Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac arolwg Cydgysylltwyr Datblygu Cynaliadwy Cymru+
Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolwg 2026.
Ar y dudalen hon
1. Pwy sy’n casglu fy nata?
Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd â'r nod o wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol Cymru.
Nod rhwydwaith Cydgysylltwyr Datblygu Cynaliadwy Cymru+ yw bwrw ymlaen â datblygiadau cynaliadwy a’u cefnogi wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynorthwyo sefydliadau'r sector cyhoeddus gyda'u tasg o ymgorffori datblygu cynaliadwy ar draws eu dull cyflawni, er mwyn gwella canlyniadau i Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg o aelodau rhwydwaith Cydgysylltwyr Datblygu Cynaliadwy Cymru+, sy'n cynnwys y cyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i rannau 2 a 3 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Diben yr arolwg yw:
- dysgu mwy am brofiadau'r aelodau o fod yn rhan o rwydwaith Cydgysylltwyr Datblygu Cynaliadwy Cymru+.
- ceisio barn ar rwydweithiau eraill.
- ceisio adborth gan gyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
- gwahodd cyfranogwyr yr arolwg i gymryd rhan mewn cymorth gan gymheiriaid.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr arolwg hwn.
2. Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn
Mae'r hysbysiad hwn yn nodi sut y byddwn yn defnyddio eich data personol.
Darperir yr hysbysiad hwn yng nghyd-destun yr hysbysiad a ddarperir i fodloni'r rhwymedigaethau fel y'u nodir yn Erthyglau 13 a 14 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018.
3. Data personol sy'n cael eu casglu gennym
Mae'r data personol y byddwn yn eu casglu gennych ar gyfer cwestiwn 7 o'r arolwg yn cynnwys:
- Manylion cyswllt (enw, sefydliad, cyfeiriad e-bost)
Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu eich ymatebion i'r arolwg ac unrhyw ddata personol eraill drwy'r platfform SmartSurvey, sydd wedyn yn storio'r ymatebion hynny a data personol eraill ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Wrth gael mynediad i SmartSurvey, mae eich cyfeiriad IP yn cael ei waredu, hy nid yw'n cael ei storio yn unman ac nid oes modd i unrhyw ddefnyddiwr ei weld.
Mae'r arolwg yn darparu meysydd ateb testun rhydd. Peidiwch â rhoi unrhyw ddata personol yn y meysydd ateb hyn. Bydd unrhyw ddata personol a roddir yn y meysydd ateb hyn yn cael eu dileu.
4. Sut y byddwn yn defnyddio eich data personol
Diben prosesu eich data personol yw ein galluogi i gyflawni ein swyddogaethau fel Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys:
- dadansoddi'r ymatebion i'r arolwg.
- cysylltu â chi eto i gymryd rhan mewn cymorth cymheiriaid os ydych wedi cytuno i hynny.
Nid oes rhaid ichi ddarparu unrhyw ddata personol i gymryd rhan yn yr arolwg, ac mae pob cwestiwn yn ddewisol. Ni fydd Smart Survey yn casglu eich data personol oni bai eich bod yn eu rhoi yn y meysydd testun rhydd.
5. Ein sail gyfreithlon
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol o dan Erthygl 6 o GDPR y DU yw:
Erthygl 6 (1) (e) Tasg gyhoeddus:
Mae angen prosesu gwybodaeth er mwyn cyflawni gorchwyl er budd y cyhoedd neu er mwyn arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r rheolydd data.
Mae'r prosesu hwn yn angenrheidiol er mwyn arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, er mwyn hyrwyddo neu wella llesiant economaidd, cymdeithasol, ac amgylcheddol Cymru. Mae'r arolwg hwn yn gyfle i Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru gael barn sefydliadau am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i lywio'r gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau yn y dyfodol.
6. Â phwy y byddwn yn rhannu'ch data personol
Os byddwch yn darparu eich manylion cyswllt, mae'n bosibl y byddant yn cael eu rhannu â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i ymgymryd â chymorth gan gymheiriaid. Bydd hyn at ddibenion cysylltu â chi eto mewn perthynas â dull o weithredu cymorth gan gymheiriaid sy'n ymwneud â chyflawni'r ddyletswydd llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu'r atebion a gyflwynwyd i'r arolwg gyda rhwydwaith Cydgysylltwyr Datblygu Cynaliadwy Cymru+.
Er y bydd eich data personol yn cael eu prosesu gan Smart Survey, ni fyddwn fel arall yn rhannu eich data personol gyda Smart Survey.
7. Am ba hyd y bydd eich data personol yn cael eu cadw
Bydd eich data personol yn cael eu cadw yn unol ag Rhestr Cadw a Gwaredu Llywodraeth Cymru, a byddant yn cael eu storio mewn ardal ddiogel yn i-Share (system rheoli dogfennau fewnol Llywodraeth Cymru).
Ni fyddwn yn cadw eich data personol am yn hirach na tair blynedd yn unol â chofnodion “Busnes Rheolaidd – Tymor Byr” fel y nodwyd yn Rhestr Cadw a Gwaredu Llywodraeth Cymru. Os hoffech chi inni ddileu eich data personol, gallwch gysylltu â ni i ofyn inni wneud hynny. Mae ein manylion cyswllt o dan adran 10 o’r hysbysiad hwn.
8. A fydd fy nata’n cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau awtomatig neu ar gyfer proffilio?
Ni fyddwn yn defnyddio eich data ar gyfer unrhyw benderfyniadau awtomatig.
9. Eich hawliau
Mae gennych hawliau dros eich data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018. Mae'r Is-adran Dyfodol Cynaliadwy yn sicrhau bod eich hawliau'n cael eu cynnal wrth brosesu eich data personol.
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i wneud y canlynol:
- gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, a gofyn am gopi ohonynt
- mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wallau yn eich data heb oedi
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn rhai amgylchiadau)
- gofyn inni 'ddileu' eich data (mewn rhai amgylchiadau)
- cludadwyedd y data (mewn rhai amgylchiadau) (eich galluogi i gael eich data a’u hailddefnyddio ar gyfer gwahanol wasanaethau)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I arfer eich hawliau, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
10. Manylion cyswllt
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a sut mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Os nad ydych chi'n hapus â'r ffordd yr ydym wedi trin eich data personol ac eisiau gwneud cwyn, neu os hoffech arfer unrhyw un o'ch hawliau mewn perthynas â'ch data personol, ysgrifennwch at Swyddog Diogelu Data'r Adran.
11. Cwynion
Os ydych o’r farn bod eich data personol wedi eu camddefnyddio neu nad ydynt wedi cael eu trin yn gywir, gallwch wneud cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer y DU. Dyma fanylion cyswllt y Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
0303 123 1113
Ni fydd unrhyw gŵyn a wneir i'r Comisiynydd Gwybodaeth yn effeithio ar eich hawl i geisio iawn drwy'r llysoedd.
12. Diweddariadau i'r hysbysiad hwn
Os bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi’r fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Drwy adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd, gellir sicrhau eich bod bob amser yn gwybod pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu, sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno, ac o dan ba amgylchiadau y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill. Bydd dyddiad y diweddariad diwethaf ar waelod y dudalen hon, ac felly bydd y dyddiad hwnnw hefyd yn newid.
Os bydd unrhyw newidiadau'n effeithio'n sylweddol ar sut mae eich data yn cael eu prosesu, byddwn yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod ichi.
Cafodd yr hysbysiad hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 9 Mehefin 2026.
