Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen sydd wedi'i chynllunio i'ch helpu chi a'ch teulu i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Cynnwys
Beth yw Teuluoedd yn Gyntaf
P'un a ydych chi'n wynebu heriau gartref, yn yr ysgol, neu yn eich cymuned, mae Teuluoedd yn Gyntaf yn dwyn ynghyd ystod o wasanaethau sy'n hawdd eu cyrraedd. Gall Teuluoedd yn Gyntaf helpu gyda'r canlynol:
- cyngor a chymorth rhianta
- addysg eich plant a phresenoldeb ysgol
- gwella iechyd a lles eich teulu
- cyngor o ran cyllideb yr aelwyd, tai neu fudd-daliadau
- cael mynediad at wasanaethau arbenigol pe bai angen
- cymorth i bobl ifanc (rhwng 11 a 25 oed)
Pwy all ddefnyddio Teuluoedd yn Gyntaf?
Gall unrhyw deulu â phlant, neu bobl ifanc hyd at 18 oed (neu hyd at 25, os oes ganddynt anghenion ychwanegol), gysylltu â Teuluoedd yn Gyntaf. Does dim ots os ydych chi'n wynebu her newydd, neu wedi bod yn ceisio datrys problem ers tro, mae cefnogaeth ar gael i bawb.
Sut mae cael cymorth?
Gallwch gysylltu â Teuluoedd yn Gyntaf drwy wefan eich awdurdod lleol. Fe gewch wybodaeth am sut i ofyn am gymorth, pa wasanaethau sydd ar gael, a sut i ddechrau arni. Gallai'r help rydych chi'n ei gael fod yn wahanol gan ddibynnu ar ble rydych chi'n byw, gan fod pob awdurdod lleol yn penderfynu pa gymorth sydd ei angen fwyaf, yn seiliedig ar anghenion eu cymuned.
Dewch o hyd i wasanaeth Teuluoedd yn Gyntaf eich awdurdod lleol
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Cyngor Sir Caerfyrddin
- Cyngor Sir Ceredigion
- Dinas a Sir Abertawe
- Cyngor Sir Caerdydd
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Sir Ddinbych
- Cyngor Sir y Fflint
- Cyngor Gwynedd
- Cyngor Sir Ynys Môn
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Cyngor Sir Fynwy
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- Cyngor Dinas Casnewydd
- Cyngor Sir Benfro
- Cyngor Sir Powys
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
- Cyngor Bro Morgannwg
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ba gymorth sydd ar gael, cysylltwch â'ch awdurdod lleol. Gallwch hefyd siarad â'ch ysgol, eich ymwelydd iechyd, neu weithiwr proffesiynol arall yr ydych yn ymddiried ynddo.
Am ragor o wybodaeth, cyngor a chymorth, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
