. Ni fyddwn yn ymweld â phob cais ar unwaith, ond bydd modd ystyried ceisiadau aflwyddiannus mewn rowndiau dewis yn y dyfodol. 

Beth sy'n digwydd yn ystod yr Adolygiad o Gynefinoedd

Bydd Swyddog Cymorth Maes (FSO) yn:

  • cynnal asesiad o'r fferm gyfan
  • adolygu ac yn categoreiddio cynefinoedd ar eich fferm
  • asesu cyflwr cynefin a'i nodweddion amgylcheddol
  • nodi cyfleoedd i wella'r cynefinoedd
  • ystyried opsiynau i greu cynefinoedd newydd a chefnogi bioamrywiaeth
  • nodi unrhyw waith cyfalaf a allai fod ei angen

Mae'r adolygiad hefyd yn gyfle i drafod gofynion a chyfleoedd ehangach sydd ar gael drwy'r cynllun SFS. 

Beth bydda i'n ei gael

Yn dilyn yr ymweliad, bydd yr FSO yn paratoi:

  • cynllun rheoli pum mlynedd yr Adolygiad Cynefinoedd
  • rhaglen waith
  • mapiau SFS wedi'u diweddaru lle bo angen

Bydd y cynllun rheoli a'r rhaglen waith yn argymell gweithredoedd rheoli a gwaith cyfalaf y gellid eu cynnal ar eich fferm i wella canlyniadau amgylcheddol. 

Pa fathau o weithredoedd y gallwn eu cynnwys

Gall yr Adolygiad o Gynefinoedd nodi cyfleoedd fel:

  • rheoli cynefinoedd sy'n bod eisoes ar lefel uwch
  • adfer glaswelltir, rhostir, gwlyptir neu berthi/wrychoedd
  • creu pyllau, cynefinoedd a choridorau bywyd gwyllt
  • rheoli er lles rhywogaeth benodol
  • gwaith cyfalaf fel ffensys, gatiau, rheoli prysgwydd neu offer rheoli dŵr

A fydda i'n gorfod gwneud y gwaith

Na. Ni fydd rheidrwydd arnoch i gynnal yr argymhellion fydd yn eich cynllun rheoli na'r rhaglen waith. Ond os ydych am wneud y gweithredoedd a chael taliad, bydd angen i chi wneud cais am grant yr SFS Opsiynol: gweithredoedd cynefin pan ddaw'r cyfle ichi wneud.

Pethau mae'n bwysig eich bod yn eu gwybod

  • nid yr Adolygiad o Gynefinoedd ei hun sy'n darparu cyllid i chi. Yr adolygiad yw'r cam cyntaf i nodi a chynllunio gwelliannau amgylcheddol a allai fod yn gymwys am gyllid Opsiynol SFS
  • gellir ychwanegu unrhyw gynefin sydd heb ei ddatgan o'r blaen ac sy'n cael ei nodi yn ystod yr adolygiad at eich mapiau SFS a'i gynnwys yn hawliadau'ch Haen Gyffredinol SFS yn y dyfodol 
  • bydd gennych 21 diwrnod calendr i gadarnhau'ch bod yn derbyn eich cynllun rheoli a'ch rhaglen waith ar ôl iddynt gael eu cyflwyno ichi
  • mae cynlluniau y byddwch yn cadarnhau'ch bod yn eu derbyn yn ddilys am bum mlynedd
  • efallai y bydd angen trwydded, cydsyniad neu ganiatâd ar gyfer rhai gweithredoedd. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau eich bod yn eu cael

Adran A: cyflwyniad

Dim ond y rheini sy'n hawlio Haen Gyffredinol yr SFS ddylai ddarllen y canllaw hwn. 

Mae'r SFS yn gynllun ar gyfer y fferm gyfan. Mae'n cynnwys Haen Gyffredinol, gyda set o Weithredoedd Cyffredinol (UAs) y byddwn yn talu Taliad Cyffredinol ichi am eu cynnal.

Mae taliadau SFS ychwanegol ar gael yn yr Haen Opsiynol os ydych chi am wneud mwy na'r Haen Gyffredinol.

Mae'r Haen Opsiynol yn cynnwys gwahanol 'gategorïau', bob un yn cynnwys cyfres o eitemau neu weithredoedd unigol i chi ddewis ohonyn nhw.

Mae'r Adolygiad o Gynefinoedd yn perthyn i gategori opsiynol yr SFS a thrwyddo gallwch ofyn am help arbenigol i nodi cyfleoedd i wella neu greu cynefinoedd penodol ar fferm er budd natur yr un pryd â chynhyrchu bwyd. 

Gall hyn gynnwys gwella ansawdd, maint neu gysylltiadau cynefinoedd, gan ddibynnu ar flaenoriaethau'r ardal benodol. Mae angen y broses Adolygu Cynefinoedd gan fod natur hirdymor rheoli a chreu cynefinoedd yn gofyn i ni ystyried ffactorau fel amodau pridd, lefelau trwythiad, rhywogaethau blaenoriaeth, tirweddau ehangach, yn ogystal ag arferion a blaenoriaethau ffermio cyfredol.  

Nod yr Adolygiad o Gynefinoedd yw cydweithio â chi i gydnabod gwerth amgylcheddol eich fferm, nodi cyfleoedd, a datblygu cynllun ymarferol i sicrhau manteision i fusnes y fferm a'r amgylchedd. 

Bydd Swyddog Cymorth Maes (FSO) yn adolygu'r cynefinoedd presennol, yn ymweld â'r fferm ac yn gweithio gyda chi i lunio cynllun rheoli pum mlynedd a rhaglen waith. Y nod yw dewis gweithredoedd priodol fydd yn gwella cyflwr cynefinoedd, yn helpu i greu cynefinoedd lle bo hynny'n briodol a sicrhau canlyniadau amgylcheddol ar ben Gofynion Cyffredinol yr SFS. Gall hefyd fod yn gyfle i chi drafod gofynion eraill yr SFS, megis y gofyn bod 10% o'ch fferm yn gynefin neu reoli cynefinoedd o dan Haen Gyffredinol yr SFS. 

Mae'r canllaw hwn yn esbonio proses SFS Opsiynol: Adolygu Cynefinoedd (y cyfeirir ato fel yr "Adolygiad o Gynefinoedd" yn y ddogfen hon), ymweliadau â'r safle a'r Cynllun Rheoli Adolygiad Cynefinoedd a'r Rhaglen Waith a ddaw o hynny. Bydd yn ymwneud yn benodol â thir cynefin y tu allan i Safleoedd Dynodedig (e.e. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)).   

Bydd canllawiau ychwanegol ar gael yn ddiweddarach i gyd-fynd ag agor ffenestri ymgeisio am yr SFS Opsiynol: gweithredoedd cynefin i gymryd y camau rheoli a chyfalaf a gynhwysir yn y cynllun rheoli a'r rhaglen waith. Bydd y canllaw hwnnw yn cynnwys hefyd fanylion y broses dyfarnu grant yn ogystal â'r telerau ac amodau ar gyfer talu.

Darllenwch y canllaw hwn yn ofalus cyn i chi wneud cais am Adolygiad o Gynefinoedd. 

Bydd y cais ar gael o 27 Awst 2026.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan, Gwlad ac os oes angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Rydyn ni (Llywodraeth Cymru) eisiau gweithio gyda busnesau a sefydliadau sy’n falch o’u henw da, o'r hyn maen nhw’n ei gyflawni ac o'u hymddygiad. Mae’r ddolen sy’n dilyn yn mynd â chi at ganllawiau sy’n esbonio’r mathau o ymddygiad, diwylliant a gwerthoedd y rydyn ni’n disgwyl i’r rheini sy’n derbyn grantiau ganddi eu harddel.

Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y rhai hynny sy’n derbyn grant.

Adran B: pwy sy'n gymwys

Byddwch yn cael eich ystyried yn gymwys i wneud cais am Adolygiad o Gynefinoedd os ydych wedi hawlio Haen Gyffredinol yr SFS ar y Ffurflen Gais Sengl (SAF). 

Dim ond ar ôl cadarnhau'ch bod yn gymwys am Haen Gyffredinol yr SFS y bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Pa dir sy'n gymwys 

Bydd tir cymwys rydych wedi'i hawlio ar eich SAF ddiweddaraf o dan Haen Gyffredinol yr SFS, ac unrhyw dir ychwanegol y byddwch yn ei gael ar ôl dyddiad cyflwyno'r SAF ac wedi rhoi gwybod i RPW amdano trwy Reoli Fy Nhir cyn i chi gyflwyno cais am Adolygiad o Gynefinoedd, yn gymwys i gael eu cynnwys.  Er mwyn ei gynnwys, rhaid i'r tir fod o dan eich rheolaeth lwyr chi.

Er mwyn i dir fod yn gymwys i gael grant ar ôl cynnal yr Adolygiad o Gynefinoedd, bydd o dan eich rheolaeth lwyr chi am gyfnod y dyfarniad grant.

Nid yw'r tir canlynol yn gymwys i fod yn rhan o Adolygiad o Gynefinoedd: 

  • tir sy'n rhan o safle dynodedig
  • tir comin (ac eithrio tir comin ag un porwr sydd wedi'i gofrestru gyda RPW) a thir cydbori / yn cael ei gyd-ddefnyddio 

Adran C: trosolwg o'r Adolygiad o Gynefinoedd

Pwrpas yr Adolygiad Cynefinoedd yw rhoi ffordd i chi gael cyllid ar gyfer rheoli cynefinoedd ar lefel uwch, adfer cynefinoedd, creu cynefinoedd newydd a chymryd camau rheoli ar dir at ddiben cynnal bioamrywiaeth.

Gallwch ofyn am Adolygiad o'r Cynefinoedd drwy ddangosfwrdd Opsiynol yr SFS ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Bydd eich cais wedyn yn cael sgôr ac yn mynd trwy broses ddewis, i roi blaenoriaeth i ddaliadau a all gyfrannu orau tuag at yr amcanion amgylcheddol.

Bydd yr Swyddog Cymorth Maes (FSO) yn cynnal ymweliad Adolygu Cynefinoedd. Bydd yr ymweliad yn cynnwys asesiad o'r fferm gyfan a'i bwrpas fydd:

  1. Edrych beth yw categori'r tir cynefin ar y fferm sy'n cael ei rheoli ar gyfer Haen Gyffredinol yr SFS ac asesu cyflwr y cynefin. Bydd asesiad manylach i gategoreiddio cynefinoedd yn cael ei gynnal fel rhan o'r Adolygiad o Gynefinoedd. Er enghraifft, byddai categori Cynefin Cyffredinol 'Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáu' yn cael ei newid i un o'r canlynol:
     
    • glaswelltir niwtral 
    • glaswelltir asidig llawr gwlad
    • glaswelltir calchaidd
    • glaswelltir yr arfordir 
    • glaswelltir metelaidd 
    • gweirglodd y gorlifdir 
    • calchbalmant

      Mae rhagor o wybodaeth am y catagorïau cynefinoedd manwl i'w gweld yn Atodiad A. 

      Bydd y categori cynefin manwl ynghyd â'r asesiad o gyflwr cynefin yn cael eu defnyddio i nodi'r camau rheoli mwyaf priodol ar gyfer y cynefin.

      Pwysig: bydd unrhyw ddarn o gynefin sydd heb ei ddatgan o'r blaen o dan Haen Gyffredinol yr SFS ac sy'n cael ei ddewis wedyn fel rhan o'r Adolygiad o Gynefinoedd yn cael ei fapio ar systemau RPW a'i gynnwys o dan Haen Gyffredinol yr SFS yn y dyfodol. 

  2. Asesu'r holl dir sydd wedi cael ei wella'n amaethyddol am gyfleoedd i wella bioamrywiaeth ar y fferm.
  3. Nodi gweithredoedd rheoli priodol a gwaith cyfalaf, er mwyn sicrhau'r canlyniadau amgylcheddol gorau ar eich fferm.

Gweithredoedd rheoli'r adolygiad o gynefinoedd

Mae tua 80 o weithredoedd rheoli wedi'u cynllunio i fynd i'r afael ag amcanion bioamrywiaeth. Bydd y gweithredoedd rheoli sydd ar gael i chi yn dibynnu ar natur y tir ar eich fferm (e.e. faint o dir cynefin sydd gennych) a'r arferion ffermio y gellir eu cynnal ar y daliad. Er enghraifft, a ydych chi'n tyfu cnydau neu a ydych yn cadw gwartheg y gallwch eu defnyddio i bori tir cynefin.

Mae amrywiaeth o weithredoedd rheoli ar gael. Mae gan bob categori o gynefin weithred reoli gysylltiedig a cheir hefyd weithredoedd rheoli ar dir âr a gweithredoedd ar gyfer creu neu adfer cynefin. Gallai’r mathau o weithredoedd a allai fod ar gael ichi gynnwys:

  • gweithredoedd rheoli cynefin ar weundir, tir pori a choetir. Er enghraifft, adfer gweirglodd i gynyddu amrywiaeth rhywogaethau glaswelltir, a darparu ardaloedd porthiant a noddfa i wenyn ac infertebratau eraill
  • gweithredoedd rheoli ategol sy'n helpu rhagor o welliannau i gynefin e.e. pori gyda stoc trwm neu godi lefelau dŵr

Dim ond y gweithredoedd rheoli sy'n gwireddu amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy, sef yn benodol y rheini er lles y fioamrywiaeth sydd wedi'i nodi ar eich fferm ac y cytunodd yr FSO arnynt, y gellir eu cynnwys mewn cynllun rheoli adolygiad cynefinoedd a rhaglen waith.

Telir taliad fesul hectar gan fwyaf am gynnal gweithredoedd rheoli ac mae gan bob gweithred gyfradd dalu wahanol. Fe welwch restr o'r gweithredoedd rheoli a'u cyfraddau talu yn Atodiad B.

Mae'r gweithredoedd rheoli a'u gofynion yn cael eu disgrifio yn yr Adolygiad o Gynefinoedd: canllaw technegol – camau rheoli.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen trwydded, cydsyniad neu ganiatâd i gynnal gweithred reoli a hawlio arni. Eich cyfrifoldeb chi fydd cael unrhyw drwydded, cydsynaid neu ganiatâd sydd ei angen. Bydd eich FSO yn trafod hyn gyda chi yn ystod ymweliad yr Adolygiad o Gynefinoedd.  

Gwaith cyfalaf yr adolygiad o gynefinoedd

Mae tua 160 o eitemau gwaith cyfalaf ar gael drwy Gynllun Rheoli'r Adolygiad Cynefinoedd, i gefnogi gweithredoedd rheoli neu amcanion amgylcheddol. Dyma’r math o Waith Cyfalaf sydd ar gael:

  • Gwaith seilwaith fel ffensys a gatiau parhaol – i helpu i reoli da byw sy'n pori i gynnal Gweithredoedd Rheoli penodol sy'n gwella cynefinoedd neu nodweddion amgylcheddol.
  • Rheoli llystyfiant fel rhododendron neu brysgwydd – er mwyn cynyddu bioamrywiaeth
  • Creu pyllau er lles bioamrywiaeth.
  • Gweithredoedd ar dir âr fel ydau'r gwanwyn heb eu chwistrellu neu gnydau gorchudd i fywyd gwyllt. Bwriad y gweithredoedd hyn, er enghraifft, yw darparu bwyd a gorchudd i adar tir fferm neu gynnal planhigion prin ar dir âr.

Dim ond os yw'n cyfrannu at amcanion bioamrywiaeth a nodwyd ar eich fferm ac y cytunodd yr FSO arnyn nhw y gellir cynnwys Gwaith Cyfalaf yn y Cynllun Rheoli a'r Rhaglen Waith (e.e. rheoli cynefinodd neu i gefnogi rhywogaethau brodorol â blaenoriaeth). Ni ellir defnyddio gwaith cyfalaf i gefnogi gofynion Haen Gyffredinol yr SFS. Dim ond pan fydd yn cefnogi gweithredoedd sy'n fwy na neu'n ychwanegol i'r rhai yn yr Haen Gyffredinol y gellir cynnwys gwaith cyfalaf.

Cewch ragor o fanylion am Waith Cyfalaf a’r cyfraddau talu yn Atodiad C.

Mae gofynion y Gwaith Cyfalaf wedi'u nodi yn yr Adolygiad o Gynefinoedd: Canllaw Technegol – Eitemau Gwaith Cyfalaf.

Nid oes gwaith cyfalaf ar gyfer rheoli coetir yn yr Adolygiad  o Gynefinoedd. Mae cyllid ar gyfer creu coetiroedd a rheoli coetiroedd ar gael trwy gategorïau eraill yr Haen Opsiynol.    

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen trwydded, cydsyniad neu ganiatâd i gynnal eitemau gwaith cyfalaf a'u hawlio.  Eich cyfrifoldeb chi fydd cael unrhyw drwydded, cydsyniad neu ganiatâd sydd ei angen.  

Y cynllun rheoli a'r rhaglen waith

Unwaith y byddwch chi wedi cytuno ar y categorïau cynefin manwl, y Gweithredoedd Rheoli a gynigir ac eitemau Gwaith Cyfalaf, bydd eich FSO yn datblygu Cynllun Rheoli a Rhaglen Waith yr Adolygiad Cynefinoedd.

Ar ôl i chi gadarnhau'ch bod yn derbyn eich Cynllun Rheoli a Rhaglen Waith, bydd yn ddilys am bum mlynedd.  Nid oes gorfodaeth arnoch i wneud gwaith y Cynllun Rheoli a'r Rhaglen Waith ar ôl cadarnhau eich bod yn eu derbyn.  

Os ydych yn am roi'r Cynllun Rheoli a'r Rhaglen Waith neu ran ohonyn nhw ar waith a chael taliad am wneud, bydd angen ichi wneud cais am grant SFS Opsiynol: Gweithredoedd Cynefin.

Pecynnau gwaith

Bydd eich Cynllun Rheoli a'ch Rhaglen Waith yn cynnwys pecynnau gwaith. 

Mae pecyn yn gasgliad o eitemau a / neu weithredoedd sy'n anelu at sicrhau canlyniadau amgylcheddol penodol ar eich fferm.  Gall rhai pecynnau gynnwys un eitem neu weithred, megis adfer pwll neu reoli cynefin ar lefel uwch (e.e. trwy fwy o bori ac ati). Gall eraill gynnwys sawl gweithred a / neu eitem gysylltiedig y mae angen ei chynnal i sicrhau'r canlyniad a ddymunir. Yn gyffredinol, mae pecynnau yn seiliedig ar gaeau a gallai fod gan gae fwy nag un pecyn.

Os oes gweithredoedd neu eitemau cysylltiedig, byddwn yn eu dangos yn y Rhaglen Waith.  Bydd yn rhaid i eitemau neu weithredoedd cysylltiedig mewn pecyn gael eu cynnal hefyd mewn trefn benodol. Er enghraifft, efallai y bydd angen ffens cyn y gellir cadw stoc allan o gynefin.

Gall y taliad ar gyfer Gweithred Reoli a/neu Waith Cyfalaf penodol ddibynnu arnoch yn cynnal Gweithredoedd neu Waith Cyfalaf cysylltiedig arall.

Gweithredoedd neu eitemau gorfodol, y prif rai a'r rhai opsiynol

Gall pecynnau gynnwys ystod o wahanol weithredoedd neu eitemau a byddan nhw'n cael eu rhannu'n brif weithredoedd neu eitemau, rhai gorfodol a rhai opsiynol.  Maen nhw'n cael eu diffinio fel a ganlyn: 

  • Gorfodol - dyma weithredoedd neu eitemau sy'n hanfodol i'r pecyn, y mae eu hangen i sicrhau'r amcanion bioamrywiaeth.  
  • Prif - Bydd pob pecyn yn cynnwys prif weithred neu eitem, sydd hefyd fel arfer yn rhan orfodol o'r pecyn. Y rhain fydd fwyaf tebygol o sicrhau amcan amgylcheddol y pecyn.  Fel arfer, Gweithred Reoli yw'r brif weithred neu eitem.
  • Opsiynol - nid yw'r eitemau hyn yn hanfodol i'r pecyn ond efallai y bydd eu hangen i helpu i gynnal gweithred neu eitem orfodol.  Byddan nhw'n darparu buddion ychwanegol ond dydyn nhw ddim yn hanfodol.

Enghreifftiau o becynnau

Pecyn 1: rheoli cynefin

Mae angen cynnal gwaith rheoli ar ddarn o gynefin heb ei ffensio ar y fferm, fydd yn cynnwys pori a rheoli prysgwydd sy'n bygwth boddi'r cynefin.  Byddai'r Pecyn yn cynnwys: 

  1. Ffensys a Giât – dyma fyddai'r peth cyntaf i'w wneud a byddai'n eitem 'orfodol'.  Byddai hefyd yn gysylltiedig â'r Weithred Reoli sy'n gofyn am reoli'r cynefin trwy ei bori. 
  2. Gweithred Reoli ar lefel uwch – sy'n cynnwys gofynion pori penodol; gan gynnwys gofynion rheoli tir dros flwyddyn galendr a fyddai'n dechrau yn y flwyddyn ar ôl gosod y ffens. Dyma fyddai'r 'brif weithred' a byddai hefyd yn 'orfodol'. 
  3. Clirio prysgwydd – byddai hyn yn eitem gwaith cyfalaf 'orfodol'.  Gellir gwneud y gwaith fesul cam dros gyfnod o amser.  e.e. clirio rhannau bach o brysgwydd bob blwyddyn dros gyfnod o dair blynedd.
    Yn yr enghraifft hon felly mae yna weithredoedd / eitemau gorfodol a phrif weithredoedd / eitemau.  Felly, byddai angen gwneud yr holl waith a restrir i chi allu cael eich talu amdano.
Pecyn 2: coridor nant

Mae'r asesiad ar y fferm yn dweud y byddai coridor glan nant yn fuddiol. Gall y Pecyn gynnwys:

  1. Ffensys a Gât – dyma'r pethau cyntaf i'w gwneud. Byddai'n eitem 'orfodol' er mwyn cadw stoc allan o lan yr afon.
  2. Gweithred Reoli ar lan nant – byddai'n cynnwys y gofyn i gadw stoc allan, a byddai'n dechrau yn y flwyddyn ar ôl gosod y ffens. Dyma fyddai'r 'brif weithred' a byddai hefyd yn 'orfodol'.
  3. Cafn dŵr a phibell – byddai hon yn eitem gwaith cyfalaf 'opsiynol'.  Gan fod yr eitem hon yn opsiynol, gallwch ddewis a ydych am ei gwneud fel rhan o'r pecyn. 

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys prif weithred orfodol ac eitemau gwaith cyfalaf gorfodol ac opsiynol. 

Pecyn 3: adfer perthi/gwrychoedd 

Nodir bod darn o berth/wrych ar y fferm angen ei hadfer.  Byddai'r pecyn hwn yn cynnwys:

  1. Plygu perth/gwrych: Dyma fyddai prif eitem ac eitem orfodol y prosiect. Byddai angen plygu'r berth cyn y gellid rhoi arian ar gyfer unrhyw eitemau eraill yn y pecyn. 
  2. Ffens: Byddai angen ffensys bob ochr i'r berth i rwystro da byw rhag pori tyfiant newydd.  Byddai'r ffensys yn eitem 'orfodol' ac felly'n un o ofynion y pecyn. 
  3. Gât: Mae angen gât newydd mewn bwlch sy'n bod eisoes ond gan nad oes ei angen i amddiffyn y berth/gwrych, byddai'n eitem opsiynol.  Gallech ddewis a ydych am gynnwys a gosod y giât fel rhan o'r pecyn. 

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys prif eitem, eitem orfodol ac eitem opsiynol.  

Pecyn 4: clytwaith cynefinoedd yr ucheldir, heb eu hamgáu

Mae gan fferm floc mawr o dir ar yr ucheldir, sy'n cynnwys clytwaith o gynefinoedd.  Mae'r holl ffiniau wedi'u ffensio i gadw stoc. 

  1. Gweithred Reoli ar lefel uwch - clytwaith o gynefinoedd: Dyma fydd y brif weithred, i wella cyflwr y cynefin. 
  2. Gweithred ategol: pori gyda stoc trwm: Byddai hon yn weithred reoli orfodol ategol ar gyfer defnyddio gwartheg i bori'r cae. 

Yn yr enghraifft hon, nid yw'r pecyn yn cynnwys unrhyw waith cyfalaf.  Mae'r ddwy weithred reoli yn orfodol ac felly bydden nhw'n rhan o ofynion y pecyn.

Gallai'r ddwy weithred reoli ddechrau ym mlwyddyn 1 y pecyn gan nad oes angen gwaith cyfalaf i'w cynnal. 

Blaenoriaethu pecynnau

Yn ystod ei ymweliad â'r fferm, bydd yr FSO yn nodi ac yn trafod pecynnau posibl gyda chi. Gyda'ch gilydd, byddwn yn rhoi'r pecynnau hyn yn eu trefn yn ôl y manteision amgylcheddol y disgwylir iddynt eu gwireddu.

Wrth wneud cais am gyllid, rhaid cwblhau'r pecynnau sydd â blaenoriaeth uwch cyn gwneud cais ar gyfer y pecynnau â blaenoriaeth is. Er enghraifft, byddai angen cynnal pob pecyn Blaenoriaeth 1 cyn gwneud cais ar gyfer pecynnau Blaenoriaeth 2.

Perthynas â chategorïau eraill Haen Opsiynol yr SFS yn y dyfodol  

Os oes Gweithredoedd Rheoli a Gwaith Cyfalaf wedi'u cynnwys yn eich Cynllun Rheoli a'ch Rhaglen Waith , byddwn yn disgwyl iddynt gael eu cyflawni gyda grant yr SFS Opsiynol: Gweithredoedd Cynefin.

Os byddwch am gynnal gweithredoedd ychwanegol, er enghraifft creu cynefin dros dro a gwaith cyfalaf fel adfer perth/gwrych, gallwch wneud cais i'r SFS Opsiynol: Cynefin Dros Dro a'r SFS Opsiynol: Categorïau Amgylchedd Cyfalaf ar eu cyfer.

Cyllid o ffynonellau eraill

Mae manylion y berthynas rhwng yr Adolygiad o Gynefinoedd a thir sy'n derbyn cyllid trwy gynlluniau eraill wedi’u nodi isod.

Cynllun Troi'n Organig, SFS Opsiynol: Troi'n Organig ac SFS Opsiynol: Cymorth Ffermio Organig

Gellir cynnwys tir sy'n derbyn y grantiau hyn mewn Adolygiad o Gynefinoedd, ond efallai y byddan nhw'n gofyn ichi gynnal rhai Gweithredoedd Rheoli fyddai'n gwneud y tir yn anghymwys am gymorth yn y dyfodol.

Cynlluniau Creu Coetir

Os oes gennych dir sy'n destun cais neu sy'n derbyn grant un o'r cynlluniau creu coetir isod, ni fydd y tir hwnnw yn cael bod yn rhan o'ch Adolygiad o Gynefinoedd;

Creu Coetir Glastir, Grant Creu Coetir, Grantiau Bach – Creu Coetir,   SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach neu SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir

Cytundebau Rheoli Henebion

Efallai na fydd Heneb Gofrestredig a thir arall sy'n dod o dan gytundeb rheoli CADW yn cael bod yn rhan o'ch Adolygiad o Gynefinoedd. 

Ffynonellau cyllid eraill 

Efallai y bydd amgylchiadau eraill pan na chaiff tir sy'n derbyn cyllid o ffynhonnell arall, er enghraifft fel rhan o Ffermio Bro neu Gynllun Adnoddau Naturiol Integredig neu gytundeb arall gael bod yn rhan o'r Adolygiad o Gynefinoedd. Bydd eich FSO yn trafod hyn gyda chi yn ystod ei ymweliad â'r fferm.

Adran D: Datgan diddordeb a'r broses ddewis

RPW Ar-lein

Rhaid llenwi cais ar gyfer Haen Opsiynol yr SFS: Adolygiad o Gynefinoedd drwy RPW Ar-lein.  

Mae rhagor o wybodaeth am RPW Ar-lein ar gael ar ein gwefan.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW.  Mae manylion sut i wneud hyn ar ein gwefan. Canllawiau i asiantau ac undebau ffermio.

Cyflwyno cais

Mae cais yr SFS Opsiynol: Adolygiad o Gynefinoedd ar gael drwy Ddangosfwrdd Haen Opsiynol yr SFS. Bydd hwnnw ar gael ichi drwy'r tab Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar eich tudalen hafan RPW Ar-lein.

Tra bod y cais ar gael, gallwch wneud cais unrhyw bryd.

Darllenwch y cyflwyniad i'r cais, Bydd dolen ynddo ichi gysylltu â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid os bydd gennych gwestiynau. Yna ticiwch y blwch i ddangos eich bod am ofyn am Adolygiad o Gynefinoedd, ticiwch i gadarnhau eich bod wedi darllen a deall y datganiadau a'r ymrwymiadau ac yna cyflwynwch y cais.

Tynnu'r cais yn ôl 

Ar ôl i chi gyflwyno cais am Adolygiad o Gynefinoedd, gallwch dynnu'ch cais yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hynny yn 'Fy Negeseuon' ar eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Os byddwch yn tynnu'n ôl o broses yr Adolygiad o Gynefinoedd ar ôl i chi gael cynnig Cynllun Rheoli Adolygiad Cynefinoedd a Rhaglen Waith, ni fyddwch yn cael gwneud cais am Adolygiad o Gynefinoedd arall am 12 mis.

Sgorio a dewis

Mae'r broses sgorio a dewis yn broses gyson ar gyfer dewis a blaenoriaethu parseli tir ar sail y cynefinoedd, y rhywogaethau a'r nodweddion sydd ynddyn nhw. Defnyddir sgoriau i helpu i ddewis daliadau a all gyfrannu tuag at y canlyniadau amgylcheddol a nodwyd drwy'r Adolygiad o Gynefinoedd.

Bydd pob parsel o dir o dan eich rheolaeth lwyr chi y byddwch wedi hawlio taliad Haen Gyffredinol yr SFS arno ar eich SAF ddiweddaraf yn cael sgôr ar sail yr haenau sy'n berthnasol i'r cae hwnnw.

Cyfrifir y sgôr fel a ganlyn:

  • 1 pwynt fesul haen ar gyfer pob cynefin, rhywogaeth neu nodwedd sy'n bresennol ar y fferm. Bydd nifer yr haenau sy'n gorgyffwrdd mewn cae yn cael eu hadio at ei gilydd. 
  • Lluoswch x 10 os bydd unrhyw gynefin ar fap cynefinoedd blaenoriaeth, yna;
  • Lluoswch x 5 os bydd unrhyw gynefin yn llain glustogi 500m SoDdGA 
    Mae'r haenau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cyfri'r sgôr yn cael eu disgrifio isod:
    • Perllan
    • Tir parc a choed pori
    • Lowland calcareous grassland
    • Glaswelltir metelaidd
    • Glaswelltir llawr gwlad (asidig, niwtral a gwlyb)
    • Rhostir llawr gwlad
    • Rhostir yr ucheldir (cyrion)
    • Glaswelltir calchaidd yr ucheldir
    • Rhos mynydd
    • Silff craig a sgri
    • Arfordiroedd
    • Llyn
    • Afon
    • Pwll dŵr
    • Ffos
    • Gwlyptir (cors a ffen yr ucheldir/llawr gwlad)
    • Madfall Fawr Gribog
    • Brân goesgoch (gwaith rheoli wedi'i dargedu)
    • Gylfinir (gwaith rheoli wedi’i dargedu)
    • Cornchwiglen (gwaith rheoli wedi’i dargedu)
    • Grugiar goch (gwaith rheoli wedi'i dargedu)
    • Mwyalchen y mynydd (gwaith rheoli wedi'i dargedu)
    • Britheg y gors - ar ôl 1990
    • Gwyniad
    • Misglen berlog yr afon
    • Ystlum du
    • Ystlum pedol mwyaf
    • Ystlum pedol lleiaf
    • Llygoden y dŵr
    • Ffwng glaswelltir
    • Y gardwenynen lwydfrown
    • Planhigion tir âr
    • Planhigion Arctig-Alpaidd
    • Tegeirian llydanwyrdd bach
    • Merywen y mynydd
    • Planhigion rhostir
    • Ffridd
    • Adfer mawndiroedd

Haenau lluosi

  • Map Cynefinoedd Blaenoriaeth
  • Llain glustogi 500m SoDdGA

Unwaith y bydd y system wedi cyfrif sgôr pob cae, bydd yn cyfrif sgôr y cais yn awtomatig trwy rannu cyfanswm sgôr yr haenau ag arwynebedd y daliad.
Os gwnaethoch hawlio taliad Cynllun Cynefin Cymru 2025, caiff pwysoliad o 1000 o bwyntiau ei ychwanegu.

Er enghraifft, mae fferm 70ha yn gorgyffwrdd â 10 haen = 10 pwynt x 10 (gan fod rhai ar haen cynefin â blaenoriaeth) = 100 x 5 (o fewn haen llain glustogi SoDdGA) = 500 wedi'i rannu â 70 (maint y daliad) = 7.14 plws 1000 am ichi hawlio Cynllun Cynefin Cymru 2025 = 1007.14

Bydd pob cais yn cael ei sgorio a'i roi yn ei drefn. Caiff sgôr trothwy ei gosod, ar sail y ceisiadau sydd â'r sgôr uchaf.

Y ceisiadau sydd â'r sgôr uchaf fydd yn cael eu dewis gyntaf.

Er mwyn gallu cynnal cynllun peilot i dreialu'r broses Adolygu Cynefinoedd, bydd nifer fach o geisiadau yn cael eu dewis yn y grwp cyntaf, a fydd yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 14 Medi 2026.

Disgwylir i'r detholiad nesaf gael ei gynnal ym mis Chwefror 2027, ac wedi hynny bydd detholiadau yn cael eu cynnal tua bob 2 fis.

Os dewisir eich cais, cysylltir â chi i drefnu ymweliad â'ch fferm i gynnal Adolygiad o Gynefinoedd.

Os na chaiff eich cais ei ddewis, rhown wybod ichi ar eich cyfrif RPW Ar-lein, a bydd eich cais yn cael ei ystyried fel rhan o'r dewis nesaf. Os nad ydych am i ni ystyried eich cais mewn detholiad yn y dyfodol, gallwch dynnu'ch cais yn ôl a gwneud cais eto yn nes ymlaen.

Adran E: yr ymweliad Adolygu Cynefinoedd

Mae'r Adolygiad o Gynefinoedd yn asesu'r fferm gyfan a bydd yn nodi cyfleoedd i reoli'r amgylchedd yn well a fydd yn golygu cefnogi cynefinoedd, rhywogaethau â blaenoriaeth neu nodweddion amgylcheddol eraill, e.e. nodweddion dŵr.

Yr FSO fydd yn ymweld â'ch fferm a bydd yn cysylltu â chi cyn yr ymweliad i drefnu amser cyfleus i asesu'r fferm. 

Cyn yr ymweliad

Wrth baratoi ar gyfer yr ymweliad, bydd yr FSO yn cynnal asesiad desg gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael fel ffotograffau o'r awyr, lluniau lloeren, mapiau RPW sy'n dangos lleoliad cynefinoedd, rhywogaethau a chyfleoedd ar gyfer rheoli amgylcheddol, datganiadau tir a chofnodion perthnasol eraill. Bydd y paratoadau hyn yn rhoi amcan o'r cynefinoedd a'r nodweddion amgylcheddol a allai fod ar eich fferm a byddan nhw'n cael eu defnyddio i nodi camau rheoli a gwaith cyfalaf posibl ar gyfer cefnogi cynefinoedd a rhywogaethau. Bydd yn help wrth baratoi ar gyfer yr ymweliad ac yn nodi'r agweddau efallai y bydd angen eu hasesu'n fanylach yn ystod yr ymweliad.

Yn ystod yr ymweliad â'r fferm

Bydd yr Adolygiad o Gynefinoedd yn cynnwys arolwg ar droed o'r holl dir cymwys sydd o dan eich rheolaeth lwyr chi. Mae hyn yn golygu y bydd angen ymweld efallai â phob darn o gynefin a thir wedi'i wella ar y daliad, gan gynnwys rhannau mwy anghysbell. Gan ddibynnu ar faint a chymhlethdod eich daliad, efallai y bydd angen mwy nag un ymweliad.

Yn ystod ei ymweliad, bydd yr FSO yn:

  • Trafod eich arferion ffermio a rheoli tir gyda chi.
  • Nodi a dilysu'r mathau o gynefinoedd sydd ar y fferm.
  • Asesu cyflwr y cynefinoedd.
  • Nodi cyfleoedd i wella'r cynefinoedd.
  • Asesu cyflwr nodweddion amgylcheddol (e.e. perthi/gwrychoedd a phyllau) a nodi cyfleoedd i'w hadfer neu eu rheoli.  
  • Ystyried yr opsiynau ar gyfer creu cynefinoedd newydd.
  • Asesu a oes angen gwaith cyfalaf i gefnogi'r gwaith rheoli cynefinoedd.

Mathau o gynefinoedd a allai gael eu hasesu

Bydd cynefinoedd yn cael eu nodi trwy arsylwadau maes, gan gynnwys o ran pa fathau allweddol o blanhigion sy'n bresennol a chyfran y rhywogaethau amaethyddol yn y cynefin. Gall yr adolygiad gynnwys cynefinoedd fel:

  • Coetir llydanddail lled-naturiol
  • Prysgwydd
  • Tir parc a choed pori
  • Perllannau traddodiadol
  • Glaswelltir heb ei wella, gan gynnwys glaswelltir niwtral, calch, asidig a chorsiog
  • Cynefinoedd ar orlifdir
  • Rhostir
  • Llaciau a ffeniau
  • Gwelyau Cyrs
  • Cyforgors a Gorgors
  • Cynefinoedd arfordirol fel twyni tywod, morfeydd heli, glaswelltir arfordirol a graean
  • Calchbalmant
  • Nodweddion dŵr naturiol fel afonydd, llynnoedd a phyllau

Mae'r categorïau cynefin a ddefnyddir fel rhan o'r Adolygiad o Gynefinoedd yn fanylach na'r rhai sy'n rhan o Haen Gyffredinol yr SFS ac yn cynnwys rhai ychwanegol. 

Mae 31 o gategorïau o gynefin gwahanol y gellir eu defnyddio fel rhan o'r Adolygiad o Gynefinoedd.  

Bydd angen adolygu'r rhannau sydd eisoes wedi'u datgan fel cynefin o dan Haen Gyffredinol yr SFS ac efallai rhoi categori cynefin newydd iddynt. Bydd unrhyw gategori cynefin newydd yn cael eu rhoi ar eich mapiau SFS.  

Fodd bynnag, ni fydd gofynion rheoli Haen Gyffredinol yr SFS yn newid nes eich bod yn cytuno â'r dyfarniad grant ac yn ymrwymo i Weithredoedd Rheoli Opsiynol y darnau cynefin hyn.  

Tir cynefin ychwanegol neu wedi'i ailgategoreiddio

Efallai y bydd yr SFO yn ystod ymweliad yr Adolygiad o Gynefinoedd yn gweld cynefin ychwanegol neu gynefin sydd wedi'i gamgategoreiddio. Bydd unrhyw gynefin newydd yn cael ei fapio ac yn ffurfio rhan o Haen Gyffredinol yr SFS. Os gwelir cynefin sydd wedi'i gamgategoreiddio, caiff ei newid.

Tir cynefin sydd heb ei ddatgan, neu Goetir sy'n 0.1 hectar neu fwy.

Os gwelir bod tir sydd wedi'i ddatgan fel cynefin a/neu goetir o dan Haen Gyffredinol yr SFS ddim yn bresennol a/neu ddim yn cael ei reoli fel tir cynefin, gellir eich cosbi yn unol â Safonau Dilysadwy a Matrics Cosbau Haen Gyffredinol yr SFS.

Asesu cyflwr cynefin

Bydd yr FSO yn asesu cyflwr cyffredinol y cynefinoedd ac yn trafod ffactorau sy'n effeithio arnynt, gan gynnwys:

  • Lefelau pori (a yw'r cynefin yn cael ei danbori neu ei orbori)
  • Prysgwydd neu lystyfiant annymunol yn lledaenu drwyddo
  • Rhywogaethau estron goresgynnol
  • Problemau rheoli dŵr a draenio dŵr
  • Ffactorau eraill sy'n dylanwadu ar ansawdd cynefinoedd

Bydd asesu cyflwr y cynefin yn help i ddeall pa weithredoedd rheoli allai fod yn addas ar gyfer y cynefin yn ogystal ag unrhyw waith cyfalaf a allai fod ei angen.  Er enghraifft, efallai y bydd angen gostwng lefel y stoc ymhellach neu gynyddu'r lefelau stocio am gyfnod bach. Efallai y bydd angen ffensys hefyd i reoli da byw.  Os bydd prysgwydd neu redyn yn lledaenu dros dir cynefin, efallai y bydd gwaith cyfalaf yn briodol i dorri a rheoli'r tir hwnnw.

Ystyried cyfleoedd ychwanegol

Bydd yr ymweliad yn ystyried hefyd gyfleoedd eraill i wella canlyniadau amgylcheddol ar draws y fferm, gan gynnwys:

  • Creu cynefinoedd dros dro newydd. Er enghraifft, ydau heb eu chwistrellu, ymylon o wyndwn, ac ymylon o laswellt garw.
  • Creu cynefinoedd parhaol newydd. Er enghraifft, troi tir wedi'i wella yn gynefin trwy wasgaru llai o fewnbynnau neu drwy greu coridorau glan nant wrth ymyl afonydd. 
  • Nodi mannau addas ar gyfer rheoli neu greu perthi/gwrychoedd.
  • Gweithredoedd rheoli er budd rhywogaethau blaenoriaeth e.e. cornchwiglen a'r gylfinir
  • Ychwanegu nodweddion ychwanegol fel pyllau a phlannu coed.
  • Cysylltu cynefinoedd trwy greu cynefinoedd newydd fel a ddisgrifir uchod.
  • Ystyried cyfleoedd amgylcheddol eraill sydd ar gael drwy'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Ar ôl yr ymweliad

Byddwn yn trafod â chi yr hyn a fydd wedi'i weld yn ystod yr ymweliad ac yn cytuno ar Weithredoedd Rheoli a Gwaith Cyfalaf. Bydd hyn i gyd yn bwydo'r Cynllun Rheoli a'r Rhaglen Waith. Byddan nhw'n seiliedig ar barseli cae diweddaraf y busnes. Bydd unrhyw newidiadau i barseli caeau, neu barseli ychwanegol, sy'n cael eu nodi ar Rheoli Fy Nhir yn cael eu hystyried wrth gwblhau'r cynllun.

Cyngor ac arweiniad

Bydd rhoi cyngor a chefnogaeth yn rhan bwysig o'r ymweliad. Bydd yr FSO yn trafod Gweithredoedd Rheoli cynefinoedd ac yn eich helpu i ddeall y cyllid a'r help sydd ar gael drwy'r SFS, gan gynnwys cyfleoedd a allai fod ar gael trwy gategorïau eraill Haen Opsiynol yr SFS.

Adran F: cynllun rheoli adolygiad cynefinoedd a'r rhaglen waith

Bydd ymweliad yr Adolygiad Cynefinoedd â'ch fferm yn arwain at gynhyrchu'r dogfennau canlynol;

  • Cynllun Rheoli sy'n disgrifio'r prif nodweddion a geir ar y fferm a'r prif nodau a'r uchelgeisiau wrth reoli cynefinoedd eich fferm. 
  • Rhaglen Waith sy'n rhestru'r Gweithredoedd Rheoli a'r eitemau o Waith Cyfalaf y cytunwyd arnynt
  • Bydd eich Map SFS yn cael ei ddiweddaru i ddangos lleoliad Gweithredoedd Rheoli ac eitemau Gwaith Cyfalaf. 

Bydd eich Cynllun Rheoli a'ch Rhaglen Waith ar gael i chi eu derbyn neu eu gwrthod ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Pan fydd eich Cynllun Rheoli a'ch Rhaglen Waith yn barod i gael eu hadolygu, byddwn yn rhoi gwybod ichi. 

Bydd hysbysiad yn cyrraedd 'Fy Negeseuon' pan fyddwch yn ymweld â'ch Cyfrif RPW Ar-lein.

Gallwch agor eich Cynllun Rheoli a'ch Rhaglen Waith drwy'r tab Cynlluniau ar dudalen hafan RPW Ar-lein. Bydd 'Cofrestr Cynlluniau Adolygu Cynefinoedd' yn ymddangos yn y gwymplen o dan y tab hwn.

Byddwch yn gallu gweld y camau y byddwch wedi cytuno arnynt ar eich map SFS, y Rhaglen Waith a'r Cynllun Rheoli o dan y tabiau perthnasol ar y gofrestr.

Os ydych chi'n fodlon â phopeth, gallwch gadarnhau eich bod yn derbyn y cynllun, neu os oes angen gwneud newidiadau, gallwch ddewis dychwelyd y cynllun i'r FSO iddo ei ailystyried. Bydd yna flwch testun i chi gael esbonio pam eich bod yn rhoi'r cynllun yn ôl.

Rhaid i chi gadarnhau'ch bod yn derbyn eich Cynllun Rheoli a'ch Rhaglen Waith o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl y dyddiad y cawsant eu rhoi yn eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Os byddwch yn dewis dychwelyd eich Cynllun Rheoli a'ch Rhaglen Waith i'r FSO, yna bydd y 21 diwrnod calendr ar gyfer cadarnhau'ch bod yn ei dderbyn yn dechrau eto pan fyddwch yn cael y dogfennau diwygiedig. 

Os na fyddwch yn cadarnhau'ch bod yn derbyn eich Cynllun Rheoli a'ch Rhaglen Waith o fewn y 21 diwrnod calendr neu'n penderfynu nad ydych am barhau â'r cynllun, ni fyddwch yn cael gwneud cais am Adolygiad o Gynefinoedd arall am 12 mis.

Unwaith y byddwch yn cadarnhau'ch bod yn derbyn y Cynllun Rheoli a'ch Rhaglen Waith bydd yn ddilys am bum mlynedd.

Os byddwch yn cael rhagor o dir ar ôl i chi gadarnhau'ch Cynllun Rheoli a Rhaglen Waith neu os hoffech wneud cais am Adolygiad Cynefinoedd arall, bydd y rhai nad ydynt wedi cael cynnig Cynllun Rheoli a Rhaglen Waith o'r blaen yn cael blaenoriaeth yn y broses ddewis.

Byddwch yn gallu gwneud cais am grant i roi'ch Cynllun Rheoli a'ch Rhaglen Waith ar waith o dan yr SFS Opsiynol: grant Gweithredoedd Cynefin. Byddwch yn gallu gwneud cais trwy Ddangosfwrdd eich SFS Opsiynol.

Bydd canllaw i gyd-fynd â'r grant yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru cyn i SFS Opsiynol: Gweithredoedd Cynefin agor ar gyfer ceisiadau.

Adran G: trosglwyddo neu werthu tir sy'n rhan o gynllun rheoli

Os ydy'r daliad cyfan yn cael ei drosglwyddo, gellir trosglwyddo'r Cynllun Rheoli a'r Rhaglen Waith os yw'r busnes fferm sy'n cymryd rheolaeth ar y tir yn cytuno i wneud hynny. Ni fyddwch yn cael trosglwyddo rhan o Gynllun Rheoli a Rhaglen Waith. 

Os byddwch yn gwerthu neu'n trosglwyddo tir heb i'r busnes fferm arall gytuno i gymryd y Cynllun Rheoli a'r Rhaglen Waith, byddwn yn eu tynnu'n ôl.

Adran H: amgylchiadau eithriadol

Amgylchiadau eithriadol yw amgylchiadau anarferol sydd y tu allan i reolaeth yr ymgeisydd, a oedd yn annisgwyl ac nad oedd modd eu hosgoi er gwaethaf pob gofal heb aberth ormodol ar ei ran. Mae enghreifftiau y gellir eu cydnabod yn cynnwys: 

  •  digwyddiadau naturiol, fel cyfnod hir o dywydd drwg, llifogydd neu glefyd ar anifail neu blanhigyn.
  • salwch neu anaf difrifol neu farwolaeth sy’n effeithio ar y busnes
  • colli rheolaeth ar y busnes mewn ffordd na ellid fod wedi’i ragweld er enghraifft bod tenantiaeth yn cael ei derfynu neu oherwydd gorchymyn prynu gorfodol.
  • amgylchiadau ariannol fel methdalaeth.
  • problemau yn y gadwyn gyflenwi, gyda thystiolaeth.
  • difrod troseddol gan drydydd parti, fel tân troseddol neu fandaliaeth.

Er mwyn i Lywodraeth Cymru ystyried a derbyn bod digwyddiad yn amgylchiad eithriadol, rhaid i fanylion ysgrifenedig ddod i'n llaw, o fewn 60 diwrnod ar ôl i'r ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb, neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran, allu gwneud hynny.  

Gall digwyddiad effeithio'n uniongyrchol ar un aelod yn unig o sefydliad neu fusnes fferm, fodd bynnag, dylid esbonio sut gwnaeth y digwyddiad effeithio ar allu pawb yn y busnes neu'r sefydliad yn ei gyfanrwydd i gyflawni eu rhwymedigaethau. Gellir gofyn am dystiolaeth ddogfennol ychwanegol a dylid ei darparu yn ôl y gofyn.

Mae'r ddarpariaeth amgylchiadau eithriadol ar gael mewn perthynas â’r canlynol:

  • cyflwyno cais neu hawliad yn hwyr.
  • cyflwyno dogfennau ategol yn hwyr mewn perthynas â chais neu hawliad. 
  • Yr hawl am daliad mewn perthynas â thir cymwys gafodd ei ddatgan ar gais neu hawliad ond nad yw bellach ar gael i'r ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb oherwydd digwyddiad Amgylchiadau Eithriadol. 
  • yr anallu i gydymffurfio â gofynion y cynllun gan gynnwys amodau bod yn gymwys.
  • cosbau a osodir ar hawliadau. Y gofyn i ad-dalu'n rhannol neu'n llawn y taliadau a dderbyniwyd.

Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau.

Adran I: ymddygiad annerbyniol

Ni ddylai swyddogion Llywodraeth Cymru nac unigolion neu sefydliadau sy’n gwneud dyletswyddau ar ran Llywodraeth Cymru ddioddef ymddygiad ymosodol, difrïol na sarhaus na gofynion afresymol a di-baid gan ymgeisydd neu ddeiliad cytundeb neu ei gynrychiolwyr. 

Mae Rheoli Ymddygiad Annerbyniol Cwsmeriaid Llywodraeth Cymru  yn esbonio'r hyn yr ydym yn ei ystyried yn annerbyniol. 

Gall ymddygiad annerbyniol arwain at dynnu taliadau yn ôl a/neu wrthod cais neu hawliad.

Adran J: newid y rheolau

Newidiadau i’r ddeddfwriaeth (gan gynnwys dehongliadau newydd)

Mae rheolau cymorth o dan Haen Opsiynol yr SFS yn seiliedig ar Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 a Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 Rhif 1308 (Cy219)

Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i'r rheolau ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.

Newidiadau i'r rheolau

Mae’n bosibl y bydd angen i ni newid rheolau’r grant a/neu eich Cynllun Rheoli a Rhaglen Waith am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu newid rheolau’r grant oherwydd newidiadau i'r ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran K: y drefn apelio a chwyno

Nid oes unrhyw sail i apelio yn y cam ymgeisio nac wrth ddatblygu'ch Cynllun Rheoli a'ch Rhaglen Waith

Bydd y Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig ar gael ar ôl i chi gadarnhau'ch bod yn derbyn SFS Opsiynol: grant Gweithredoedd Cynefin i roi ar waith eich Cynllun Rheoli a'ch Rhaglen Waith.  

Y Drefn Gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Tîm Cynghori ar Gwynion

Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhif ffôn:

03000 251378

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ

Rhif ffôn:

0300 790 0203

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Gwefan: Ombwdsmon

Adran L: hysbysiad preifatrwydd

Mae'r hysbysiad hwn yn eich hysbysu am y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir neu a gafwyd mewn cysylltiad â'ch Adolygiad o Gynefinoedd. Mae’n esbonio hefyd sut y bydd Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. 

Y rheolwr data ar gyfer y wybodaeth hon yw:

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ

Gellir cysylltu â'r swyddog diogelu data yma: swyddogdiogeludata@llyw.cymru  

Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion prosesu eich Adolygiad o Gynefinoedd.  Fodd bynnag, caiff Llywodraeth Cymru hefyd ddefnyddio’r wybodaeth a roddir at ddibenion eraill, a fydd yn cynnwys y rheini sy’n gysylltiedig â’i swyddogaethau a’i dyletswyddau o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu yw ei bod yn angenrheidiol ar gyfer cynnal   
tasg yn unol â'r awdurdod swyddogol a roddwyd i Lywodraeth Cymru.

Gall Llywodraeth Cymru rannu gwybodaeth bersonol â'r canlynol;

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyswllt Ffermio
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) 
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  •  Awdurdodau Lleol Cymru 
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) 
  • Contractwyr ymchwil sy’n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru
  • Adrannau eraill y Llywodraeth neu gyrff rheoleiddio 
  • Asiantwyr sy'n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru i gynnal Adolygiadau o Gynefinoedd.

Gellir defnyddio'r wybodaeth fel a ganlyn:

  • Cynhyrchu a chyhoeddi mapiau 
  • Llunio adroddiadau o ddata o wahanol ffynonellau a/neu grynodebau ystadegol, ar gyfer eu cyhoeddi.  
  • Llywio penderfyniadau sy'n gysylltiedig â newid polisi a chyllid gan gynnwys astudiaethau sy'n cael eu cynnal ar ran Llywodraeth Cymru.
  • Adnabod tirfeddianwyr/defnyddwyr os bydd argyfwng, e.e. rheoli clefydau ac achosion o dorri rheolaethau;
  • Diogelu budd ymgeiswyr mewn cadwraeth tir a materion a all godi yn sgil ymholiadau am gyllid 
  • Galluogi sefydliad partner i gyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol.
  • Datgelu gwybodaeth i awdurdodau rheoleiddio, fel Tollau a Chyllid Ei Fawrhydi a’r heddlu 
  • Cyhoeddi gwybodaeth benodol ac ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Cyhoeddi a Datgelu Gwybodaeth

Caiff yr wybodaeth ei rheoli a'i defnyddio gan Lywodraeth Cymru yn unol â'i hymrwymiadau a'i dyletswyddau o dan y canlynol:

  • Deddf Diogelu Data 2018
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
  • Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddiaeth (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025

Eich hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 2018

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • i weld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch 
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol, er enghraifft pan fyddwch yn tynnu’ch cais yn ôl cyn ichi gael eich talu) i’ch data gael ei ‘ddileu’
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn:

 0330 414 6421 

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW. 

Adran M: cysylltiadau

Ymholiadau: Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru.

Gallwch ofyn cwestiwn unrhyw bryd ar RPW Ar-lein.

Rhaid cael apwyntiad er mwyn ymweld â’n Swyddfeydd Rhanbarthol. Gall y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid drefnu apwyntiad ‘Cymorth Digidol’ i chi er mwyn ichi ymweld â Swyddfa Ranbarthol a chael help gan aelod o’r staff i wneud cais a/neu hawliad. 

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch e-bost.

Gwlad

Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae’n cynnwys newyddion, canllawiau a gwybodaeth hawdd eu ffeindio a'u deall.  

I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad. I gofrestru, ewch i Hysbysiadau neu tanysgrifiwch i newyddion amaethyddiaeth a coedwigaeth.

Cyfoeth Naturiol Cymru

d/o Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Rhif ffôn:

0300 065 3000

Ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000 (Mon-Fri, 8am - 6pm) 
 

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cysylltiadau Defnyddiol Eraill 

Cadw ar gyfer Henebion Rhestredig a pharciau a gerddi cofrestredig:

Cadw

Llywodraeth Cymru,
Plas Carew,
Uned 5/7 Cefn Coed,
Parc Nantgarw,
Caerdydd CF15 7QQ

Tel: 01443 33 6000 

E-mail: Cadw@Wales.gsi.gov.uk

Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru Ar gyfer henebion sydd heb eu rhestru a nodweddion hanesyddol.

Heneb

Corner House,
6 Stryd Caerfyrddin,
Llandeilo,
SA19 6AE

Cysylltiadau Adran

Ar gyfer ymholiadau Gweinyddol a Chyffredinol: 01558 823121
info@heneb.org.uk 

Ar gyfer cofnod amgylchedd hanesyddol: 01639 501702
her@heneb.org.uk 

Ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol: 01248 366975
planning@heneb.org.uk 

Ar gyfer Allgymorth, Gwirfoddoli ac Addysg: 01938 532772
hello@heneb.org.uk 

Ar gyfer Rheoli Treftadaeth: 01639 501703
heritagemanagement@heneb.org.uk 

Ar gyfer gwasanaethau maes: 01248 366956
fieldservices@heneb.org.uk

Archeoleg Clwyd Powys

Y Swyddfeydd,
Coed y Ddinas,
Y Trallwng
SY21 8RP

Rhif ffôn:

01938 553670

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Archaeoleg Morgannwg Gwent

Canolfan Fusnes Sa12,
Ystâd Ddiwydiannol Seaway Parade,
Baglan,
Port Talbot
SA12 7BR

Rhif ffôn:

01792 655208

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Archaeoleg Gwynedd

Ffordd Craig Beuno/Garthm Road,
Bangor
LL57 2RT

Rhif ffôn:

01248 352535

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Atodiad A: disgrifiadau a diffiniadau o fathau o gynefin SFS

Mae Tabl 1 yn dangos categorïau cynefin Haen Gyffredinol yr SFS a chategorïau cynefin Haen Opsiynol yr SFS a fydd yn cael eu mapio yn dilyn eich Adolygiad o Gynefinoedd.

Mae disgrifiadau o Gategorïau Cynefin Haen Gyffredinol yr SFS i'w gweld yng Nghanllawiau Haen Gyffredinol SFS 2026 a Chanllaw Ffotograffau Cynefinoedd yr SFS.

Ceir disgrifiadau o Gategorïau Cynefin ychwanegol Haen Opsiynol yr SFS isod.

Tabl 1: Categorïau Cynefin Haen Gyffredinol yr SFS a Haen Opsiynol yr SFS
Categorïau Cynefin Haen Gyffredinol yr SFSCategorïau Cynefin Haen Opsiynol yr SFS
PrysgwyddPrysgwydd
Rhedyn TrwchusRhedyn Trwchus
Coetir poriCoetir pori
Perllannau traddodiadolPerllannau traddodiadol
Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáuGlaswelltir Niwtral
Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáuAsidig llawr gwlad
Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáuCalchaidd
Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáuGlaswelltir yr Arfordir
Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáuGlaswelltir Metelaidd
Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáuGweirglodd y Gorlifdir
Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáuCalchbalmant
Gwlyptir wedi’i Amgáu a Glaswelltir CorsiogFfen Llawr Gwlad
Gwlyptir wedi’i Amgáu a Glaswelltir CorsiogGwelyau Cyrs
Gwlyptir wedi’i Amgáu a Glaswelltir CorsiogCyforgors a Gorgors Llawr Gwlad
Gwlyptir wedi’i Amgáu a Glaswelltir CorsiogGlaswelltir Corsiog Llawr Gwlad
Rhos yr Arfordir a Rhos Llawr GwladRhostir yr Arfordir
Rhos yr Arfordir a Rhos Llawr GwladRhostir Sych Llawr Gwlad
Rhos yr Arfordir a Rhos Llawr GwladRhostir Gwlyb Llawr Gwlad
Morfeydd HeliMorfeydd Heli
Twyni Tywod Arfordirol a Thraethau GraeanTwyni Tywod
Twyni Tywod Arfordirol a Thraethau GraeanTraeth Graean
Cynefin Agored yr UcheldirCynefin Agored yr Ucheldir
Cynefin Agored yr UcheldirRhostir Sych yr Ucheldir
Cynefin Agored yr UcheldirRhostir Gwlyb yr Ucheldir
Cynefin Agored yr UcheldirCors yr Ucheldir
Cynefin Agored yr UcheldirFfen a Llac yr Ucheldir
Cynefin Agored yr UcheldirGlaswelltir Metelaidd yr Ucheldir
Cynefin Agored yr UcheldirGlaswelltir Asidig yr Ucheldir
Cynefin Agored yr UcheldirGlaswelltir Corsiog yr Ucheldir
Cynefin Agored yr UcheldirGlaswelltir calchaidd yr ucheldir
Cynefin Agored yr UcheldirCalchbalmant yr Ucheldir

Twyni tywod

Mae twyni tywod yn dirffurfiau ac ecosystemau arfordirol naturiol uwchlaw’r penllanw. Maen nhw'n ymffurfio lle ceir traeth digon mawr i ganiatáu i'r tywod sychu rhwng y ddau lanw ac y ceir gwyntoedd digon cryf i chwythu'r tywod i'r tir lle mae'n cael ei ddal gan laswellt arloesol arbenigol fel morwellt. Maen nhw'n gallu ffurfio systemau deinamig gyda darnau amrywiol o dywod moel, moresg, glaswellt manach, blodau a phlanhigion y rhosydd. Gall pyllau tymhorol ffurfio ymhellach yn ôl o'r arfordir yn y twyni.

Traeth graean

Mae traethau graean arfordirol yn digwydd ar hyd arfordiroedd agored lle mae tonnau yn gollwng cerrig a choblau. Er eu bod yn aml i'w gweld yn foel, lle mae'r graean yn cael ymsefydlogi gall gynnal nifer fach o blanhigion arbenigol iawn, llawer ohonynt wedi'u cyfyngu i'r cynefin hwn. Dylanwedir ar y llystyfiant gan ba mor sefydlog yw'r graean a faint o ddeunydd mân, fel tywod neu silt, a geir - matrics y gwagle rhwng y cerrig fel y'i gelwir. Ar raean symudol iawn, mae llystyfiant yn brin ac yn gyfyngedig i rywogaethau arloesol sy'n gallu goddef sychder, halen ac ansefydlogrwydd.

Glaswelltir yr arfordir

Mae glaswelltir arfordirol yn cynnwys llethrau a chlogwyni arfordirol sy'n cynnal glaswelltir morol neu lystyfiant silff a hollt, neu ddim llystyfiant o gwbl. Mae glaswelltir arfordirol i'w gael o fewn parth a all fod hyd at 500m o'r môr mewn lleoliadau agored sy'n dod i gysylltiad aml â'r drifft halen o'r môr ac fe'u ceir ar lethrau bas neu dir gwastad, yn aml ar gopaon clogwyni. Mae'n laswelltir sydd fel arfer wedi'i ddominyddu gan Festuca (peiswellt meinddail), lle mae corlwyni'n llai na 10% o'r gorchudd ac yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau morol fel Scilla verna (seren y gwanwyn), Plantago maritima (llyriad arfor), Armeria maritima (clustog fair), Thymus drucei (teim gwyllt), Silene uniflora (gludlys arfor), Achillea millefolium (milddail) a Hyacynthoides non-scripta (clychau'r gog). Mae glaswelltir arfor yn aml i'w weld wrth ochr rhostir arfor a rhostir llawr gwlad. 

Rhostir arfordirol (arfor)

Corlwyni fel grug yw prif nodwedd rhostir yr arfordir a dylent orchuddio mwy na 25% o’r tir.  Mae rhostir yr arfordirol fel arfer yn bodoli o fewn parth a all fod hyd at 500m o'r môr mewn lleoliadau agored sy'n dod i gysylltiad aml â halen o'r môr. Prif rywogaethau'r rhostir yw Calluna vulgaris ac Erica cinerea.

Bydd presenoldeb y naill neu'r llall neu'r ddwy yn nodweddiadol o'r cynefin, gydag ond ychydig o Ulex gallii (eithin mân) os o gwbl. Mae hefyd yn cynnwys planhigion arforol fel Scilla verna (seren y gwanwyn), Plantago maritima (llyriad arfor), Armeria maritima (clustog fair) a Plantago coronopus (llyriad corn carw). Y nodweddion hyn sy'n helpu i wahaniaethu rhwng rhos yr arfordir a rhostir sych llawr gwlad mewn lleoliad arfordirol.

Mewn lleoliadau agored iawn, gall y gorchudd grug fod yn brin, weithiau llai na 25%. Mewn ardaloedd ychydig yn fwy cysgodol, mae Ulex gallii yn dod yn fwy amlwg ond nid yw byth mor ddominyddol ag yn rhostir sych llawr gwlad. Mae rhostir arfor yn aml i'w weld ochr yn ochr â glaswelltir arfor a rhostir llawr gwlad, gyda rhostir llawr gwlad i'w weld ymhellach i mewn i'r tir y tu hwnt i brif barth ewyn hallt y don. Ar rai safleoedd, mae ffin bendant rhwng y glaswelltir arfor (mwyaf agored) a'r rhostir arfor, ac yna a rhostir llawr gwlad ymhellach i mewn i'r tir.

Rhostir sych llawr gwlad

Un o nodweddion rhostir llawr gwlad yw gwasgariad eang o gorlwyni fel grug Calluna vulgaris ac eithin mân Ulex gallii. Mae'n wahanol i gynefinoedd glaswelltir tebyg, yn bennaf oherwydd gorchudd fel arfer o fwy na 25% o lwyni ericoid. Mae llystyfiant rhostir yn gysylltiedig fel arfer â phriddoedd asidig sy'n brin o faetholion, ond ceir lleiniau bach iawn gwasgarog o rostir calchaidd ar welyau o Galchfaen Carbonifferaidd.

Mae Cymru'n arbennig o bwysig o ran rhostir sych cefnforol y gorllewin (NVC H8). Nodweddir y cynefin hwn gan Calluna vulgaris (grug), Erica cinerea (grug y mêl) ac Ulex gallii (eithin mân). Dyma'r math mwyaf cyffredin o rostir yng Nghymru, i'w weld o ardaloedd cysgodol yr arfordir i fyny at derfyn y tir amaethyddol sydd wedi'i amgáu (tua 300m). Mae ei strwythur yn amrywio gan ddibynnu sut y mae'n cael ei reoli. Gall ffurfio canopi trwchus, caeedig, wedi'i ddominyddu gan Ulex gallii (eithin mân), neu gall ymddangos yn fwy agored a mwy glaswelltog.

Yn gyffredinol, ar rostir sych ar bridd mwynol (gyda grug a grug y mêl), ychydig iawn os o gwbl o rug croesddail a geir.

Rhostir gwlyb llawr gwlad

Mae rhostir gwlyb yr iseldir i'w weld yn ardaloedd cysgodol yr arfordir i fyny at derfyn y tir amaethyddol sydd wedi'i amgáu (tua 300m). 

Gall rhostir gwlyb fod yn debyg i gynefinoedd gwlyb eraill a gall llai na 25% ohono fod o dan orchudd o gorlwyni. Dylid ei fapio o hyd fel rhostir gwlyb llawr gwlad lle ceir yn bresennol o leiaf un llwyn rhostir ochr yn ochr â rhywogaethau fel mwsogl Sphagnum (migwyn), Narthecium ossifragum (llafn y bladur), Eriophorum angustifolium (plu'r gweunydd) neu Trichophorum germanicum (clwbfrwyn y mawn), a lle mae'r mawn yn fas (llai na 50 cm).

Mae cymunedau rhostir gwlyb (NVC M15 a M16) fel arfer yn tyfu ar fawn llaith, asidig, prin ei faetholion. Hyd yn oed lle ceir ond ychydig o orchudd o gorlwyni, mae'n wahanol i laswelltir corsiog am y ceir llawer o Trichophorum germanicum (clwpfrwynen y mawn) ynghyd ag o leiaf un rhywogaeth o rug. M15 yw'r math mwyaf cyffredin ac mae'n digwydd o lefel y môr hyd at y ffriddoedd.
Yn gyffredinol, ar rostir gwlyb ar fawn bas (y pridd yn amlwg laith/gwlyb), mae grug croesddail yn gyffredin neu'n dominyddu. 

Ffen llawr gwlad

Mae ffeniau llawr gwlad ynwlyptiroedd sy'n ffurfio mawn, yn cael eu bwydo gan ddŵr daear a dŵr wyneb ac yn aml yn eithaf cyfoethog i gyfoethog iawn o ran mwynau. Maent yn nodweddiadol o dirweddau llawr gwlad fel gorlifdiroedd, dyffrynnoedd, basnau gwlyb, ac o amgylch ymylon llynnoedd.

Yng Nghymru, mae ffeniau llawr gwlad yn lleol eu gwasgariad ond maen nhw'n bwysig mewn ardaloedd fel Ynys Môn, Gwastadeddau Gwent, rhannau o Sir Benfro, a dyffrynnoedd afonydd. Mae llawer o'r enghreifftiau ohonyn nhw yng Nghymru yn fach, yn dameidiog, neu wedi'u newid gan waith draenio, ond maen nhw'n gallu cynnal bioamrywiaeth uchel o hyd.

Mae llystyfiant fel arfer yn gyfoethog o ran rhywogaethau ac yn amrywio gan ddibynnu ar gemeg y dŵr a sut mae'n cael ei reoli. Mae planhigion cyffredin yn cynnwys rhywogaethau Carex (hesg), rhywogaethau Juncus (brwyn), Molinia caerulea (glaswellt y gweunydd),a blodau fel Filipendula ulmaria (erwain), Caltha palustris (gold y gors), ac Angelica sylvestris (llysiau'r angel). Mewn ardaloedd gwlypach, efallai y gwelwch hefyd Phragmites australis (cyrs cyffredin) a Typha latifolia (cynffon y gath).

Mae mwsoglau brown (yn hytrach na Sphagnum (migwyn) yn aml yn bresennol, gan ffurfio haenen amlwg dros y ddaear mewn  ffeniau o ansawdd uwch.

Gwelyau cyrs

Mae gwelyau cyrs yn gynefinoedd gwlyb sy'n cael eu dominyddu gan leiniau tal, trwchus o Phragmites australis (cyrs cyffredin), sy'n tyfu fel arfer mewn dŵr llonydd neu ddŵr sy'n llifo'n araf. Maent fel arfer i'w cael ar dir isel fel gorlifdiroedd, ymylon llynnoedd, cronfeydd dŵr, a morlynnoedd arfordirol.

Yng Nghymru, mae gwelyau cyrs yn gymharol brin o'u cymharu â Lloegr, wedi'u crynhoi'n bennaf ar dir isel, gan gynnwys rhannau o Wastadeddau Gwent, Ynys Môn, ac o amgylch aberoedd a gwlyptir wedi'i reoli. Fe'u ceir yn aml mewn clytiau bach, tameidiog ond maen nhw'n gallu ffurfio lleiniau eang os yw'r amodau'n addas.

Mae eu nodweddiadol yn cynnwys:

  • Lleiniau trwchus, unffurf yn aml, o Phragmites australis (cyrs cyffredin), yn aml dros 2 m o daldra
  • Priddoedd sy'n ddwrlawn yn barhaol neu'n dymhorol, yn aml gyda dŵr llonydd
  • Coesau cyrs marw yn ffurfio haenen drwchus o ddeunydd planhigiol ar lawr

Ymhlth rhywogaethau cysylltiedig ceir Typha latifolia (cynffon y gath), Iris pseudacorus (gellesgen felen), a Sparganium erectum (cleddlys canghennog), yn enwedig ar yr ymylon. Mae Bryoffytau fel arfer yn brin oherwydd cysgod a deunydd marw'n cronni ar lawr.

Cyforgors llawr gwlad a gorgors

Mae cyforgorsydd llawr gwlad a gorgorsydd yn gynefinoedd ar fawndir sy'n cael eu ffurfio wrth i ddeunydd planhigion marw gronni a dadelfennu o dan amodau dwrlawn asidig a phrin eu maetholion . Bwydir y ddau fath gan law yn hytrach na chan ddŵr daear.

Mae cyforgorsydd llawr gwlad yn datblygu ym masnau'r iseldir gan ffurfio cromen o fawn sy'n codi uwchlaw'r tir o gwmpas. Mewn cyferbyniad, mae gorgorsydd i'w gweld fel arfer yn yr ucheldir, lle mae glawiad uchel yn caniatáu i fawn ffurfio "blanced" ddi-dor dros y dirwedd, yn fryniau a chymoedd.

Yng Nghymru, mae gorgorsydd yn gyffredin ar yr ucheldir fel Eryri, Mynyddoedd Cambria, a Bannau Brycheiniog. Mae gorgorsydd ar lawr gwlad yn brinnach o lawer ac yn fwy darniog. Enghreifftiau pwysig yw Cors Fochno, Cors Caron, a safleoedd ar Ynys Môn ac yn y De.

Mae'r llystyfiant yn brin ei rywogaethau ond yn hynod unigryw, gyda mwsoglau sy'n ffurfio mawnfel Sphagnum (migwyn) yn dominyddu'n fawr. Mae'r planhigion fasgwlaidd cyffredin yn cynnwys Eriophorum vaginatum (plu'r gweunydd unben), Eriophorum angustifolium (plu'r gweunydd), Calluna vulgaris (grug), Erica tetralix (grug croesddail), a Drosera rotundifolia (gwlithlys). Mae rhywogaethau nodweddiadol eraill yn cynnwys Trichophorum cespitosum (clwbfrwynen y mawn) a Vaccinium oxycoccos (llugaeron).

Ar yr arwyneb ceir pyllau, twmpathau a 'lawntiau' gyda gwahanol rywogaethau Sphagnum (e.e. Sphagnum papillosum (math o figwyn), Sphagnum capillifolium (math o figwyn).

Gweirglodd y gorlifdir

Mae gweirgloddiau'r gorlifdir yn bodoli ar dir isel wrth ochr neu ger afonydd a nentydd ac yn cael eu boddi gan lifogydd tymhorol. Maen nhw i'w gweld fel arfer ar bridd llifwaddodol niwtral, lled-ffrwythlon, sy'n cael ei gyfoethogi o bryd i'w gilydd gan ddyddodion afonydd yn ystod llifogydd. Mae'r gweirgloddiau hyn yn cael eu rheoli am eu gwair, ac fel arfer ar ôl eu lladd, maen nhw'n cael eu pori'n ysgafn. Os dim ond ychydig o fewnbynnau a wasgerir ac y dilynnir trefn reoli draddodiadol, maen nhw'n gallu cynnal amrywiaeth eang o blanhigion blodeuol.

Mae'r llystyfiant fel arfer yn gymysgedd o laswellt a phlanhigion blodeuol. Mae'r glaswellt cyffredin yn cynnwys Alopecurus pratensis (cynffonwellt y maes), Festuca pratensis (peiswellt) a Cynosurus cristatus (rhonwellt y ci). Mae'r blodau nodweddiadol yn cynnwys Ranunculus acris (blodyn ymenyn), Filipendula ulmaria (erwain), Rhinanthus minor (cribell felen) ac fel arfer, Sanguisorba officinalis (bwrned mawr). Mae'r amrywiaeth o rywogaethau yn aml ar ei fwyaf os dim ond ychydig o faetholion sy'n cael eu gwasgaru ac y dilynir trefn reoli gyson, ond mae gweirgloddiau'r gorlifdir fel arfer yn gymharol gynhyrchiol am fod lefel maetholion y pridd yn naturiol uchel yn sgil llifogydd tymhorol.

Mae gweirgloddiau'r gorlifdir fel arfer dan ddŵr am ran o'r gaeaf neu ddechrau'r gwanwyn, ac mae'r dŵr yn cilio cyn y prif dymor tyfu. Mae pridd yn aros yn llaith am lawer o'r flwyddyn ond nid yw fel arfer yn ddwrlawn trwy'r amser, ac nid oes ynddyn nhw ddŵr sefydlog yn barhaol dros yr haf. Yn gyffredinol, mae strwythur y llystyfiant yn wastad ar y cyfan am fod y glaswellt yn cael ei ladd am wair, er bod amrywiadau'n digwydd oherwydd newidiadau micro-topograffig ar draws y weirglodd, gan ddibynnu ar amseriad y torri a dwyster y pori.

Yng Nghymru, mae gweirgloddiau'r gorlifdir sy'n gyfoethog eu rhywogaethau yn gynefin prin. Fe'u ceir yn bennaf ar lawr dyffrynnoedd ac ar orlifdir llawr gwlad ger y ffin â Lloegr, er bod tystiolaeth eu bod yn arfer bod yn llawer mwy cyffredin. Fe'u gwelwch mewn clytweithiau gyda mathau eraill o laswelltir gwlyb, fel glaswelltir corsiog a ffeniau llystyfiant tal, sy'n adlewyrchu gwahaniaethau o ran draenio, nifer y llifogydd a'r hanes rheoli.

Glaswelltir corsiog (llawr gwlad ac ucheldir)

Mae glaswelltir corsiog yn cynnwys amrywiaeth o gymunedau planhigion ar bridd mwynol, pridd mwynol mawnog, neu fawn bas (llai na 50cm o ddyfnder). Mae'r cymunedau hyn fel arfer yn cael eu dominyddu gan rywogaethau fel Molinia caerulea (glaswellt y gweunydd), rhywogaethau Juncus tal (brwyn), Filipendula ulmaria (erwain), neu Iris pseudacorus (gellesgen felen).  Bydd rhywogaethau dangosol eraill yn cynnwys Achillea ptarmica ystrewlys, Angelica sylvestris (llysiau'r angel), Comarum palustre (pumnalen y gors), Hydrocotyle vulgaris (dail ceiniog), Hypericum (rhywogaethau'r eurinllys), Lotus pedunculatus (pys y ceirw), Lythrum salicaria (llysiau'r milwr coch), Mentha aquatica (mintys y dŵr), Myosotis (rhywogaethau'r sgorpionllys), rhywogaethau'r tegeirian, Potentilla erecta (tresgl y moch), Ranunculus flammula (llafnlys bach), Carex (rhywogaethau'r hesg), Silene flos-cuculi (carpiog y gors), Succisa pratensis (tamaid y cythraul), Valeriana dioica (triaglog y gors), Viola palustris (fioled y gors) yn aml yn bresennol. Ni fydd fawr o orchudd o fwsogl Sphagnum. 

Yn gyffredinol, mae gan laswelltir corsiog lai o amrywiaeth o rywogaethau a llai o rywogaethau'r ffen na mathau eraill o gynefinoedd gwlyb.

Gall cymunedau rhostir gwlyb, gyda glaswellt y gweunydd yn dominyddu, ymddangos yn debyg, ond maent yn wahanol am fod ganddynt orchudd sylweddol (mwy na 25%) o Calluna vulgaris (grug) neu lwyni rhostir eraill. Gall rhai enghreifftiau gwael o lystyfiant ffen a chors hefyd fod yn debyg i laswelltir corsiog. Fodd bynnag, maen nhw'n wahanol am eu bod ar fawn dyfnach (mwy na 0.5 m). Fel arfer, mae cyfran uchel o orchudd llystyfiant cors go iawn yn rhywogaethau Sphagnum (migwyn) a/neu Eriophorum vaginatum (plu'r gweunydd unben).

Yn draddodiadol, mae'r rhan fwyaf o laswelltir corsiog wedi'i reoli fel tir pori garw ar gyfer da byw. Fe'u ceir gan amlaf fel rhan o glytwaith o gynefinoedd eraill, megis rhostir gwlyb, mignen (gan gynnwys corsydd, ffen a llaciau), a glaswelltir asidig neu niwtral sychach.

Calchbalmant (llawr gwlad ac ucheldir)

Mae calchbalmant yn gynefin unigryw yng Nghymru, er ei fod yn gymharol brin ac yn lleol.

Fe'u ceir yn bennaf ar galchfaen carbonifferaidd agored ar yr ucheldir a rhai mannau ar lawr gwlad, lle mae'r wyneb wedi'i siapio'n batrwm o flociau gwastad (clintiau) wedi'u gwahanu gan holltau dwfn (greiciau). Mae'r nodweddion hyn yn creu amrywiaeth o ficrogynefinoedd: mae'r clintiau yn sych ac yn agored ac mae'r greiciau mewn cysgod ac yn llaith. Mae'r gwahaniaeth hwn yn caniatáu i ystod o rywogaethau ddatblygu mewn ardal fach.

Mae llystyfiant ar galchbalmentydd yr ucheldir fel arfer yn glytwaith. Gall wyneb agored y clintiau gynnal glaswelltir calchaidd tenau, sy'n gyfoethog ei rywogaethau, gyda phlanhigion sy'n nodweddiadol o briddoedd calchfaen fel Thymus praecox (teim gwyllt) a Helianthemum nummularium (cor-rosyn cyffredin). Mewn cyferbyniad, mae'r greiciau'n aml yn cynnal rhywogaethau sy'n gallu goddef cysgod ac sydd angen lleithder, gan gynnwys rhedyn, mwsoglau, a blodau'r coetir fel Asplenium trichomanes (duegredynen gwallt y forwyn), Cystopteris fragilis (ffiolredynen frau), a Geranium robertianum (goesgoch).
Yn yr ucheldir, gall calchbalmentydd raddol droi'n gynefinoedd eraill, gan gynnwys glaswelltir calchaidd, glaswelltir asidig (lle mae trwytholchi wedi lleihau pH y pridd), prysgwydd, a hyd yn oed coetir lle nad oes pwysau pori. Mae hyn yn creu clytwaith o gynefinoedd cymhleth sy'n werthfawr am eu bioamrywiaeth.

Cynefin agored yr ucheldir

Diffinnir ucheldir fel tir uwchlaw terfyn uchaf y tir amaethyddol wedi'i amgáu, y cyfeirir ato'n aml fel "y tu hwnt i wal y mynydd", fel arfer tua 300m, lle mae'r tir gan fwyaf heb ei amgáu, o natur agored, gyda llystyfiant lled-naturiol yn dominyddu gan fwyaf.

Gall gynnwys cymysgedd o gynefinoedd fel clytwaith cydbleth neu gall pob un greu ei lain eang ei hun gan gynnwys rhostir (sych a gwlyb), cors, llac, ffen, glaswelltir asidig neu galchaidd, sgri craig, prysgwydd, rhedyn a choed gwasgaredig.

Rhostir sych yr ucheldir

Mae rhostir sych yr ucheldir i'w weld ar bridd asidig wedi'i ddraenio'n dda yn ucheldir Cymru, fel arfer uwchlaw terfyn y caeau amaethyddol wedi'u hamgáu. Fe'i nodweddir gan orchudd mawr o gorlwyni, fel arfer dros 25%, sy'n ffurfio canopi di-dor neu bron yn ddi-dor.

Y llystyfiant sy'n dominyddu fel arfer yw Calluna vulgaris (grug), yn aml gyda Vaccinium myrtillus (llus) ac Erica cinerea (grug y mêl). Mewn rhai ardaloedd, gall Ulex gallii (eithin mân) hefyd fod yn gyffredin. Mae'r haen isaf yn aml yn cynnwys glaswellt fel Deschampsia flexuosa (brigwellt main) ac Agrostis capillaris (maeswellt cyffredin), ynghyd â mwsoglau fel Pleurozium schreberi (math o fwsogl) a chennau.

Fel arfer mae gan rostir sych fel arfer briddoedd cymharol gadarn, wedi'u draenio'n dda heb laciau o ddŵr sefyll. Mae mawn, os yw'n bresennol, yn fas, fel arfer heb fod yn fwy na 0.5 m. o ddyfnder. Mae strwythur y llystyfiant yn aml yn eithaf amrywiol, gyda chlytwaith o gorlwyni amrywiol eu hoed, sy'n adlewyrchu'r drefn rheoli pori a llosgi.

Yng Nghymru, mae rhostir sych yr ucheldir yn eang, yn enwedig ar lethrau a chribau ucheldir y Gogledd, y Canolbarth a'r Gorllewin. Fe'u ceir yn gyffredin ochr yn ochr â glaswelltir asidig a rhedyn.

Rhostir gwlyb yr ucheldir

Mae rhostir gwlyb yr ucheldir i'w weld ar briddoedd wedi'u draenio'n wael, yn aml ar bridd mawnog yn yr ucheldir, lle ceir glawiad uchel a draeniad gwael. Bydd llai o orchudd o gorlwyni na rhostir sych ond fe'i diffinnir gan bresenoldeb rhywogaethau rhostir gwlyb.

Y llystyfiant sydd fel arfer yn dominyddu, neu'n dylanwadu'n drwm arno, yw Erica tetralix (grug croesddail), yn aml gyda Calluna vulgaris (grug) a Vaccinium myrtillus (llus).  Rhywogaeth allweddol sy'n ei wneud yn wahanol yw Trichophorum germanicum (clwbfrwynen y waun), sydd fel arfer yn gyffredin. Mae planhigion cyffredin eraill yn cynnwys Molinia caerulea (glaswellt y gweunydd), Narthecium ossifragum (llafn y bladur), ac amrywiaeth o fwsoglau Sphagnum.

Mae priddoedd rhostir gwlyb fel arfer yn ddwrlawn am o leiaf rhan o'r flwyddyn, a gall pyllau bas neu pantau gwlyb fod yn bresennol. Mae mawn yn aml yn fas i gymedrol o ran dyfnder ond gall fod yn ddyfnach os yw'n gysylltiedig â gorgors. O'i gymharu â rhostir sych, mae gan rhostir gwlyb is-haen meddalach a gwlypach a strwythur llystyfiant mwy agored, anwastad. 

Yng Nghymru, mae rhostir gwlyb yr ucheldir yn gyffredin mewn ardaloedd lle ceir glawiad trwm, yn enwedig yn y gorllewin a'r gogledd, ac mae'n aml i'w weld yn glytwaith gyda gorgors a llaciau.

Cors yr ucheldir

Mae cors yr ucheldir yn cyfeirio at ardaloedd o fawn dwfn, dwrlawn yn yr ucheldiroedd, yn fwyaf cyffredin ar ffurf gorgors. Mae'r cynefin hwn yn datblygu o dan amodau glawiad uchel ac anweddiad isel, lle mae dŵr yn atal deunydd planhigiol rhag pydru'n llawn, gan arwain at gronni mawn. Yng Nghymru, mae corsydd ucheldirol yn gyffredin, yn enwedig yn y gorllewin a'r gogledd gwlypach, ac mae'n aml yn digwydd ar dir gwastad neu ar lethr mwyn uwchlaw tua 300m.

Y llystyfiant sy'n dominyddu gan amlaf yw mwsoglau sy'n ffurfio mawn, yn enwedig Sphagnum spp. (migwyn), sy'n chwarae rhan allweddol wrth gynnal amodau dwrlawn. Ymhlith y planhigion blodeuol nodweddiadol y mae Eriophorum vaginatum (plu'r gweunydd unben), Eriophorum angustifolium (plu'r gweunydd) a Calluna vulgaris (grug). Ymhlith y rhywogaethau cyffredin eraill y mae Erica tetralix (grug croesddail), Vaccinium myrtillus (llus) ac Empetrum nigrum (chreiglus).

Mae corsydd yr ucheldir fel arfer yn wlyb iawn o dan draed a gallant gynnwys twmpathau a phantiau, pyllau neu laciau. O'u cymharu â rhostir, mae eu mawn yn ddyfnach, fel arfer yn fwy na 0.5m, a cheir mwy o fwsoglau Sphagnum a phlu'r gweunydd. Mae gorgors i'w weld yn aml mewn clytwaith agos gyda rhostir gwlyb a llaciau.

Ffen a llac yr ucheldir

Mae ffeniau a llaciau'r ucheldir i'w gweld lle mae symudiad dŵr daear neu ddŵr wyneb yn arwain at amodau gwlyb cyson, yn aml â mwynau alcalaidd. Yn wahanol i gorsydd, sy'n derbyn y rhan fwyaf o'u dŵr trwy law, mae ffeniau a llaciau dan ddylanwad dŵr mwynaidd sy'n llifo drwyddyn nhw neu sy'n codi i'r wyneb. Yng Nghymru, mae'r cynefinoedd hyn i'w gweld ledled yr ucheldiroedd, yn aml fel nodweddion bach ond pwysig o fewn clytwaith o gorsydd, rhostiroedd a glaswelltir.

Mae llaciau'n aml yn gysylltiedig â llethrau lle mae dŵr yn treiddio neu'n llifo dros yr wyneb, yn aml yn weladwy fel streipiau gwlyb i lawr llethrau neu ddarnau gwlyb sy'n cael eu bwydo gan bistyllod.

Mae ffen yn tueddu i ddigwydd mewn ardaloedd mwy gwastad lle mae dŵr yn cronni. Mae priddoedd fel arfer yn wlyb neu'n ddwrlawn am ran helaeth o'r flwyddyn ond yn fwy amrywiol nag mewn corsydd.

Mae'r llystyfiant fel arfer yn fwy amrywiol nag mewn corsydd ac yn aml mae hesg, brwyn a glaswellt yn dominyddu yn hytrach na chorlwyni. Ymhlith y rhywogaethau cyffredin mae Juncus acutiflorus (brwyn blodeufain), Carex nigra (hesg), Carex panicea (hesgen lwydlas) a Molinia caerulea (glaswellt y gweunydd). Gall amrywiaeth eang o flodau fod yn bresennol hefyd, megis Cirsium dissectum (ysgallen y ddôl), Succisa pratensis (tamaid y cythraul) a Parnassia palustris (brial y gors).

Mae Bryoffytau yn aml yn bwysig, yn enwedig mewn llaciau alcalaidd, a gallant gynnwys gwahanol rywogaethau o fwsogl heb Sphagnum yn dominyddu fel mewn corsydd. Mewn amodau mwy calchaidd, gall y cynefinoedd hyn fod yn arbennig o gyfoethog o rywogaethau gan gynnal llawer o blanhigion sy'n brin yn lleol.

Y gwahaniaeth allweddol rhyngddo â chors yr ucheldir yw dylanwad dŵr symudol, llawn mwynau, heb y mawn gyda Sphagnum yn dominyddu. O'i gymharu â rhostir gwlyb, fel arfer mae gan ffen a llac lai o gorlwyni a mwy o hesg a brwyn.

Glaswelltir metelaidd yr ucheldir

Mae glaswelltir metelaidd yr ucheldir yn gynefin prin, arbenigol sy'n gysylltiedig ag ardaloedd mwyngloddio metel hanesyddol, yn enwedig yn y Canolbarth, lle mae pridd sydd wedi'i gyfoethogi â phlwm, sinc a metelau trwm eraill yn cyfyngu twf planhigion i nifer fach o rywogaethau goddefgar. Gwelir y safleoedd ucheldirol hyn yn aml ar domenni mwyngloddiau, priddoedd tenau a graean afonydd halogedig mewn ardaloedd fel Cwmystwyth, gan gynnal llystyfiant prin, agored sy'n cael ei ddominyddu gan feteleffytau gan gynnwys Minuartia verna (tywodlys y gwanwyn) a Thlaspi caerulescens, (codywasg y mwynfeydd) ochr yn ochr â mathau o laswellt cyffredin sy'n goddef metel fel Festuca ovina. Mae cemeg y pridd gerwin hwn yn atal llystyfiant mwy cystadleuol rhag sefydlu, gan gynnal glaswelltir nodweddiadol, prin ei rywogaethau ond ecolegol werthfawr sydd o bwysigrwydd cadwraeth uchel yng Nghymru, yn enwedig lle mae pori ysgafn yn helpu i gadw ei strwythur agored o fewn y dirwedd ucheldirol ehangach.

Glaswelltir asidig yr ucheldir

Mae llystyfiant glaswelltir asidig fel arfer yn cael ei ddominyddu gan rywogaethau fel Festuca ovina (peiswellt y defaid), Agrostis capillaris (maeswellt cyffredin), Nardus stricta (cawnen ddu), Juncus squarrosus (brwynen droellgorun) a Deschampsia flexuosa (brigwellt main), gydag ystod gyfyngedig ond nodedig o flodau  cysylltiedig gan gynnwys Galium saxatile (briwydd wen), Potentilla erecta (tresgl y moch) a Rumex acetosella (suran yr yd). Gall ychydig o orchudd o gorlwyni fel Calluna vulgaris (grug) a Vaccinium myrtillus (llus) fod yn bresennol; dylid mapio lleiniau â gorchudd o fwy na 25% yn rhostir. Mae glaswelltir asidig heb ei wella yn gyffredin ac yn aml yn niferus yn ucheldiroedd ac ymylon ucheldiroedd Cymru. Gall orchuddio ardaloedd helaeth fel lleiniau unffurf neu gall fod yn rhan o glytwaith o lystyfiant gyda mathau eraill o laswelltir, grug, rhedyn a phrysgwydd. Fel arfer mae'n gysylltiedig â chreigwely asidig neu ddyddodion arwynebol alacalaidd, a geir ar ystod o briddoedd gyda pH < 5.5. Mae'r rhan fwyaf o'r cynefin yn cael ei reoli fel porfa ddefaid.

Atodiad B: cyfraddau talu am gynnal gweithredoedd rheoli

CodEitemCyfradd Dalu (£) 

 

Uned

Z101Morfa heli: lefel reoli uwch22.50  ha
Z102Morfa heli: lefel reoli uwch er lles y goesgoch30.00ha
Z103Morfa heli: adfer corsydd sydd wedi'u pori'n drwm182.25ha
Z104Morfa heli: lefel reoli uwch ar ran ucha'r morfa â thyfiant byr 60.00ha
Z105Twyni tywod: lefel reoli uwch22.50ha
Z107Clytwaith y llain arfordirol: lefel reoli uwch46.22ha
Z107Glaswelltir arfordirol: lefel reoli uwch46.22ha
Z108Clytwaith cynefinoedd yr arfordir: adfer60.00ha
Z109Glaswelltir arfordirol: lefel reoli uwch er lles y frân goesgoch22.50ha
Z110Rhostir yr arfordir: lefel reoli uwch30.00ha
Z111Rhostir gwlyb yr iseldir: lefel reoli uwch45.00ha
Z112Rhostir gwlyb yr iseldir: lefel reoli uwch (glaswellt y gweunydd yn dominyddu)45.00ha
Z113Rhostir sych yr iseldir: lefel reoli uwch45.00ha
Z114Rhostir sych yr iseldir: lefel reoli uwch (eithin mân yn dominyddu)45.00ha
Z115Rhostir yr arfordir a llawr gwlad: ei adfer o fod yn laswelltir79.92ha
Z116Glaswelltir corsiog yr iseldir: lefel reoli uwch45.00ha
Z117Glaswelltir gwlyb: lefel reoli uwch er lles adar rhydio sy’n bridio60.00ha
Z118Glaswelltir gwlyb: ei reoli er lles adar y dŵr ac adar rhydio sy’n gaeafu75.00ha
Z119Cors yr iseldir: lefel reoli uwch22.50ha
Z120Ffen yr iseldir: lefel reoli uwch22.50ha
Z121Gwelyau cyrs: lefel reoli uwch22.50ha
Z122Dôl ar orlifdir: lefel reoli uwch51.20ha
Z123Glaswelltir niwtral: lefel reoli uwch ar weirgloddiau45.00ha
Z124Glaswelltir niwtral: lefel reoli uwch ar dir pori67.44ha
Z125Glaswelltir niwtral: lefel reoli uwch ar weirgloddiau gan oedi'r torri45.00ha
Z126Glaswelltir niwtral: adfer70.00ha
Z127Glaswelltir asidig, calchaidd a metalaidd yr iseldir: lefel reoli uwch22.50ha
Z128Calchbalmant: lefel reoli uwch22.50ha
Z129Ucheldir: lefel reoli uwch ar glytwaith o gynefinoedd15.00ha
Z130Perllannau Traddodiadol: lefel reoli uwch84.90ha
Z131Gwrychoedd/Perthi: lefel reoli uwch er lles y frithribin frown0.49m
Z132Mawndir: adfer, ailgyflwyno pori45.00ha
Z133Coetir pori: lefel reoli uwch22.50ha
Z134Tir parc: lefel reoli uwch30.00ha
Z135Prysgwydd: lefel reoli uwch15.00ha
Z136Coetir: lefel reoli uwch, cadw stoc allan46.20ha
Z137Coetir: lefel reoli uwch, pori ysgafn15.00ha
Z138Gwrychoedd/Perthi: lefel reoli uwch0.445m
Z139Mawndir a newidiwyd yn sylweddol: adfer521.70ha
Z140Glaswelltir wedi'i wella: porfa fer er lles tirffurf daearegol22.50ha
Z142Mawndir a newidiwyd yn sylweddol: lefel reoli uwch478.02ha
Z143Arfordirol: gadael i ddŵr hallt orlifo dros dir wedi'i wella456.84ha
Z144Arfordirol: gadael i ddŵr hallt orlifo dros dir cynefin154.80ha
Z145Arfordirol: adfer prosesau naturiol ar dir wedi'i wella456.84ha
Z146Arfordirol: adfer prosesau naturiol ar dir cynefin154.80ha
Z147Afon: adfer prosesau naturiol45.00ha
Z148Arian prosiect arbennig ar gyfer rheolaeth benodolDyfynbrisitem
Z150Glaswelltir wedi'i wella: Rheoli er lles infertebratau mewn tail19.00ha
Z202Gweithred atodol: pori gyda stoc trwm30.00ha
Z203Gweithred atodol: cyfradd stocio is411.84LU
Z204Gweithred atodol: lefelau dŵr uwch ar dir wedi'i wella139.80ha
Z205Gweithred atodol: lefelau dŵr uwch - tir cynefin35.59ha
Z206Gweithred atodol: lefelau dŵr uwch ar fawndir30.48ha
Z207Gweithred atodol: cyfyngiadau ar afermectinau11.50ha
Z301Dŵr croyw: coridor ar lan y dŵr a rheoli llystyfiant774.00m2
Z302Dŵr croyw: creu coridor ar lan y dŵr 759.00m2
Z303Dŵr croyw: creu coridor ar lan y dŵr a rheoli llystyfiant789.00m2
Z304Dŵr croyw: creu pwll/pwll tymhorol newydd426.50ha
Z305Dôl ar orlifdir: creu ar dir wedi'i wella523.70ha
Z306Glaswelltir niwtral: creu ar dir wedi'i wella309.00ha
Z307Morfa heli: creu434.00ha
Z308Coetir: hwyluso ei ledaeniad naturiol ar dir wedi'i wella637.50ha
Z309Coetir: hwyluso ei ledaeniad naturiol ar dir cynefin272.10ha
Z310Coetir pori: creu ar dir wedi'i wella404.40ha
Z311Coetir pori: creu ar dir cynefin54.96ha
Z312Parcdir: creu84.90ha
Z313Perllannau Traddodiadol: eu creu ar dir wedi'i wella209.70ha
Z314Perllannau Traddodiadol: eu creu ar dir cynefin154.80ha
Z315Glaswelltir gwlyb: ei greu ar dir wedi'i wella er lles adar rhydio sy'n bridio521.70ha
Z316Glaswelltir gwlyb: ei greu ar dir wedi'i wella er lles adar y dŵr ac adar rhydio sy’n gaeafu544.20ha
Z317Gwelyau cyrs: creu ar dir cynefin107.75ha
Z318Gwelyau cyrs: creu ar dir wedi'i wella637.90ha
Z319Gwlypdir artiffisial: creu ar dir wedi'i wella660.00ha
Z320Rhostir yr arfordir a llawr gwlad: creu ar dir wedi'i wella571.50ha
Z321Rhostir yr ucheldir: creu ar dir wedi'i wella272.10ha
Z322Twyni tywod yr arfordir: creu ar dir wedi'i wella587.88ha
Z401Tir âr: llain nythu ar gyfer y gornchwiglen974.50ha
Z402Tir âr: llain nythu ar gyfer yr ehedydd972.00m2
Z403Tir âr: rheoli cnydau gorchudd a chwyn â pheiriant25.80ha
Z404Glaswelltir dwys: gadael i rygwellt hadu 514.00ha
Z406Tir âr: ymyl o borfa heb fewnbwn wrth ymyl cnwd âr954.80ha
Z408Tir âr: cnydau hadau i adar gwyllt1007.50ha
Z411Tir âr: stribedi o borfa heb fewnbwn mewn cae954.80ha
Z413Tir âr: Ei adfer yn laswelltir parhaol ar dir lle ceir risg o erydiad pridd a dŵr ffo633.26ha
Z416Glaswelltir dwys: glaswelltir parhaol heb fewnbwn (cae cyfan)207.79ha
Z417Glaswelltir dwys: llain glustogi o laswellt parhaol heb fewnbwn207.79ha

Atodiad C: cyfraddau talu ar gyfer gwaith cyfalaf

CodEitemCyfradd (£)Uned 
6501Gât Mochyn Daear41.10Eitem
6503Mieri / Rheoli Prysgwydd: Chwistrellwr Cefn â Llaw£0.029 m2 
6504Trawsddraeniau72.75
6505Adfer Wal Gerrig Sych33.42m2 
6506Adfer Clawdd10.89m2 
6507Ffens: Postyn a Rheilen 12.54m
6508Ffens: Postyn a Netin Stoc8.33m
6509Ffens: Postyn a weiren 5.81m
6510Ffens: Ffens Cwningod2.37m
6511Ffens: Weiren ar ben Wal2.49m
6512Coed Ffrwythau gyda Phostyn125.00Eitem
6513Cynnal Bwlch Cae â Rwbel9.36 m2 
6514Bondocio Perth/Gwrych a Chau Bylchau8.82m
6515Plygu Perth/Gwrych: Traddodiadol15.38m
6516Llewys Rhwyll Coed Unigol: >1.2m 38.51Eitem
6517Llewys Rhwyll Coed Unigol: >1.8m 43.52Eitem
6518Gosod cwrbin52.94m
6519Camfa Ysgol259.45Eitem
6520Plannu Perth/Gwrych Newydd ar Gyfer Pryfed Peillio9.39m
6521Giardiau Rhag Stoc ar Goed Parcdir94.40Eitem
6522Pibelli Cyflenwi Dŵr1.39m
6523Adfer pwll7.88 m2
6525Nwyddau dŵr glaw: Pibau13.73 m
6526Nwyddau dŵr glaw: cafnau glaw17.42 m
6527Gosod gât cerddwyr neu gât ceffyl fach o fetel yn lle camfa442.05Eitem 
6528Gosod gât cerddwyr neu gât ceffyl fach o bren yn lle camfa375.49Eitem
6529Adfer Crawiau28.55 m
6530Dargyfeirydd Dŵr ar Draws Ffordd38.60 m
6531Gwaith Peiriannu Meddal i Leihau Erydu ar Lannau Afonydd 115.96 m
6532Llewys Coed Rhag Cwningod0.58Eitem
6533Llewys coed i atal cwningod: Bioddiraddiadwy1.01Eitem
6534Gât safonol (pren caled)466.22Eitem
6535Gât safonol (pren meddal)225.92Eitem
6536Adfer Clawdd Wyneb Cerrig28.10m2
6537Cilbyst a Gât Ceffyl o Bren301.39Eitem
6538Cilbyst a Gât Mochyn o Bren362.00Eitem
6539Cysgod Coed: 60cm gyda phostyn2.21Eitem
6540Cysgod Coed: 60cm gyda phostyn: Bioddiraddiadwy 5.63Eitem
6541Coed a Llwyni: Coed Chwip6.32Eitem
6542Coed a Llwyni: Trawsblannu2.03Eitem
6543Coed: Plannu Llafnau6.32Eitem
6544Coed: Coed hirgyff24.35Eitem
6545Gât ddŵr337.81Eitem
6546Cafnau Dŵr224.00Eitem
6547Camfa Bren125.01Eitem
6601Tir âr: ymylon o wyndwn heb eu trin895.00ha
6602Tir âr: cnydau protein (heb reoli chwyn)277.00ha 
6603Tir âr: sofl wedi'i gadw53.00ha
6604Tir âr: talarau yd heb eu cynaeafu996.00ha
6605Tir âr: Cymysgedd o ydau a chnydau protein heb eu chwistrellu a’r sofl wedi’i gadw.315.00ha
6606Tir âr: Cymysgedd o ydau a chnydau protein heb eu chwistrellu375.00ha
6607Tir âr: Tir âr: ydau a chnydau protein heb eu chwistrellu, gyda gwyndynnydd cymysg wedi'u hau oddi tanynt375.00ha
6608Tir âr: Gwreiddgnwd neu gnwd pori heb ei chwistrellu ac ymylon caeau heb eu pori157.00ha
6609Tir âr: Ydau gwanwyn, heb eu chwistrellu, â gwyndwn cymysg wedi’i hau o danynt375.00ha
6610Tir âr: Ydau’r gwanwyn, heb eu chwistrellu, gyda meillion coch wedi’u hau o danynt.357.00ha
6611Tir âr: ydau'r gwanwyn heb eu chwistrellu, a'r sofl wedi'i gadw295.00ha
6612Tir âr: cnwd wedi'i hau yn y gwanwyn, heb ei chwistrellu218.00ha
6613Gwyndynnydd cymysg ar dir wedi'i wella341.00ha
6614Gwyndynnydd cymysg: gyda chyfnod caeedig ar gyfer blodeuo438.00ha
6615Meillion coch neu liwsern ar dir wedi'i wella272.00ha
6616Indrawn â chnwd wedi'i hau oddi tano (Gwanwyn/haf)134.00ha
6617Cnwd gorchudd bywyd gwyllt. Wedi'i gadw am 2 flynedd tan 15 Chwefror ddwy flynedd ar ôl ei sefydlu1870.00ha
6618Cnwd gorchudd bywyd gwyllt. Wedi'i gadw tan 15 Chwefror y flwyddyn sy'n dilyn1015.00ha
6701Blychau Nythu Tylluanod Gwynion120.50Eitem
6702Blychau ystlumod31.23Eitem
6704Griliau ystlumod177.50m2
6705Arolwg Ystlumod750.00Eitem
6706Blychau nythu adar21.50Eitem
6707Creu pyllau dŵr tymhorol5.52m2
6708Ffens ceirw13.32m
6709Gât ceirw391.00Eitem
6710Carthu Ffosydd3.06m
6711Blychau ar gyfer pathewod21.58Eitem
6712Adfer Wal Gerrig Sych: Mewngludo Cerrig70.00m2
6713Gwlyptir mewn ffos wedi’i wella334.80Eitem
6714Llifddorau piben hyblyg202.15Eitem
6717Matiau geojute3.868m2
6718Geodecstilau1.05m2
6719Gwair Gwyrdd407.367Ha 
6720Cau ffosydd226.00Eitem
6723Gosod wyneb caled26.24m2
6724Rheoli Grug: Llosgi195.00Ha
6725Rheoli Grug: Torri65.00Ha
6726Rheoli grug: torri a gwaredu148.2936Ha
6727Molinia: Rheoli â chemegau 112.00m2
6728Bylchau cae newydd135.00Eitem
6733Coed Perllan: Impio ac impio blagur47.00Eitem
6734Coed Perllan: Adfer trwy Docio70.50Eitem
6736Gwâl dyfrgwn105.00Eitem
6737Parcdir: Gatiau Haearn743.00Eitem
6738Parcdir: Ffensys Rheiliau Haearn70.50m
6740Creu pyllau6.54m2
6742Torri Cyrs2000.00ha
6744Plannu Cyrs: Hadau o leiniau presennol1824.48ha
6745Symud cafnau dipio defaid gan gynnwys unrhyw gorlannau cadw i safle gwell12439.00Eitem
6748Cael gwared ar bysgod brasGwiriwchEitem
6749Ail-fylchu aildyfiant naturiol i ffafrio rhywogaethau llydanddail brodorol450.00ha 
6750Torri llystyfiant â pheiriant ar rodfeydd a llennyrch at ddiben cadwraeth/brêc rhag tân 196.64ha
6753Creithio i annog coed neu grug i aildyfu’n naturiol o hadau52.14ha 
6754Clirio Prysgwydd/Coed: Â Llaw0.12m2
6755Clirio Prysgwydd/Coed: Â pheiriant195ha
6766Trapiau Gwaddodion208.5294Eitem
6767Rhwystr Diferion339.93Eitem
6768Profi Pridd: maetholion a pH 41.00Eitem
6770Gât safonol (metel)185.73Eitem
6772Bwyd adar atodol585.00Eitem
6773Pantiau120.8664Eitem
6774Gwella porfa gan ddefnyddio hadau o darddiad lleol (glaswelltir neu rostir)574.41ha
6775Rhywogaethau Planhigion Estron Goresgynnol Daearol a Dŵr Croyw: Clirio llystyfiant â llaw, trwy dynnu neu gloddio1200.00ha
6776Rhywogaethau Planhigion Estron Goresgynnol Daearol a Dŵr Croyw: Trin dail â chwynladdwr366.00ha
6777Rhywogaethau Planhigion Estron Goresgynnol Daearol a Dŵr Croyw: Monitro effeithiolrwydd triniaeth ar ôl rheoli planhigion o’r fath15.00ha
6781Rhywogaethau Planhigion Estron Goresgynnol Daearol:   Clwt-chwynnu gyda chwynladdwr 96.71ha
6779Rhywogaethau Estron Goresgynnol, Plâu a Chlefydau Daearol a Dŵr Croyw: Asesiad risg i fioddiogelwch340.00Eitem
6780Rhywogaethau Estron Goresgynnol Daearol a Dŵr Croyw: Cynllun rheoli rhywogaethau  estron goresgynnol 600.00 Eitem
6782Rhywogaethau Planhigion Estron Goresgynnol Daearol: Torri a thrin y bonyn680.00ha
6783Rhywogaethau Planhigion Estron Goresgynnol Daearol: Cloddio clymog Japan a chlymogau eraill a’u claddu ar y safleGwiriwchha
6784Rhywogaethau Planhigion Estron Goresgynnol Daearol: Torri (ac eithrio clymog Japan neu glymogau eraill)102.65ha
6785Rhywogaethau Planhigion Estron Goresgynnol Daearol: Rheoli Rhododendron a Llawryf – Ysgafn2580.00ha
6786Rhywogaethau Planhigion Estron Goresgynnol Daearol: Rheoli Rhododendron a Llawryf – Canolig3105.00ha
6787Rhywogaethau Planhigion Estron Goresgynnol Daearol: Rheoli Rhododendron a Llawryf – Anodd3630.00ha
6788Rhywogaethau Planhigion Estron Goresgynnol Daearol: Chwistrellu coesynnau gyda chwynladdwr630.00ha
6789Rhywogaethau Planhigion Estron Goresgynnol Daearol: Strimio a thocio (ac eithrio clymog Japan neu glymogau goresgynnol eraill)900.00ha
6790Rhywogaethau Estron Goresgynnol Daearol: Rafft mincod Americanaidd180.00Eitem
6791Rhywogaethau Estron Goresgynnol Daearol: Trapiau clyfar mincod Americanaidd169.89Eitem
6792Rhywogaethau Estron Goresgynnol Daearol: Trapiau gwiwerod llwyd56.63Eitem
6793Rhywogaethau Estron Goresgynnol Daearol: Gosod ac archwilio trapiau, lladd a gwaredu mincod240.00Eitem
6794Rhywogaethau Estron Goresgynnol Daearol: Gosod a gwirio trapiau, lladd a gwaredu gwiwerod llwyd225.00Eitem
6795Llifddor bren457.00Eitem
6799Bondocio coed3900.00ha
6800Trin coed (y dydd)560.00Diwrnod
6802Coed: Tocio Ffurfiannol 45.00Eitem
6804Coed: Brigdocio147.36Eitem
6805Stripio tyweirch1150.60ha
6806Clwt-chwynnu96.71ha
6807Meinciau Pren 164.00Eitem
6858Rheoli Rhedyn: Torri neu rolio â pheiriant ddwywaith y flwyddyn71.01ha
6860Torri neu rwystro draeniau caeau37.66Eitem
6862Aredig gan ddefnyddio aradr gynion79.47ha