Hannah Blythyn AS Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Cynnwys

Cyfrifoldebau'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.
Cynnwys
Bywgraffiad
Un o Sir y Fflint yw Hannah Blythyn. Yn falch o fod yn ‘Gog’, aeth i’r brifysgol sydd yn ei hetholaeth. Cafodd Hannah ei hethol yn Aelod y Cynulliad dros Ddelyn am y tro cyntaf yn etholiad 2016.
Yn ystod ei deunaw mis cyntaf fel Aelod, cadeiriodd Grŵp Trawsbleidiol Gogledd Cymru ynghyd â Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy ac roedd hi'n aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a Phwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Cyn cael ei hethol, bu Hannah yn gweithio i undeb llafur Unite ar bolisi a gwaith gwleidyddol. Roedd yn weithgar yn nifer o ymgyrchoedd llwyddiannus i newid y gyfraith a gwneud newidiadau cadarnhaol eraill. Mae’n gyn gadeirydd cangen LGBT Llafur ac roedd hi’n weithgar yn yr ymgyrch dros briodas gyfartal. Ar 13 Rhagfyr 2018 penodwyd Hannah yn Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Penodwyd Hannah yn Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar 13 Mai 2021.
Y tu allan i’r byd gwleidyddol, mae Hannah yn hoffi bod yn yr awyr agored. Mae’n feiciwr brwd a gymerodd ran mewn taith feicio ar draws Kenya dros elusen.
Cyfrifoldebau
- Cydlynu mesurau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi
- Cydlynu mesurau i liniaru Tlodi Plant
- Cynhwysiant Digidol
- Goruchwylio'r gwaith o ddosbarthu cyllid y Loteri yng Nghymru
- Diwygio Lles
- Tlodi Tanwydd
- Cynhwysiant ariannol, gan gynnwys undebau credyd
- Banc Cymunedol
- Y Gwasanaethau Tân ac Achub, gan gynnwys gwaith diogelwch rhag tân yn y gymuned
- Arwain ar bolisi mewn perthynas â'r Lluoedd Arfog yng Nghymru a Chyn-filwyr
- Rhaglen Cymru ac Affrica
- Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
- Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Cydlynu materion yn ymwneud â Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ceiswyr lloches, ffoaduriaid a chydlyniant cymunedol
- Atal caethwasiaeth, cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol
- Y sector gwirfoddol a gwirfoddoli
- Glasbrintiau Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddau Benywaidd
- Cadeirydd Fforwm Cymru Gydnerth
- Diogelwch Cymunedol
- Y berthynas â Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu, yr Heddlu ac Asiantaethau Cyfiawnder Troseddol eraill
- Perthynas â Llywodraeth y DU o ran carchardai a'r Gwasanaeth Prawf
- Gwasanaethau Cynghori ac Eiriolaeth
- Prif gyfrifoldeb am fonitro materion sy'n ymwneud â Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yng Nghymru
- Polisi penodiadau cyhoeddus a gweithredu
- Y berthynas â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
- Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus a Chyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol
- Cyflog Byw
- Gwaith Teg