Mae'n bosibl y byddwch yn gallu cael trafnidiaeth am ddim neu o leiaf gymhorthdal tuag at y gost yn ystod eich cwrs:
- os ydych dros 16 oed, yn astudio yn eich ysgol leol ac yn teithio dros bellter penodedig i gyrraedd yno
- os ydych yn 16-19 oed ac yn astudio'n llawn-amser mewn coleg Addysg Bellach
- os ydych yn 19 oed neu’n hŷn neu'n astudio’n rhan amser
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth.
Neu gallwch siarad â’ch ysgol neu goleg.