Hawlio ad-daliad o Dreth Trafodiadau Tir (LTT) a dalwyd ar y gyfradd uwch os ydych chi wedi lesio eich eiddo i awdurdod lleol yng Nghymru (megis Cynllun Prydlesu Cymru).
Pwy sy’n gallu hawlio ad-daliad
Gallwch hawlio ad-daliad os:
- prynwyd yr eiddo rhwng 13 Chwefror 2026 a 31 Mawrth 2031
- yw’r eiddo werth £400,000 neu lai
- cafodd y les ei throsglwyddo i o awdurdodau lleol Cymru:
- o fewn 18 mis i’r pryniant gwreiddiol
- cyn 31 Mawrth 2031
- cafodd pryniant yr eiddo ei gofnodi a TTT ei thalu ar y gyfradd uwch
- oes gan yr eiddo les sy’n para rhwng 5 ac 20 mlynedd
- yw’r rhent am logi’r eiddo yn llai nag uchafswm y Lwfans Tai Lleol (LHA)
Rhaid i’r hawliad:
- gael ei wneud o fewn 12 mis i’r dyddiad pan roddwyd y les i awdurdod lleol yng Nghymru
- gael ei gyflwyno ar ffurf hawliad am ad-daliad yn hytrach na diwygiad i ffurflen dreth
Bydd y brif gyfradd TTT dal yn berthnasol.
Fel arfer mae'n cymryd 15 i 20 diwrnod gwaith i brosesu eich cais. Gall gymryd mwy o amser os bydd angen mwy o wybodaeth arnom.
Os byddwch yn diweddu’r les gyda'r awdurdod lleol yn gynnar
Os gwnaethoch hawlio ad-daliad a’ch bod yn dod â'r les i ben gydag awdurdod lleol yng Nghymru o fewn 5 mlynedd i ddyddiad dechrau'r les, mae’n rhaid i chi:
- gyflwyno ffurflen dreth arall i Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a thalu unrhyw TTT sy'n ddyledus
Bydd swm y TTT sy'n ddyledus yr un fath â swm yr ad-daliad a hawliwyd yn wreiddiol.
Cyn i chi ddechrau
Gwnewch yn siŵr fod yr wybodaeth ganlynol gennych cyn dechrau.
Manylion y trafodiad gwreiddiol
Bydd angen i chi ddarparu:
- eich manylion personol neu fanylion eich cwmni, gan gynnwys:
- enw llawn
- cyfeiriad
- rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost
- Cyfeirnod Unigryw y Trafodiad (CUT) 12 digid sydd ar eich ffurflen dreth
- manylion am yr eiddo, gan gynnwys:
- cyfeiriad
- dyddiad y prynwyd yr eiddo
- tystiolaeth eich bod wedi lesio eich eiddo i awdurdod lleol yng Nghymru (copïau electronig o gontractau dyddiedig wedi'u llofnodi)
- swm yr ad-daliad rydych yn ei hawlio:
- sef y TTT cyfradd uwch rydych wedi'i dalu minws y brif gyfradd ar gyfer eich eiddo
- gallwch ei gyfrifo gan ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth
- manylion banc ar gyfer derbyn yr ad-daliad:
- enw deiliad y cyfrif
- rhif y cyfrif
- cod didoli
Os gwnaethoch hawlio Rhyddhad Anheddau Lluosog (MDR) ar yr eiddo, bydd angen i chi ddarparu dogfennaeth ychwanegol, darllenwch ein canllawiau technegol.
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.
Cymorth
Os oes angen help arnoch neu os hoffech gael y ffurflen hon mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
