Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon i hawlio ad-daliad Treth Trafodiadau Tir (TTT) os yw eich eiddo yn anaddas i’w ddefnyddio fel annedd.
Gallwch wneud cais neu newid eich ffurflen os:
- mai chi yw prynwr yr eiddo
- mai chi yw’r cyfreithiwr neu'r trawsgludydd a weithredodd ar ran y prynwr yn y pryniant gwreiddiol
- ydych chi’n rhywun arall sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu ar ran y prynwr
Cyn i chi ddechrau
Darllenwch ein canllawiau ar eiddo adfeiliedig a thynnu gosodiadau a ffitiadau i gael gwybod os yw’r eiddo yn anaddas ar gyfer ei ddefnyddio fel annedd.
Bydd angen i chi ddarparu:
- eich manylion
- manylion y prif brynwr os ydyn nhw’n wahanol i'ch manylion chi
- manylion y trafodiad gwreiddiol
- cyfeirnod unigryw, 12 digid, y trafodiad (CUT)
- tystiolaeth sy'n dangos fod yr eiddo yn adfeiliedig neu'n anaddas i’w ddefnyddio fel annedd
- swm y dreth a dalwyd yn wreiddiol
- faint o dreth sydd i’w ad-dalu
- manylion cyfrif banc a chod didoli’r person fydd yn derbyn y taliad
- tystiolaeth sy’n dangos fod yr eiddo yn adfeiliedig neu’n anaddas ar gyfer ei ddefnyddio fel annodd, fel copïau electronig sy’n dangos:
- cyflwr yr eiddo
- unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen
Tystiolaeth a argymhellir
Rydym yn argymell defnyddio:
- adroddiadau, er enghraifft:
- adroddiad prynwyr cartref Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
- adroddiad syrfewyr
- adroddiad strwythurol
- adroddiad arolygydd adeiladu
- ffotograffau o gyflwr yr eiddo
manylion y gwerthiant
Yn ogystal â'r dystiolaeth hon, gallwch uwchlwytho:
- contract gwerthu
- caniatâd cynllunio
- anfonebau a derbynebau ar gyfer gwaith a gwblhawyd
- ffurflen eithrio rhag y Dreth Gyngor
Nid darparu tystiolaeth fydd yr unig factor sy’n pennu canlyniad hawliad llwyddiannus am ad-daliad.
Cysylltwch â ni os oes arnoch angen cyflwyno hawliad neu welliant heb dystiolaeth ategol.
Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Edrychwch ar ein polisi preifatrwydd i weld sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi i ni.
Cymorth
Os oes angen cymorth arnoch neu os hoffech y ffurflen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
